sDNA
Mae Dadansoddi Rhwydwaith Dylunio (sDNA) Gofodol yn ddull safonol ar gyfer dadansoddi rhwydweithiau gofodol. Mae sDNA yn brosiect academaidd, llywodraethol a masnachol a ddechreuodd yn Ysgol Ddaearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.
Mae ein Cydymaith Ymchwil, Dr Crispin Cooper a’r ymchwilydd Cyswllt Dr Alain Chiaradia, sy’n ddarlithydd Dylunio Trefol, yn gweithio ar sDNA, sef meddalwedd dadansoddi rhwydwaith gofodol sydd ymhlith y gorau yn y byd, sy’n cydweddu â GIS a CAD. Mae Crispin ac Alain yn defnyddio cynrychiolaeth rhwydwaith safon y diwydiant i gynhyrchu metrigau sy’n cyfateb i iechyd pobl, cydlyniant cymunedol, gwerth tir, bywiogrwydd canol trefi, llif cerddwyr a seiclwyr, defnydd tir, lefel y traffig, damweiniau a throseddau.
Eu nod yw hyrwyddo ymarfer dadansoddi rhwydweithiau gofodol trwy:
- ddarparu gwasanaethau
- darparu hyfforddiant
- darparu sail gwybodaeth fel sylfaen ar gyfer penderfyniadau a pholisïau ar sail tystiolaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect sDNA ar eu gwefan.