Aildyfu Borneo
Mae Aildyfu Borneo yn brosiect ailgoedwigo a lliniaru carbon sy’n foesegol, tryloyw, ac wedi ei arwain gan ymchwil. Dyma brosiect cyntaf o’i fath gan un o brifysgolion y DU ac un a arweinir gan Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, Canolfan Maes Danau Girang a KOPEL Bhd ym Morneo.
Ar adeg pan mae gweithredu ar yr argyfwng hinsoddol mor bwysig ag erioed, mae Aildyfu Borneo’n cyflwyno model a arweinir gan ymchwil o ailgoedwigo cynaliadwy a moesegol sy’n mynd y tu hwnt i ddal a storio carbon. Mae coed yn cael eu plannu mewn ffordd fydd yn gwella bywydau a bywoliaethau mewn cymunedau lleol yn ogystal â chynyddu bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau yn Kinabatangan Is, Sabah, Malaysia.
Mae ehangu planhigfeydd olew palmwydd yn Kinabatangan Isaf wedi arwain at golli tri chwarter y goedwig law ers dechrau’r 1970au.
Rydym yn partneru â chymunedau lleol sy’n tyfu egin o hadau a gesglir yn y goedwig, ac yn eu talu cyflog byw am eu gwaith, gan roi ffynhonnell amgen gynaliadwy o incwm rhag amaethyddiaeth olew palmwydd.
Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno sail o dystiolaeth ar effeithiolrwydd ein harddull. Mae ein diddordeb yn mynd y tu hwnt i garbon i gynhyrchu dealltwriaeth gyfannol o fuddion (ac anfanteision posibl) lleihau carbon. Mae ein tîm yn cynnwys arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ecoleg, erydu pridd, llywodraethu, a’r gwyddorau cymdeithasol, sy’n ein galluogi i ddeall sut mae adfer yn effeithio ar iechyd y goedwig a’r bobl sy’n byw ynddi ac ar ei hymyl.
Adroddiad Effaith Blwyddyn Beilot
Dysgwch ragor am y gwaith y mae Aildyfu Borneo wedi llwyddo i'w wneud yn ystod ei flwyddyn beilot, hyd at fis Medi 2020.
Ein hamcanion
Nodau’r prosiect yw:
- cydbwyso carbon
- gwella bioamrywiaeth a chefnogi cadwraeth ecoleg leol
- gwella dealltwriaeth wyddonol o effeithiau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ailgoedwigo trofannol
- cynnal bywoliaeth lleol
- cynnig cyfleoedd i sefydliadau ac unigolion liniaru eu hallyriadau carbon anorfod eu hunain drwy gefnogi plannu coed.
Sut gallwch chi helpu
Dim ond £2 mae’n ei gostio i dyfu, plannu a chynnal coeden am dair blynedd.
- Er bod y coronafeirws (COVID-19) yn parhau i reoli ein bywydau pob dydd, mae angen mynd i’r afael â’r argyfwng hinsoddol ar unwaith.
- Os ydych yn gorfod teithio, gallwch gyfrannu’r symiau a argymhellir yn seiliedig ar y pellter rydych chi’n ei hedfan, neu roi beth bynnag rydych chi’n gallu ei fforddio. Dim ond £2 mae’n ei gostio i dyfu, plannu a chynnal coeden am dair blynedd.
- I gael syniad faint ydym ni’n argymell eich bod yn rhoi ar sail pa mor bell yr ydych chi’n hedfan, defnyddiwch ein map rhoddion a argymhellir isod.
Beth mae eich rhodd yn ei gefnogi
Bydd pob ceiniog rydym yn ei dderbyn yn cael ei fuddsoddi mewn mentrau plannu coed cymunedol lleol. Bydd eich cyfraniadau yn ail-dyfu’r goedwig law, a byddwch yn helpu i achub orangwtaniaid a chreaduriaid eraill sydd mewn perygl.
Bydd incwm a roddir yn cael ei reoli gan Ganolfan Maes Danau Girang. Sefydliadau cymunedol, megis The Batu Puteh Community Ecotourism Co-operative (KOPEL) fydd yn gyfrifol am blannu a chynnal coed ar safleoedd addas.
Bydd ailgoedwigo yn cael ei gynnal ar gyfradd sy’n adlewyrchu lefelau rhoi, felly byddwn yn monitro nifer y coed sy’n cael eu plannu ac yn adrodd yn ôl i’n rhoddwyr.
Byddwch chi’n gallu dilyn hynt eich cyfraniad wrth i ni dracio twf y coed rydym ni’n eu plannu. Byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi am faint o garbon sydd wedi’i dynnu allan o’r atmosffer yn ogystal ag effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd eraill.
Hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol
Byddwn yn datblygu sail ar gyfer sicrhau cynaliadwyedd cymdeithasol, gan gynnwys cyflog teg ar gyfer gwaith a gynhelir gan gymunedau lleol a chydymffurfio â safonau moesegol mewn cyflogaeth ac amodau gweithio.
Byddwn hefyd yn sicrhau bod cyfundrefnau plannu coed yn cydymffurfio ag arfer gorau er mwyn sicrhau ailgoedwigo trofannol ecolegol a chynaliadwy. Ni fydd y rheini sy’n plannu coed yn agored i amodau niweidiol, gan gynnwys cemegion niweidiol, a byddwn yn sicrhau cydraddoldeb rhywiol.
Egwyddorion arweiniol
- Gweithredu ar sail tystiolaeth: Byddwn yn cynnal ymchwil i fesur effaith plannu coed ar leihau carbon, bioamrywiaeth, yr ecosystem ac iechyd y gymuned. Bydd hyn yn sicrhau bod y Brifysgol yn gweithio ar flaen y gad o ran gwyddor cynaliadwyedd a bydd yn cynnwys rhwydwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol i ymchwilio i leihau carbon a manteision i fywyd gwyllt, systemau ecolegol a chymunedau lleol.
- Hedfan llai: Byddwn yn alinio ag amcanion hedfan llai gan y bydd y prosiect yn seiliedig ar yr egwyddor o wrthbwyso’r hyn na ellir ei osgoi neu ei leihau yn unig.
- Moesegol: Ein prif nod yw asesu’n gywir y costau o gydbwyso carbon sy’n gysylltiedig â theithio mewn awyren. Mae llawer o raglenni gwrthbwyso masnachol yn honni gwrthbwyso carbon ar gyfraddau afrealistig o isel. Byddai ein gwaith hefyd mewn cydweithrediad â sefydliadau cymunedol sydd wedi’u lleoli yn Borneo a bydden ni’n sicrhau bod y grwpiau hyn yn cael eu talu’n deg ac yn dryloyw am eu gwaith.
- Tryloyw: Byddwn yn archwilio’r holl roddion yn agored, a bydd pob person sy’n rhoi yn gallu dilyn hynt eu rhodd. Byddwn hefyd yn mesur ac yn cyhoeddi effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ein rhoddion. Byddwn yn onest yn ein holl gyfathrebiadau, ein trafodion a’n gweithrediadau.
Cydweithio â ni
Ydych chi’n gweithio i brifysgol? Ymunwch â ni fel partner yn y fenter gyntaf o’i math mewn Prifysgol yn y DU.
Ydych chi'n cynllunio cynhadledd neu ddigwyddiad? Ystyriwch gydweithio â ni i annog rhoddion pan fydd cynadleddwyr yn trefnu i hedfan. Nid yn unig y bydd hyn yn aildyfu Borneo, ond bydd hefyd yn helpu i wneud y gynhadledd yn un carbon niwtral.
Ydych chi’n berchen ar fusnes? Beth am ystyried gwneud rhodd un tro i wrthbwyso eich holl deithiau busnes, neu annog eich gweithwyr i wneud rhodd wrth deithio?
Bwriadu hedfan? Gwnewch rodd unigol i gydbwyso eich allyriadau carbon ac aildyfu'r goedwig law
Rydym ni'n hapus i drafod unrhyw gyfleoedd cydweithio.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau – neu os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect neu ymuno â ni fel partner – cysylltwch: