Ewch i’r prif gynnwys

Pecyn gwerthuso ardystiad a dulliau ar gyfer ysbrydoli defnyddwyr i ymddiried yng nghynhyrchion bwyd

Mae’r prosiect CERTAIN yn archwilio effaith ecolegol, gymdeithasol ac economaidd ardystio meini prawf ar gyfer systemau cynhyrchu a’r system gymdeithasol-ecolegol o’u cwmpas.

Mae yna ddiffyg atebolrwydd cyffredinol dros effaith meini prawf ardystio ar y paramedrau amgylcheddol a chymdeithasol, yn sgil y diffyg data ar gyfer gwerthuso effaith meini prawf ardystio; lle mae effaith wedi’i werthuso, mae yna ddiffyg dull methodolegol safonedig, sy’n golygu bod gwneud casgliadau cymharol neu fwy cyffredinol yn anodd.

Mae’r prosiect peilot yn cymharu pedair astudiaeth achos wahanol: ardystiad IBD (sefydliad ardystio organig ym Mrasil), Cynghrair y Coedwigoedd Glaw (RA; label ardystio), Masnach Deg Ryngwladol (FLO; sef label ardystio sy’n seiliedig ar drefnu cynhyrchwyr yn gwmnïau cydweithredol) a Chymdeithas Undod Ffermwyr Ecolegwyr Porto Alegre (AFSE; sef cwmni cydweithredol o gynhyrchwyr bach) i archwilio sut mae labelau ardystio a chymdeithasau/cwmnïau cydweithredol yn ysbrydoli hyder ac ymddiriedaeth ymysg defnyddwyr.

Hefyd, bydd y prosiect yn creu pecyn offer gwerthuso ardystio i fonitro a gwerthuso gweithgareddau.

Tîm y Prosiect

Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Susan Baker

Yr Athro Susan Baker

Professor

Email
bakerscm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5237

Prifysgol Gorllewin Lloegr

Dr Vikas Kumar

Dr Vikas Kumar

Associate Professor in Enterprise Operations Management