Ymddiriedaeth Glandŵr Cymru
Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru, corff anllywodraethol, mae’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn ymchwilio i sut mae’r cyhoedd yn elwa ar ddyfrffyrdd mewndirol Cymru a Lloegr.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am reoli rhwydwaith fwyaf y DU o 2000 milltir o ddyfrffyrdd mewndirol, ynghyd ag adeiladau a nodweddion hanesyddol eraill. Mae eu lleoedd yn cynrychioli cryn dipyn o le cyhoeddus ar gyfer teithio egnïol, hamdden, trafnidiaeth a gweithgaredd corfforol.
Arweiniodd y Cymrawd Ymchwil Dr Hannah Pitt gam cychwynnol yr ymchwil. Roedd ei hymchwil yn archwilio’r ffactorau cymdeithasol-ddemograffig a allai effeithio ar ddyfrffyrdd, ac yn ceisio amlygu sut gellir hwyluso lefelau ymglymiad uwch. Mae'r gwaith ymchwil wedi ein helpu i ddeall manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol dyfrffyrdd, ac ym mha ffyrdd eraill y maen nhw o bosibl yn cyfrannu at leoedd a chymunedau cynaliadwy mewn ffordd gadarnhaol.
Ar hyn o bryd mae'r Cydymaith Ymchwil Dr Najia Zaidi yn arwain yr astudiaeth. Mae ei hymchwil yn archwilio cymhlethdod rhwystrau cymdeithasol a strwythurol i gael mynediad at ddyfrffyrdd trefol ar gyfer cymunedau a grwpiau lleiafrifoedd ethnig a difreintiedig eraill. Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at gydnabod bod cynildeb cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yn bodoli o fewn grŵp yn hanfodol wrth fynd i'r afael â'r amrywiaeth a'r rhwystrau i gymryd rhan mewn mannau cyhoeddus gan gynnwys dyfrffyrdd.
Arweinydd y Prosiect
Rhagor o wybodaeth am ein gwaith gyda Glandŵr Cymru