Pennod tri: Astudiaethau achos wrth gynnal ymchwil
Yn yr adran hon ceir enghreifftiau o rai o'r prosiectau graddfa fawr lle mae gweithio rhyngddisgyblaethol ac ar sail mannau wedi ein galluogi i fynd i'r afael â phroblemau cynaliadwyedd cymhleth.
3.1 Gweithio ar draws Disgyblaethau Academaidd i Wella Cadwraeth Coedwigoedd
Mae datblygu cydweithio rhyngddisgyblaethol rhwng gwyddonwyr cymdeithasol, biolegwyr cadwraeth a gwyddonwyr amgylcheddol wedi arwain at ddulliau newydd o adfer ecolegol mewn amrywiol systemau ecolegol.
Noddfa Bywyd Gwyllt Kinabatangan Isaf
Mae'r goedwig drofannol sydd yn ecosystem gorlifdir Kinabatangan Isaf yn hynod o fioamrywiol ac yn cynnal poblogaethau sylweddol o rai o'r rhywogaethau anifeiliaid mwyaf eiconig ac sydd dan y bygythiad mwyaf yn Borneo. Ers y 1970au mae Kinabatangan wedi profi newidiadau eithafol yn sgil torri coed detholus ar gyfer pren caled a datblygu planhigfeydd olew palmwydd. Mae'r goedwig sy'n weddill yn dameidiog ac yn llai abl i gynnal bywyd gwyllt ac anghenion y cymunedau lleol. Mae graddfa enfawr y datgoedwigo'n bygwth nid yn unig gyfanrwydd yr ecosystemau, ond bywydau a bywoliaeth y cymunedau, ac yn galw am ddull ymchwil trawsddisgyblaethol sy'n ystyried nid yn unig adfer yr ecosystem, ond hefyd y cymunedau, busnesau a chyrff llywodraethol sy'n gwneud penderfyniadau ar gynaliadwyedd hirdymor gweithgareddau yn y rhanbarth yn y dyfodol.
Yn 2007, sefydlwyd Canolfan Maes Danau Girang yn Borneo fel cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah i ganolbwyntio ar warchod anifeiliaid sydd mewn perygl mewn tirwedd dameidiog. Drwy ein gwaith gyda'n gilydd, mae wedi ehangu i fod yn rhaglen ryngddisgyblaethol sy'n cynnwys ymchwil ar newid defnydd tir a'r effeithiau ar erydiad, ac ar systemau ecolegol-gymdeithasol wrth adfer a rheoli coedwigoedd. Roedd y trawsnewid hwn yn hanfodol i fynd i'r afael â'r problemau systemig oedd yn bygwth bioamrywiaeth, bywyd gwyllt a bywoliaeth y bobl leol.
Ein Hymchwil
Sefydlodd dau grant Menter Darwin sy'n canolbwyntio ar orangwtanau ac eliffantod Borneo linell sylfaen ar gyfer deall sut roedd darnio coedwigoedd yn effeithio ar hyfywedd hirdymor poblogaeth y rhywogaethau hyn a llawer o rywogaethau allweddol eraill yn dilyn hynny. Roedd y gwaith yn cynnwys datblygu dulliau arloesol mewn geneteg foleciwlaidd, synhwyro o bell, tocsicoleg, a modelu ecolegol. Arweiniodd cydweithio rhwng Canolfan Maes Danau Girang yn Borneo a'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy at ymchwil mewn deinameg afonydd, gwahanol agweddau ar systemau ecolegol-gymdeithasol, gan gynnwys llywodraethu, sut mae diogelu coedwigoedd yn effeithio ar gynnyrch olew palmwydd, a defnyddio rhwydweithiau mapio cynefinoedd a chamera cydraniad uchel i sefydlu dulliau o ddeall deinameg bioamrywiaeth mewn amser real.
Erbyn 2018, pan gynhaliodd Canolfan Maes Danau Girang ei chyfarfod dengmlwyddiant, roedd dros 100 o bapurau gwyddonol wedi'u cyhoeddi yn disgrifio ymchwil yn y rhanbarth, gan olygu mai'r Noddfa oedd un o'r rhanbarthau oedd wedi'i astudio a'i ddeall orau yn Ne-Ddwyrain Asia. Caiff canlyniadau'r ymchwil eu datblygu nawr ym menter Aildyfu Borneo mewn partneriaeth gyda sefydliadau anllywodraethol lleol, a chefnogaeth ein hymchwilwyr a sefydliadau a busnesau rhanbarthol.
Gweithio'n lleol
Roedd deall a gweithio gyda sefydliadau a chymunedau lleol a rhanbarthol yn agwedd bwysig ar ein dull rhyngddisgyblaethol o weithredu ar sail mannau. Roedd y rhain yn cynnwys Adrannau Bywyd Gwyllt a Choedwigaeth Sabah, sefydliadau anllywodraethol lleol a rhyngwladol, y sector preifat (cwmnïau olew palmwydd, cwmnïau ecodwristiaeth, ecodwristiaeth yn y gymuned) a grwpiau cymunedol. Cynhaliodd Richard Bloor, myfyriwr PhD o'r Sefydliad, ddadansoddiad manwl o'r rolau a'r rhyngweithiadau hyn, gan nodi pwysau, gwendidau ac atebion posibl i lunio dull cynhwysol o lywodraethu yn y Kinabatangan. Yn 2012, daeth ein hymchwilwyr â'r sectorau olew palmwydd a chadwraeth bywyd gwyllt at ei gilydd am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd. Rydym yn parhau i weithio gyda chymunedau a sefydliadau llywodraethol i hyrwyddo cadwraeth rhywogaethau ac adfer ac amddiffyn coedwigoedd, ac i gefnogi bywoliaeth gymunedol.
Trawsnewid meddwl
Byddai sefydlu rhaglen ail-goedwigo ar orlifdir Kinabatangan wedi bod yn hynod o heriol heb werthfawrogiad rhyngddisgyblaethol o'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau systemig yn y rhanbarth. Drwy gyfuno dull cadwraeth gyda chydnabyddiaeth o fuddiannau economaidd, cymunedol a sefydliadol gwahanol, rydym ni nid yn unig wedi creu rhaglen effeithiol ond hefyd wedi helpu i sicrhau cefnogaeth gan actorion cyhoeddus a phreifat allweddol yn yr ardal ac yn rhyngwladol.
3.2 Deall esblygiad risg ar ôl daeargryn mawr
Mae daeargrynfeydd mawr yn ddigwyddiadau cymhleth ac mae'n rhaid i gymunedau sy'n adfer ar eu hôl ymdopi â chyfraddau uwch o lifogydd a thirlithriadau, ac ar yr un pryd ymdrin â newidiadau i'w cymunedau a'u bywoliaeth. Dangosodd ein gwaith fod dibynnu ar beirianneg fel dull ar gyfer adfer yn arwain at gynyddu risg yn y cymunedau.
Daeargryn Wenchuan
Daeargryn Wenchuan yn 2008 oedd un o'r mwyaf marwol yn yr 21ain ganrif, gyda 87,587 o farwolaethau. Achosodd lleoliad y daeargryn ym mynyddoedd serth Gorllewin Tsieina dros 60,000 o dirlithriadau a ddinistriodd seilwaith ac oedd yn gyfrifol am hyd at draean o'r marwolaethau.
Erbyn 2015, roedd buddsoddiadau ariannol a thechnegol mawr gan lywodraethau taleithiol yn Tsieina wedi ailadeiladu ac ehangu llawer o'r seilwaith yn yr ardal i raddau helaeth. Fodd bynnag, roedd llifogydd trychinebus a llithriadau mwd wedi llesteirio'r adferiad ar ôl y daeargryn gan effeitho ar y tir gwastad gerllaw afonydd lle'r oedd llawer o'r seilwaith newydd yn cael ei adeiladu. Roedd y digwyddiadau hyn yn gronig, gyda llithriadau mwd sylweddol yn digwydd yn ystod cyfnodau monsŵn 2008, 2010, 2013 a 2019.
Mae'r ymatebion i natur wreiddiol perygl y daeargryn sy'n pwysleisio peirianneg a defnydd tir wedi newid patrwm y risg, fel bod llifogydd ar dir isel bellach yn effeithio ar fwy o gymunedau. Drwy fabwysiadu dull yn seiliedig ar fannau i ymdrin â’r problemau hyn, amlygwyd sut mae elfennau penodol o ddaearyddiaeth a datblygu, o siâp y dirwedd i safle'r seilwaith i systemau trafnidiaeth mawr, yn effeithio ar y risg posibl o lithriadau mwd a llifogydd ar ôl y daeargryn. Heb y meddylfryd cydgysylltiedig hwn, gall datrysiadau arwain yn anfwriadol at fwy o amlygiad i'r fath beryglon.
Ein Hymchwil
Daeargryn Wenchuan yw'r ail ddaeargryn mawr i gael ei archwilio'n fanwl yn y cyfnod modern, a gwnaed ein gwaith ar adeg pan oedd datblygiadau cyflym mewn delweddau lloeren cydraniad uchel yn gadael i ni weld newidiadau yn y tirlun, lle'r oedd adeiladau, argaeau a strwythurau eraill wedi'u hadeiladu, a llwybrau'r llithriadau mwd peryglus. Roedd yr arsylwadau hyn yn golygu bod modd datblygu modelau newydd o faint y llif malurion a allai fod yn beryglus. Casglwyd data cyfrifiad ar raddfa bentref i ddeall sut yr adferodd y pentrefi hyn o ran adferiad economaidd a newidiadau i strwythurau cymdeithasol. Dangosodd ein gwaith fod y patrwm o adfer ar ôl daeargrynfeydd yn cael ei bennu gan ddaearyddiaeth, agosrwydd at afon a safle mewn perthynas â rhwydweithiau ffyrdd mawr. Amlygodd yr ymchwil hefyd sut y gellir amharu ar yr adferiad gan lif malurion a pheryglon eraill, sy’n arafu’r datblygiad cymdeithasol ac economaidd hir dymor.
Gweithio'n lleol
Y cydweithio rhwng y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy a'r Labordy Gwladwriaethol Allweddol ar gyfer Atal Geoberyglon a Diogelu'r Geoamgylchedd Sefydliad Technoleg Chengdu. Roeddem ni'n dibynnu ar ddulliau traddodiadol o gyrchu a rhannu gwybodaeth, gan gysylltu â'r llywodraeth leol drwy ein partneriaid, i gael gafael ar ddata. Roedd goruchafiaeth y dull peirianyddol o reoli peryglon yn golygu nad oedd dulliau eraill, megis peirianneg feddal neu atebion yn seiliedig ar natur, yn cael eu harchwilio'n llawn.
Trawsnewid meddwl
Datblygwyd y prosiect o fewn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy drwy weithio rhwng gwahanol ddisgyblaethau, yn enwedig y gwyddorau ffisegol a chymdeithasol. Drwy fabwysiadu dull yn seiliedig ar fannau, bu'n rhaid i ni feddwl am y gwahanol raddfeydd gofodol ac amserol i gysoni gwahanol effeithiau a dulliau methodolegol tirlithriadau a bregusrwydd cymdeithasol.
3.3 Gweithio'n lleol ar gyfer creu gweithredu a dealltwriaeth o'r amgylchedd morol
Mae gan forwellt ran hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Rydym ni wedi cynorthwyo i'w ddiogelu a'i adfer drwy ddull lleol a chydweithredol o ymchwilio.
Cadwraeth Morwellt a Rhaglen Lamun Wakatobi
Mae dolydd morwellt yn cynnal bywyd morol, bioamrywiaeth, a phoblogaethau dynol yn fyd-eang. Maent yn parhau i fod ar y cyrion o ran cynllunio cadwraeth ac yn dal i ddirywio'n fyd-eang ar raddfa frawychus. Ymhlith y bygythiadau mawr i systemau morwellt mae ansawdd dŵr sy'n dirywio, aflonyddwch ffisegol, gorddefnydd a phwysau newid yn yr hinsawdd.
I ddechrau, canolbwyntiwyd ar bedwar safle astudio ym Mharc Cenedlaethol Wakatobi yn Indonesia, gan gwmpasu'r pedair prif ynys yng nghadwyn Wakatobi – Wanci, Kaledupa, Tomia a Biningko. Ynysoedd cwrel yw'r rhain heb unrhyw dir dros 300 metr. Y gweithgareddau hanfodol yw pysgodfeydd infertebrat ac esgyll, sy'n cynnal bywoliaeth dros 90 y cant o boblogaeth Wakatobi. Yn ddiweddarach, symudodd ein hymchwil i safleoedd yng Nghambodia, y Ffilipinau a safle ychwanegol yn Indonesia.
Ein Hymchwil
Roedd yr astudiaeth achos yn edrych ar botensial dolydd morwellt i ddarparu diogelwch bwyd yn Wakatobi a datblygu sail o dystiolaeth i lywio rheolaeth ar ardaloedd morol gwarchodedig. Drwy raglen o ymchwil gydweithredol, allgymorth ac ymgysylltu, ynghyd â chasglu data ar y pysgodfeydd morol, roedd modd i ni bennu'r cysylltiadau rhwng dolydd morwellt, cynhyrchiant pysgodfeydd a darparu bwyd.
Gweithio'n lleol
Buom ni’n gweithio gyda nifer o wasanaethau lleol, ymchwilwyr ac aelodau o'r gymuned. Roedd yr ymchwil yn cynnwys aelodau o'r gymuned, pysgodfeydd a sefydliadau anllywodraethol o'r pedair ynys. Gweithiwyd hefyd gyda cheidwaid parciau cenedlaethol, swyddogion pysgodfeydd llywodraeth Wakatobi, adran pysgodfeydd Môr Banda, staff WWF-TNC Indonesia, Prifysgol Hasanuddin, a swyddog addysg amgylcheddol Kaledupa. Atgyfnerthwyd ein hymchwil gan weithdai cyfnewid gwybodaeth, grwpiau ffocws a hyfforddiant ymchwil i gefnogi gwyddoniaeth y dinesydd, gan ein cynorthwyo i gyflawni ein canlyniadau.
Trawsnewid Meddwl
Drwy weithio gyda chymunedau lleol, mae'r ymchwil wedi ychwanegu at y dystiolaeth ecolegol dros bwysigrwydd morwellt i bysgodfeydd bwyd, yn ogystal â thystiolaeth economaidd-gymdeithasol o werth economaidd a photensial diogelwch bwyd dolydd morwellt yn yr ynysoedd cwrel hyn. Roedd modd i ni nodi bygythiadau i ddolydd morwellt na chofnodwyd o'r blaen ochr yn ochr â dirywiad o ran cynefinoedd morwellt, yn ogystal â meithrin awydd ar lefel gymunedol i atal y broses o ddiraddio a cholli'r dolydd morwellt drwy raglenni addysg gymunedol ac allgymorth. Mae'r rhaglen ymchwil hefyd wedi arwain at ddatblygu'r Rhwydwaith Morwellt Indo-Pasiffig ac wedi agor llwybrau trafod gyda sefydliadau llywodraethol ar ddiogelu dolydd morwellt.
3.4 Cydnabod dealltwriaeth pobl leol o natur a chynaliadwyedd
Mae ymchwil yn aml yn mabwysiadu ymagwedd dechnegol iawn, dan arweiniad arbenigwyr, tuag at faterion. Drwy weithio gyda phobl leol, cawn well dealltwriaeth o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol a gallwn helpu i rymuso'r cymunedau hynny i weithredu eu hunain.
Yr Ymchwil
Cynhaliwyd ymchwil yn y Seychelles ar y wybodaeth ecolegol leol oedd gan bysgotwyr crefftwrol am eu hamgylchedd morol. Archwiliwyd ei defnydd wrth lywodraethu bioamrywiaeth forol drwy gynllunio gofodol morol a gynlluniwyd i sicrhau digonedd a chyfoeth rhywogaethau pysgod. Roedd yr ymchwil yn archwilio dynameg hyrwyddo gwerth gwybodaeth ecolegol leol, y mae gwyddoniaeth orllewinol yn aml wedi gwahaniaethu yn ei herbyn, ar sail safbwyntiau gwladychol am bobl frodorol. Mae hyn yn cysylltu â'r cysyniad o 'gyfiawnder epistemig' sy'n cydnabod y ffyrdd amrywiol o wybod a deall.
Gweithio'n Lleol
Gwelsom fod gwybodaeth ecolegol leol yn cynnwys elfennau a fyddai'n hollbwysig ar gyfer cynllunio gofodol morol. Gwelwyd bod gwybodaeth y pysgotwyr yn hynod soffistigedig a manwl, gan gynnwys am iechyd poblogaeth, digonedd a chyfansoddiad rhywogaethau, a dynameg a rhyngweithio ecosystemau. Mae'r wybodaeth yn hanfodol ar gyfer llunio systemau rheoli amserol a gofodol ar gyfer diogelu morol.
Trawsnewid Meddwl
Trawsnewidiodd yr ymchwil ein ffordd o feddwl am yr amrywiaeth o werthoedd a gwybodaeth gysylltiedig a phwysigrwydd ystyried y wybodaeth hon wrth wneud penderfyniadau, ac wrth ffurfio a gweithredu polisïau cyhoeddus. Mae rhwystro cyfnewid gwybodaeth, a gallu grwpiau lleol i weithredu, yn peryglu gallu cymdeithas i ymateb i fyd natur ac i fynegi ei werth cynhenid. Mae cynnwys lleisiau a gwybodaeth leol yn helpu i fynd i'r afael â gwrthdaro dros y defnydd o adnoddau naturiol ac yn hyrwyddo penderfyniadau mwy teg.
Caiff y ddealltwriaeth newydd hon ei defnyddio mewn ymchwil i Gynllunio Gofodol Morol yn yr Ynysoedd Turks a Caicos a thrwy gymryd rhan mewn asesiadau bioamrywiaeth rhyngwladol, ystyried y ffyrdd byd-eang amrywiol o feddwl am werth natur a'i manteision i gymdeithas, gan gynnwys bioamrywiaeth, a sut y gellir defnyddio'r amrywiaeth hwn i gefnogi ymdrechion i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.
3.5 Sut mae gweithio ar sail mannau yn herio cysyniadau o weithgarwch economaidd-gymdeithasol
Yma buom yn archwilio cyfraniadau cymunedau Masnach Deg i arfer cynaliadwy. Dangosodd ein hymchwil fod gweithio ar raddfa seiliedig ar fannau’n dangos sut y gall modelau economaidd-gymdeithasol syml fethu gwir werth arferion cynaliadwy.
Cymunedau Masnach Deg
Masnach Deg yw un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus o gynhyrchu a defnydd cynaliadwy. Caiff ei ystyried yn ffordd y gellir harneisio marchnadoedd byd-eang i sicrhau datblygu tecach i gymunedau tlotach. Mae disgyblaeth economeg yn ystyried Masnach Deg fel parodrwydd haniaethol defnyddwyr i wahaniaethu o blaid cynhyrchion sy'n cynnwys premiwm moesegol ac ystyried yr effaith gyffredinol y mae hyn yn ei gael ar gadwyni cyflenwi.
Ein hymchwil
Cysylltwyd â chymunedau penodol lle caiff nwyddau Masnach Deg eu cynhyrchu neu eu defnyddio er mwyn deall dynameg bersonol a chymdeithasol Masnach Deg. Rhannodd yr ymchwil a wnaed gyda Threfi Masnach Deg ar ddefnydd, a'n gwaith mewn gwledydd cynhyrchu, brofiad cynhyrchwyr gwin Masnach Deg yn Chile, yr Ariannin a De Affrica, a'i heffaith yn lleol.
Gweithio'n lleol
Bu ein hastudiaeth arloesol o Drefi Masnach Deg yn gweithio gyda chymunedau ac ymgyrchwyr gan ddangos bod ymgyrchwyr lleol yn gweithredu fel "dinesydd-farchnatwyr" ac yn dylanwadu ar bopeth o ymdrechion brandio mannau lleol i arferion defnydd lleol, hyd yn oed y cwricwlwm ysgol lleol. Roedd y trefi'n plethu'r statws Masnach Deg gyda syniadau am hunaniaeth leol, er enghraifft cymunedau ffermio'n cysylltu cefnogaeth i ffermwyr mewn gwledydd tlotach â thrafferthion ffermwyr lleol. Cadarnhaodd ymchwil mewn cymunedau cynhyrchu fod llawer o'r buddiannau economaidd-gymdeithasol yn sgil achredu'n cronni i gynhyrchwyr a'u cymunedau, ond hefyd cododd ystyriaethau am effaith dosbarthu'r buddiannau hyn.
Trawsnewid meddwl
Dangosodd ein hymchwil fod trefi Masnach Deg yn gwneud mwy na hyrwyddo premiwm ar gyfer nwyddau yn unig, maent hefyd yn gweithredu fel drws y gall cymunedau sydd ar bob pen i gadwyni cyflenwi sydd fel arall yn haniaethol fynd drwyddi i gyfarfod, cefnogi a deall ei gilydd yn well. Ar yr un pryd, dangosodd ymchwil mewn cymunedau cynhyrchu y gall gweithredu i sicrhau cyfiawnder masnach byd-eang arwain at anghyfiawnderau lleol. Roedd hyn yn dangos bod angen prosesau llywodraethu Masnach Deg sy'n fwy cynhwysol yn lleol er mwyn gwella'r profiad Masnach Deg y mae'r cymunedau hyn yn ei fyw.