Pennod pedwar: Offer a dulliau'n seiliedig ar leoedd
Ynghyd â datblygu damcaniaethol, mae'r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy wedi gweithio i ddatblygu offer a dulliau sy'n caniatáu defnyddio ein dull ar draws gwahanol gyd-destunau.
4.1 Modelu
Mae modelu'n seiliedig ar fannau'n grymuso cymunedau lleol i ganfod camau gweithredu i wella eu bywydau.
Efelychu'r amgylchedd adeiledig lleol i wella bywydau pobl
Yn aml gall modelu eithrio heriau lleol neu fod yn amwys o ran ei dybiaethau, ond mae gwaith modelu'r Sefydliad wedi'i gynllunio i fod yn hygyrch a llywio sut y gall cymunedau gynyddu eu cynaliadwyedd. Datblygwyd ein meddalwedd Dadansoddi Rhwydwaith Dylunio Gofodol (SDNA) i fodelu cynllunio trafnidiaeth yn gynaliadwy, gan gynnwys gwybodaeth sy'n ddefnyddiol i asesiadau iechyd ac economaidd ac ymdrechion i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Elfen bwysig o'r ymchwil oedd ystyried gwahanol effeithiau a sut y gellir eu modelu i fynd i'r afael ag ystyriaethau anghydraddoldeb o ran mynediad a lles, gan adlewyrchu'r amrywiaeth ymhlith defnyddwyr trafnidiaeth. Roedd y model yn cynnwys beicio a cherdded, sy'n cael eu hepgor yn aml mewn modelau trafnidiaeth traddodiadol, gyda model arloesol o ran cerddwyr sydd bellach wedi'i ddefnyddio a'i fireinio gyda data amser real dros nifer o flynyddoedd.
Mae'n feddalwedd mynediad agored gydag o ddeutu 3,000 o ddefnyddwyr yn fyd-eang. Mae wedi'i gymhwyso i brosiectau seilwaith trafnidiaeth a chynllunio trefol mawr, gan gynnwys cynllunio rhwydweithiau cerdded a beicio mewn nifer o awdurdodau lleol, gan gydweithwyr masnachol fel Arup a Wedderburn Transport Planning, a'r elusen trafnidiaeth gynaliadwy Sustrans. Mae cydweithio diweddar gyda'r Sefydliad Astudiaethau Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Leeds wedi cyfuno ein harbenigedd ymchwil perthnasol i greu modelau trafnidiaeth ffynhonnell agored ar gyfer gwell ymgysylltu â defnyddwyr.
4.2 Dulliau gwerthuso ar gyfer anghenion a chyfleoedd lleol
Mae gweithio ar sail mannau’n datgelu effeithiau cymdeithasol llawn camau gweithredu ar gyfer cymunedau lleol.
Ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru
Mannau glas yw ardaloedd o amgylchedd arfordirol a dŵr sy'n hanfodol i iechyd y corff a'r meddwl. Mewn partneriaeth â rheolwr dyfrffyrdd mewndirol mwyaf y DU, Ymddiriedolaeth Glandŵr, mae ymchwilwyr o'r Sefydliad wedi helpu i ddeall buddion gwaith yr Ymddiriedolaeth o ran lles. Mae ein hymchwil bellach wedi'i hymgorffori fel fframwaith mesur canlyniadau a phecyn cymorth cysylltiedig ar draws gweithredu a chynllunio'r Ymddiriedolaeth. Drwy gael gwell tystiolaeth o bwy sy'n ymwneud â dyfrffyrdd, llwyddodd yr Ymddiriedolaeth i nodi grwpiau a chymunedau nad oedd yn defnyddio eu mannau ar hyn o bryd. Bu ymchwilwyr yn gweithio gyda nhw i gynllunio ymchwil ansoddol i archwilio'r ffactorau sy'n effeithio ar ymgysylltu â dyfrffyrdd.
Mae'r ymchwil wedi darparu'r llun mwyaf manwl hyd yma o ganfyddiad gwahanol bobl o fannau glas, a'r hyn sy'n atal mynediad. Mae'r ddealltwriaeth hon wedi llunio blaenoriaethau'r Ymddiriedolaeth ar gyfer ymgysylltu cymunedol a llywio eu gwaith i ennyn diddordeb amrywiol gynulleidfaoedd. Mae gweithio mewn partneriaeth hirdymor wedi arwain at raglen ymchwil sydd wedi'i llunio gan anghenion amrywiol. Cydnabyddir bellach bod yr Ymddiriedolaeth yn arwain y ffordd o ran cynllunio strategol ar gyfer buddion lles ar draws gwahanol gymunedau.
4.3 Meddwl systemau
Mae offer systemau, sy'n seiliedig ar fannau, yn galluogi rhannu safbwyntiau ar draws gwahanol grwpiau neu ddisgyblaethau
Offer mapio cydweithredol
Mae ystyriaethau pwysig o ran iechyd yn aml yn deillio o benderfyniadau a wnaed mewn sectorau ar wahân i iechyd, fel defnydd tir, tai, amaethyddiaeth neu gludiant. Gall nodi cysylltiadau rhwng iechyd ac amgylcheddau ffisegol, cymdeithasol ac ecolegol arwain at well dealltwriaeth o'r hyn sy'n sbarduno canlyniadau iechyd a helpu i lunio dinasoedd iachach, gwyrddach a thecach.
Cynhaliwyd cyfres o weithdai gyda phartneriaid ym Malaysia yn gweithio ar draws disgyblaethau a sectorau, gan ganolbwyntio ar seilwaith gwyrdd a systemau bwyd mewn perthynas ag iechyd trefol. Galluogwyd y cyfranogwyr i greu syniadau ar yr hyn sy'n sbarduno iechyd gwael yn ehangach a'r mesurau a allai helpu i fynd i'r afael â nhw drwy fapio systemau. Yn ogystal â datblygu sgiliau'r cyfranogwyr mewn dulliau’n seiliedig ar systemau a mannau, mae'r gweithdai hyn wedi meithrin rhwydweithiau trawsddisgyblaethol rhwng llunwyr polisi, ymarferwyr, academyddion, arweinwyr cymunedol a chynrychiolwyr cymdeithas sifil ynghylch heriau iechyd a chynaliadwyedd trefol. Mae'r cyfranogwyr wedi creu amrywiaeth o fentrau newydd sy'n canolbwyntio ar faterion fel adfer afonydd, cerdded, systemau bwyd a gwybodaeth frodorol.
4.4 Offer ar gyfer cydgynhyrchu lleol
Mae cymunedau'n dod yn bartneriaid mewn ymchwil, sy'n eu grymuso i weithredu a chasglu ystod gyfoethocach o wybodaeth a phrofiad.
Pecynnau cymorth SUSPLACE
Mae cyd-gynhyrchu, cynnwys dinasyddion wrth gynllunio, datblygu a chyflawni ymchwil, polisïau cyhoeddus, rhaglenni a gwasanaethau, yn elfen bwysig mewn ymchwil yn seiliedig ar fannau. Anaml y cyflawnir cyd-gynhyrchu yn ymarferol oherwydd methiant i ddefnyddio offer priodol i alluogi i leisiau gwahanol gael eu clywed a helpu i lunio'r agenda ymchwil. Datblygodd rhaglen yr UE SUSPLACE amrywiaeth o becynnau cymorth a gwersi polisi, gan gynnwys canllaw i ymarferwyr ar gyd-gynhyrchu ar sail mannau a chanllaw i ddulliau'n seiliedig ar y celfyddydau. Nod y cynhyrchion hyn yw caniatáu i eraill osgoi peryglon cyfarwydd neu gamddealltwriaeth a'u hysgogi i ddefnyddio dulliau newydd o ymgysylltu.
Cynulliad y Bobl
Aeth ymchwilwyr o raglen Bwyd, Tir a Diogelwch y Sefydliad i bartneriaeth gyda phartneriaeth bwyd lleol Caerdydd, Bwyd Caerdydd, i hwyluso cynulliad y bobl ar ddyfodol bwyd yn ninas-ranbarth Caerdydd. Defnyddiwyd dulliau cyd-gynhyrchu i gefnogi sgyrsiau am ddyfodol bwyd mewn dinas-ranbarth. Drwy ddefnyddio cynulliad fel hyn, crëwyd man ar gyfer deialog gyhoeddus ar ddyfodol bwyd yng Nghaerdydd.
4.5 Gwyddoniaeth y Dinesydd ar sail Mannau
Creu budd lleol yn hytrach na thynnu gwybodaeth ymchwil i'w defnyddio mewn mannau eraill.
Gwyddoniaeth y Dinesydd ar sail Mannau ar gyfer Rheoli Dyfroedd Byd-eang
Gall gwyddoniaeth y dinesydd ar sail mannau greu buddion uniongyrchol a dylanwad uniongyrchol i gymunedau lleol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Malaya, cefnogodd ein hymchwilwyr ddatblygu rhaglen gwyddoniaeth y dinesydd ar sail mannau ar gyfer cadwraeth dyfroedd ym Malaysia drefol a gwledig.
Mae cynnwys cymunedau yng ngwyddoniaeth y dinesydd yn well pan fydd gwerthoedd lleol, perthynas â'r amgylchedd a phroblemau amgylcheddol lleol yn cael eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer datblygu offer. Elwodd ein hymchwilwyr a'r gymuned o drafodaethau'n seiliedig ar fannau ynghylch y ffordd y caiff yr amgylchedd lleol ei ddeall, gan arwain at allbynnau oedd yn ystyrlon i wyddoniaeth ac i gymdeithas. Defnyddiwyd y gwaith yn uniongyrchol i lunio polisïau rheoli dyfroedd rhanbarthol ac ymatebion lleol i lygredd gan gyfrannu at drafodaeth yng Nghymdeithas Ecolegol Prydain.