Pennod pump: Ein cynlluniau
Bydd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn gadael gwaddol gydag effaith barhaus y rhaglenni a hyrwyddwyd gan ei waith.
5.1 Aildyfu Borneo
Mae ehangu planhigfeydd olew palmwydd yn Kinabatangan Isaf, Sabah, Malaysia wedi arwain at golli tri chwarter y goedwig law ers dechrau’r 1970au.
Chwaraeodd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ran hanfodol wrth ddatblygu Aildyfu Borneo, prosiect adfer coedwigoedd ac ymchwil a sefydlwyd drwy gydweithio rhyngddisgyblaethol rhwng y Sefydliad, Canolfan Maes Danau Girang a KOPEL Bhd yn Borneo. Fe'i lansiwyd fel elusen annibynnol ddiwedd 2021 (www.regrowborneo.org).
Cenhadaeth Aildyfu Borneo yw ailgoedwigo a lleihau carbon yn foesegol ac yn dryloyw dan arweiniad ymchwil. Ar adeg pan fo mwy o frys nag erioed i weithredu ar argyfwng yr hinsawdd, mae'r fenter yn mynd y tu hwnt i ddal a storio carbon, gan gynnwys gweithredoedd â'r nod o wella bywyd a bywoliaeth cymunedau lleol, a chynyddu bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau yn Kinabatangan Isaf. Mae'r elusen yn partneru â chymunedau lleol sy’n tyfu egin o hadau a gesglir yn y goedwig, ac yn talu cyflog byw am eu gwaith, gan roi ffynhonnell amgen gynaliadwy o incwm ar wahân i amaethyddiaeth olew palmwydd.
Roedd ffocws y Sefydliad ar weithio ar sail mannau yn hanfodol wrth ddatblygu Aildyfu Borneo drwy gyfuno ymarferoldeb adfer coedwigoedd gydag ymchwil, ac yn benodol greu sail o dystiolaeth gwyddor gymdeithasol a natur ar gyfer effeithiolrwydd ein dull o weithredu. O ganlyniad, mae tîm Aildyfu Borneo yn cynnwys arbenigwyr mewn ecoleg, erydu pridd, bioamrywiaeth adfer ecolegol, gwerthoedd cymunedol a llywodraethu coedwigoedd, sy’n ein galluogi i ddeall sut mae adfer yn effeithio ar iechyd y goedwig a’r bobl sy’n byw yn yr amgylchedd hwn ac yn agos iddo.
5.2 Lle Dwfn
Mae Lle Dwfn yn ddull cyfannol o greu mannau mewn modd cynaliadwy. Mae’n canolbwyntio ar sut i greu mwy o fannau a chymunedau sy’n gynaliadwy o ran yr economi, cymdeithas, yr amgylchedd a diwylliant. Datblygwyd Lle Dwfn gan yr Athro Dave Adamson a Chymrawd Anrhydeddus y Sefydliad Mark Lang, ac mae'n seiliedig ar y rhagdybiaeth y dylai economi sy'n gweithredu'n iawn ychwanegu at gynaliadwyedd cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol mannau a chymunedau yn hytrach na'i danseilio. Mae'n trin pobl fel asedau a phob lle fel set unigryw o gyfleoedd.
5.3 SUSPLACE
Daeth SUSPLACE â chwe phrifysgol a saith partner anacademaidd at ei gilydd mewn saith gwlad yn Ewrop, sef yr Iseldiroedd, Cymru, Latfia, Lithwania, Gwlad Belg, y Ffindir a Phortiwgal. Nod rhwydwaith SUSPLACE oedd hyfforddi ymchwilwyr cyfnod cynnar i ddefnyddio dulliau arloesol, rhyngddisgyblaethol o astudio arferion creu mannau cynaliadwy. Fe'i cyllidwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd a'i arwain gan Brifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd. Roedd y rhwydwaith yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau gwyddonol a phroffesiynol i alluogi ymchwilwyr cyfnod cynnar i fynd ar drywydd gyrfaoedd academaidd neu broffesiynol mewn sefydliadau amrywiol fel llywodraethau, cyrff anllywodraethol, cwmnïau ymgynghori a busnesau.
Mae dull SUSPLACE yn rhoi cipolwg i ni ar sut i fanteisio’n llawn ar botensial mannau a chymunedau ar gyfer datblygu cynaliadwy a helpu i adeiladu galluoedd pobl i gymryd rhan mewn prosesau llunio mannau, a fydd, felly, yn cryfhau’r cysylltiad rhwng gwneuthurwyr polisi, academyddion, busnesau a chymdeithas sifil.
5.4 Prosiect Morwellt
Mae Prosiect Morwellt yn hybu newid cymdeithasol i alluogi adnabod, adfer a gwydnwch ecosystemau morwellt yn fyd-eang. Sefydlwyd yr elusen amgylcheddol yn 2013 a bu'n rhan o'r Sefydliad tan 2021. Mae'n ymroi i warchod ecosystemau morwellt drwy addysg, dylanwad, ymchwil a gweithredu.
Mae gan Brosiect Morwellt dîm rhyngddisgyblaethol pwrpasol sy'n credu mai dim ond drwy ddod ag ystod amrywiol o hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau at ei gilydd y gallwn ymateb i heriau byd-eang. Crëwyd Prosiect Morwellt i droi ymchwil arloesol yn gynlluniau gweithredu ac addysg cadwraeth effeithiol, drwy gydweithio â chymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill.
Yn ogystal â'i waith addysg, ymwybyddiaeth a chadwraeth yn rhyngwladol, mae Prosiect Morwellt wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang am ei ap sbotio morwellt, a ddefnyddir yn eang fel teclyn gwyddoniaeth y dinesydd.
Am fwy o wybodaeth ewch i: www.projectseagrass.org