Ymchwil
Roedd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ar agor rhwng 2010 a 2021. Mae'r dudalen hon yn dangos gwaith y Sefydliad yn y gorffennol. Nid yw'n cael ei monitro na'i diweddaru.
Rydym yn cynnig sylfaen newydd ar gyfer y maes ac yn gwthio ffiniau gwyddoniaeth ac ymchwil cynaliadwyedd draddodiadol. Rydym yn dod o hyd i atebion newydd i heriau adnoddau’n prinhau a newid hinsawdd.
Mae’r Sefydliad yn gweithredu ar draws pob un o dri Choleg Prifysgol Caerdydd. Gan ddod â dros 100 o ymchwilwyr ynghyd, rydym yn gweithio i ganfod atebion i broblemau go iawn, yn y byd go iawn. Gan weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol lleol, awdurdodau lleol a phartneriaid academaidd, rydym yn cefnogi arloesi methodolegol ar gyfer ymchwilio i greu mannau cynaliadwy.
Ein gwaith presennol
Mae ein proffil ymchwil unigryw a hawdd ei adnabod yn cael ei gydnabod yn lleol ac yn fyd-eang. Rydym yn gweithio i ddatblygu ymatebion ac atebion ar sail lleoedd i faterion gan gynnwys newid hinsawdd ac adnoddau’n prinhau - mae hyn yn cael ei wneud ar ofynion penodol mannau unigol. Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyng-gysylltiadau cymhleth a dynamig rhwng ecosystemau, y gymdeithas a’r economi ar wahanol raddfeydd gofodol.
Gan gymryd rhan mewn ymchwil integredig sy’n cael ei arwain gan theori ac sy’n seiliedig ar le, rydym yn gweithredu fel canolfan ar gyfer sawl disgyblaeth a sefydliad academaidd. Rydym yn archwilio’r rhyng-ddibyniaethau a’r cyfaddawdu rhwng sectorau adnoddau allweddol, fel ynni, bwyd, dŵr a gwastraff, a chyfuno buddion cymunedau, busnes a chymunedau ar sail lleoedd, er mwyn cael atebion a all symud trawsnewidiadau cynaliadwy yn eu blaenau.
Ein rhaglenni ymchwil wedi’u ffocysu yw:
Rhagor o wybodaeth am ein hymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn y ddogfen papurau hysbysu Saesneg.