Ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru, mae’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn ymchwilio i sut mae’r cyhoedd yn elwa ar ddyfrffyrdd mewndirol Cymru a Lloegr.
Un o allbynnau ein partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Glandŵr Cymru oedd datblygu rhaglen beilot er mwyn annog pobl ifanc o gymuned Somali Caerlŷr i ddysgu a gofalu am ddyfrffyrdd Prydain.
Daeth ymchwil, o dan arweiniad Mannau Cynaliadwy, i’r casgliad nad yw poblogaeth amrywiol o ran ethnigrwydd Caerlŷr yn cael eu cynnwys ymhlith y rhai hynny sy’n ymweld â dyfrffyrdd ar hyn o bryd. Gwnaeth ymchwil bellach, a oedd yn canolbwyntio ar y gymuned Somali, ganfod lefelau isel o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ran sut y gallant gael mynediad at ddyfrffyrdd lleol, a’u mwynhau.
Cafodd prosiect ‘Anturiaethwyr Ecoleg Ifanc Caerlŷr’ ei lunio a’i reoli gan Gymdeithas Rhieni’r Gymuned Somali (SOCOPA). Cafodd ei chreu er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 ac 14 mlwydd oed ymchwilio i dreftadaeth naturiol eu camlesi lleol, wrth ennill sgiliau a phrofiad mewn gweithgareddau awyr agored a chadwraeth. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol camlesi a’r Afon Soar yng Nghaerlŷr, gyda’r nod o feithrin dealltwriaeth pobl ifanc, a’u hannog i ofalu amdanynt.
Bydd ymchwil bellach yn ystyried effaith ehangach y rhaglen, gan gynnwys newid canfyddiadau o ddyfrffyrdd ymysg y gymuned leol.