Effaith ac Ymgysylltiad
Mae gan y Sefydliad enw da am effeithio ar ddatblygu polisïau, dadleuon cyhoeddus ac ymarfer arloesol i helpu i wella ymatebion ac atebion i ganlyniadau a heriau byd-eang newid hinsawdd ac adnoddau’n prinhau.
Gyda phrosiectau ymchwil wedi’u hariannu gan yr UE, cyrff cenedlaethol a chyrff cyllido eraill ym meysydd gwyddorau cynaliadwyedd, mae ein ymchwilwyr yn gweithio i gyflenwi gwaith ymchwil perthnasol, trylwyr, o ansawdd uchel a ddefnyddir gan wneuthurwyr polisi ledled Cymru, y DU ac ymhellach i gynorthwyo polisïau ar sail tystiolaeth.
Gwylio
Mae Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Terry Marsden, yn trafod creu lleoedd cynaliadwy yng nghyd-destun polisi cyhoeddus gyda’r Cyd-gyfarwyddwr yr Athro Susan Baker a Mr Matthew Quinn, sef Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru.
Gyda phwy rydym yn gweithio
Rydym yn cysylltu ein hacademyddion â diwydiant, busnesau, llywodraeth a'r trydydd sector yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae staff y Sefydliad yn darparu cyngor a thystiolaeth i Lywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r gymuned polisi ehangach.
Straeon effaith
Subscribe to our regular news bulletins