Darlithoedd cyhoeddus
Rydym yn cynnal darlithoedd ar amrywiaeth o bynciau cysylltiedig sydd ar agor i bawb.
Darlith flynyddol Mannau Cynaliadwy 2019
Mae'r Athro Tim Lang, Athro Polisi Bwyd ym Mhrifysgol Dinas Llundain, yn edrych ar gyflwr y system fwyd yn y DU sydd eisoes o dan gryn bwysau. Fe ddadleuodd yr Athro Lang ei bod yn anghynaladwy mewn nifer o ffyrdd, yn cyfrannu at oblygiadau anuniongyrchol enfawr ym maes iechyd, a sut mae newidiadau yn y system economaidd yn gwasgu’r prif gynhyrchwyr.
Darlith flynyddol Mannau Cynaliadwy 2018
Mae'r Athro Alison Blay-Palmer, Tony Capon a Katarina Eckerburg yn cyflwyno darlith flynyddol Mannau Cynaliadwy 2018 yn trafod yr heriau o greu mannau rhyngddisgyblaethol o bersbectif eu hymchwil eu hun.
Darlith gyweirnod Mannau Cynaliadwy
Gwnaeth yr Athro Nodedig Terry Chapin gyflwyno darlith gyweirnod Mannau Cynaliadwy yn archwilio'r berthynas rhwng pobl a natur.
'Mind the gap: Meeting the energy challenge in the UK' gyda'n noddwr Griff Rhys Jones
Gwnaeth Griff Rhys Jones, noddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, gadeirio panel trafod 'Mind the gap: meeting the energy challenge in the UK'. Roedd y panel yn trafod y mater o ddarparu ynni dibynadwy, fforddiadwy, glân ar gyfer cenedlaethau presennol a'r dyfodol.
Dan Kahan: Democratiaeth ac Amgylchfyd Cyfathrebu Gwyddoniaeth
Yn Chwefror 2014 cyflwynodd yr Athro Dan Kahan o Ysgol y Gyfraith yn Yale ddarlith o'r enw, "Democratiaeth ac Amgylchfyd Cyfathrebu Gwyddoniaeth".
Cyflwynwyd y ddarlith fel rhan o Gyfres Ddarlithoedd Nodedig y Brifysgol, sy'n dod â siaradwyr gwadd dylanwadol ac amlwg i gynulleidfa ehangach i arddangos eu gwaith.
Mae Dan yn Athro'r Gyfraith Elizabeth K Dollard ac Athro Seicoleg yn Ysgol y Gyfraith Yale. Mae'n aelod o'r Prosiect Dirnadaeth Diwylliannol, sef tîm rhyngddisgyblaethol o ysgolheigion sy'n defnyddio dulliau empirig i archwilio effaith gwerthoedd grŵp ar ganfyddiadau o risg a chyfathrebu gwyddonol.
Mae ei brif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys canfyddiad risg, cyfathrebu gwyddoniaeth a defnyddio gwyddoniaeth penderfynol yn y gyfraith a chreu polisi.
Yn ystod y ddarlith, cyflwynodd y broblem gyfathrebu gwyddonol a phwysleisiodd fethiant tystiolaeth gwyddonol dilys, cymhellol, hawdd i'w gyrraedd, i chwalu unrhyw wrthdaro cyhoeddus sy'n gysylltiedig â 'r pwnc hwnnw.
Darlith cyhoeddus NRN LCEE - Yr Athro Katarina Eckerberg
Gwnaeth yr Athro Katarina Eckerberg o Brifysgol Umeå gyflwyno'i gwaith ar Gydweithio ar Reoli Adnoddau Cynaliadwy Naturiol. Cafodd y ddarlith ei chynnal fel rhan o gyfres darlithoedd cyhoeddus Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd (NRN-LCEE)
Cyfoeth Naturiol Cymru - Y Gymru a Garem
Cyflwynodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, ddarlith am heriau a chyfleoedd sy'n wynebu amgylchedd naturiol cymru a'u rheoli cynaliadwy.