Ewch i’r prif gynnwys

Astudio yn y Gymraeg

Dewch i gael opsiynau astudio hyblyg, ymuno â'n cymuned gefnogol a dechrau eich gyrfa ym mhrifddinas ffyniannus Cymru.

O blith prifysgolion Grŵp Russell, ni yw'r unig un sydd mewn prifddinas ddwyieithog. Dyma'r ddinas berffaith i astudio'n Gymraeg.

academic-school

Cefnogaeth i astudio

Manteisiwch ar ysgoloriaethau, grwpiau seminar llai a thiwtoriaid sy'n siarad Cymraeg. Gallwch wella eich sgiliau iaith a sefyll eich arholiadau yn Gymraeg.

location

Byddwch wrth galon Cymru fodern

Beth am brofi'r byd gwaith yn y Senedd, Llywodraeth Cymru, BBC, ITV? Mae'r sefydlaidau cenedlaethol hyn, a llu o rai eraill, ar garreg ein drws.

people

Ymunwch â'n cymuned

Mae Academi Gymraeg y brifysgol a Changen Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dwyn ynghyd ein holl weithgarwch Cymraeg mewn prifysgol gynhwysol, ddwyieithog a rhyngwladol.

Pam astudio'n Gymraeg?

Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am staff sydd â sgiliau dwyieithog i gynnig gwasanaethau i'w cwsmeriaid. Mae 82% o fusnesau yng Nghymru yn dweud bod defnyddio'r Gymraeg yn werthfawr.

Mae astudio'n ddwyieithog yn eich helpu i gael dealltwriaeth lawnach o'ch pwnc. Bydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu gan gynnig:

  • mwy o ddewis
  • golwg wahanol - a Chymreig - ar eich pwnc
  • profiadau amrywiol ac unigryw o fewn a thu allan i’r dosbarth dysgu.

Byddwch yn datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r profiad i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle ac i gyfrannu’n ddwyieithog at fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Cewch fod yn ddinasyddion dwyieithog sy'n rhan o fywyd Cymraeg Caerdydd. Bydd y profiad yn eich cysylltu â chyfoedion dwyieithog ac amlieithog yn y ddinas ac ar draws y byd.

Cefnogaeth i astudio'n Gymraeg

Dyma fideo yn disgrifio bywyd Cymraeg Caerdydd

Wrth astudio yn Gymraeg, byddwch yn rhan o gymuned glòs gydag eraill ar eich cwrs.

Hyd yn oed os na fedrwch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn eich pwnc, mae croeso i bawb ymuno â Changen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Fel myfyriwr sy'n aelod o Gangen Caedydd o'r Coleg Cymraeg, byddwch yn clywed am gyfleoedd sydd ar gael i chi. Yn eu plith, mae ysgoloriaethau o hyd at £3,000, cyfleoedd i fod yn llysgennad y Coleg Cymraeg, astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith a dod o hyd i brofiad gwaith.

Elliw Iwan, Swyddog y Gangen

Trwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol cewch hefyd fynediad at holl adnoddau dysgu Cymraeg Y Porth.

Profiad gwaith

Mae Caerdydd yn gartref i lawer o sefydliadau cenedlaethol, dwyieithog. Gallwn eich cysylltu gyda chyflogwyr a phrofiadau gwaith sydd angen eich sgiliau Cymraeg.

Rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd.

Tiwtoriaid personol Cymraeg

Medrwn gynnig tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg i chi ar ddechrau eich cyfnod yn astudio gyda ni, hyd yn oed os na fyddwch yn astudio'n Gymraeg. Byddwch yn gallu rhoi gwybod i'ch tiwtor personol os ydych yn dymuno cyflwyno eich aseiniadau (ysgrifenedig neu lafar) yn Gymraeg.

Bydd tiwtor personol yn:

  • eich gweld yn rheolaidd i drafod eich astudiaethau
  • monitro cynnydd a darparu adborth
  • cynnig arweiniad proffesiynol i chi
  • sicrhau eich bod erbyn cefnogaeth i edrych ar ôl eich lles corfforol a meddyliol

Yr hyn wnes i fwynhau fwyaf am fy astudiaethau, heb os ac oni bai, oedd y gallu i astudio rhywfaint trwy gyfrwng y Gymraeg. Mwynheais wneud y mwyaf o bob cyfle a gynigiwyd i mi i ymhel â, ac astudio, drwy’r Gymraeg.

Emily Pemberton, BSc Econ Cysylltiadau Rhyngwladol

Gwella'ch sgiliau iaith

Hoffech wella eich hyder i ddefnyddio'r Gymraeg ym myd addysg, neu fyd busnes? Hoffech wella eich gramadeg Cymraeg? Gallwn eich cefnogi i astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ydych chi am fod yn ieithydd? Cyfunwch ech sgiliau Cymraeg gyda chyfle i ddysgu ieithoedd eraill yn y brifysgol. Bydd rhai cyrsiau yn roi'r cyfle i chi dreulio blwyddyn dramor.

Hyblygrwydd i astudio

Medrwch astudio rhai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Gan ddibynnu ar ei pwnc, gallwch gyfuno darlithoedd Saesneg a thiwtorialau Cymraeg, neu ddewis gwneud y cyfan yn Gymraeg. Chi piau'r dewis.

Medrwch sefyll eich arholiadau yn Gymraeg, p'un ai ydych wedi bod yn astudio'ch cwrs yn Gymraeg neu beidio. manteisiwch hefyd ar fod yn rhan o grwpiau seminar llai gyda siaradwyr Cymraeg eraill.

Dwi’n mwynhau astudio yn y Gymraeg oherwydd mae’n rhoi cyfle i mi ymarfer a gwella fy hyder i sicrhau nad ydw i’n colli defnydd o’r iaith. Mae sesiynau tiwtorial ar gyfer y grwp Gymraeg yn rhoi mwy o gyfleoedd i ofyn cwestiynau a chael cymorth i weithio trwy daflenni problemau.

Alen Melania King, BSc Mathemateg

Ysgoloriaethau

Os byddwch yn astudio eich gradd yn rhannol neu'n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn gallu cael ysgoloriaethau israddedig:

YsgoloriaethDyfarniadCyfanswm o'r cwrs sydd angen ei astudio'n Gymraeg
Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol £1,000 y flwyddynMwy na 66% (80 credyd)
Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol £500 y flwyddyn Mwy na 33% (40 credyd)
Ysgoloriaeth Feddygol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol£500 y flwyddynMwy na 33% (40 credyd)
Ysgoloriaeth Academi Gymraeg Betty Campbell Hyd at £1,000 y flwyddyn20 credyd am £500
40 credyd am £1,000
Ysgoloriaeth Astudio yn Gymraeg Prifysgol Caerdydd Hyd at £500 y flwyddynAm bob 20 credyd rydych chi'n eu hastudio yn Gymraeg bob blwyddyn, byddwch yn derbyn £250, ac am bob 40 credyd rydych chi'n astudio yn Gymraeg bob blwyddyn, byddwch chi'n derbyn £500.

Mae rhagor o wybodaeth am ein ysgoloriaethau a therfynau amser ymgeisio ar gael yn Ysgoloriaethau ar gyfer Astudio yn Gymraeg.

Mwy o resymau i astudio gyda ni

Welsh students

Cyrsiau cyfrwng Cymraeg

Mae gennym hyd at 100 cwrs gradd mewn 14 maes pwnc ar gael yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Llysgenhadon

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ymunwch â'r Gangen i geisio am ysgoloriaethau hyd at £3,000, dod yn Llysgennad y Coleg Cymraeg, astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg neu ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith.

Welcome to Cardiff sign

Bywyd Cymraeg Caerdydd

Mae cyfleoedd niferus i ddysgu Cymraeg a chael eich trochi yn niwylliant bywiog Cymraeg Caerdydd