Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd byd-eang

Gallwch weithio, astudio neu wirfoddoli dramor fel rhan o’ch gradd i gael profiad a fydd yn newid eich bywyd. Cewch ddarganfod diwylliannau eraill, dysgu iaith newydd a gwneud ffrindiau am oes.

Dewch o hyd i’ch antur nesaf

Ni waeth beth yw eich dewis gradd, gallwch fanteisio ar dreulio amser dramor yn ystod eich cyfnod astudio gyda ni.

Mae gennym gysylltiadau â mwy na 300 o sefydliadau ac aeth ein myfyrwyr i ymweld â mwy na 50 o wledydd yn ystod 2018 - 2019 yn Ewrop a ledled y byd. P’un a ydych yn dewis gweithio, gwirfoddoli neu astudio dramor, byddwch yn creu atgofion bythgofiadwy ar yr un pryd â gwella eich cyflogadwyedd.

Ar wahân i wella fy sgiliau iaith a chael rhagor o wybodaeth am y wlad a'r diwylliant yn gyffredinol, sydd wedi fy helpu i ddyfnhau fy nealltwriaeth a'm gwerthfawrogiad o'r gwledydd a'r ieithoedd, mae fy lleoliad dramor wedi fy newid fel person. Rwy'n teimlo fy mod yn dychwelyd adref yn berson mwy cyflawn a hyderus gyda syniad llawer cliriach o fy nyfodol. Nid yw hyn i ddweud y bydd mynd dramor yn ateb bob cwestiwn sydd gennych chi, ond mae wedi gwneud i mi sylweddoli llawer o bethau amdana i fy hun a'r hyn rwy am ei wneud yn y dyfodol. Rwy'n credu y bydd hefyd yn newid y ffordd rwy'n ymdrin â fy astudiaethau yn fy mlwyddyn olaf, gan fy mod yn teimlo'n llawer mwy hyderus a sicr ynghylch yr hyn rwy eisiau ei wneud.

Astudiodd Caitlin Evans, BA Ffrangeg a Japaneeg, dramor yn Clement Ferrand a Tokyo

Mae’n gyfle i herio’ch hunan

Er y gall fod yn frawychus, mae treulio amser dramor yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle gwych i chi brofi diwylliannau a safbwyntiau eraill, gwneud ffrindiau newydd a rhannu profiadau bythgofiadwy. Gan ddibynnu ar eich lleoliad, efallai y cewch y cyfle hefyd i ddysgu iaith newydd, a fydd yn eich cyfoethogi’n bersonol am weddill eich oes ac yn rhoi hwb i’ch rhagolygon o ran gyrfa.

Bydd leoliad dramor yn ychwanegu rhywbeth gwych i'ch CV a byddwch chi’n gallu cwrdd â phobl o bob cwr o'r byd sydd â gwahanol safbwyntiau a fydd yn eich galluogi chi i ddatblygu’n fawr ar lefel bersonol. Gwneud interniaeth dros yr haf oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud! Rwy wedi tyfu'n broffesiynol ac yn bersonol wrth brofi pethau cwbl newydd gyda phobl wych.

Ymgymerodd Quinn Bowers, BSc Mathemateg Ariannol gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol, ag un o'n Rhaglenni Haf Rhyngwladol yn Lisbon, Portiwgal

Cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi

Mae gan y tîm Cyfleoedd Byd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd yr holl arbenigedd angenrheidiol i'ch helpu i gynllunio sut i dreulio’ch amser dramor. Treuliodd llawer o'r tîm amser dramor yn ystod eu hastudiaethau yn y brifysgol ac felly maen nhw’n frwd dros annog eraill i ddilyn yn ôl eu traed. Rydyn ni’n cynnig cymorth pwrpasol i chi cyn eich lleoliad, yn ogystal ag yn ystod eich lleoliad, ac rydyn ni’n sicrhau eich bod yn gwybod pwy i gysylltu â nhw os bydd gennych chi bryderon neu broblemau.

Er na allwn ni warantu  unrhyw grantiau ychwanegol, mae myfyrwyr yn gyffredinol yn parhau i fod yn gymwys i gael eu pecyn Cyllid Myfyrwyr a gostyngiadau ar gyfer ffioedd dysgu. Mae cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Treuliais fy lleoliad dramor yn ystod fy ngradd Sŵoleg ym Mae Sodwana, De Affrica gyda chorff anllywodraethol o'r enw Sharklife lle roeddwn i'n ymchwilio i safleoedd agregu Morgwn Smotiog Dannedd Carpiog. Rwy wedi dysgu cymaint o sgiliau trosglwyddadwy dros y flwyddyn ac wedi tyfu'n wirioneddol fel person. Rwy mor ddiolchgar fy mod wedi cael y profiad hwn. Bu’n flwyddyn o waith caled ond roedd cael y cyfle i weithio gydag anifeiliaid yn y cefnfor, a’r atgofion rwy wedi’u creu gyda ffrindiau newydd yn werth chweil. Mae'r flwyddyn wedi fy ysbrydoli a fy ysgogi i wthio drwodd a gwneud yn dda yn fy ngradd gan fy mod bellach wedi dod o hyd i'm gwir angerdd.

Treuliodd Eleanor Gillion-Webb, BSc Gwyddorau Biolegol (Sŵoleg) gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol, flwyddyn yn gweithio yn Ne Affrica

Hwb i’ch gyrfa yn y dyfodol

Mae’n ymddangos yn bell i ffwrdd ond byddwch chi’n graddio cyn pen dim. Bydd treulio amser dramor yn rhoi hwb i’ch siawns o lwyddo – yn eich arholiadau â gyda chyflogwyr posibl.

Yn ôl Adroddiad ‘Codi Dyheadau’ Rhyngwladol Prifysgolion y DU 2019, roedd myfyrwyr a oedd yn treulio amser dramor 28% yn fwy tebygol o ennill gradd dosbarth cyntaf.

Ers gorffen fy lleoliad, rwy wedi cael cynnig swydd amser llawn yn adran seicoleg Prifysgol Iâl i fod yn dechnegydd ymchwil clinigol. Mae hwn yn gyfle anhygoel a oedd yn bosibl trwy gwblhau fy lleoliad gwaith yn unig.

Cwblhaodd Katie Myerscough, BSc Seicoleg gyda Lleoliad Proffesiynol, leoliad ymchwil ym Mhrifysgol Iâl, UDA

Opsiynau sydd ar gael

Ni waeth beth yw eich dewis gradd, gall ein tîm Cyfleoedd Byd-eang drefnu rhaglen dros yr haf i astudio, gweithio neu wirfoddoli.

Yn rhan o'ch gradd, mae'n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am leoliadau ledled Ewrop, neu dreulio cyfnod o amser yn astudio gydag un o'n partneriaid cyfnewid y tu allan i Ewrop.

Mae’r lleoliadau tymor byr hyn yn para o leiaf pedair wythnos a gallwch eu cwblhau mewn amrywiaeth o leoliadau o amgylch y byd.

Astudio

Manteisiwch ar y cyfle i astudio pwnc nad yw’n gysylltiedig â’ch gradd, neu ddatblygu eich gwybodaeth am bwnc eich gradd wrth fwynhau profiad rhyngwladol hollol newydd.

Byddwch yn cwblhau rhaglenni astudio y tu allan i’r tymor dros wyliau’r haf, sy’n golygu eu bod yn ddelfrydol i fyfyrwyr nad oes ganddynt y cyfle i astudio dramor fel rhan o’u rhaglen radd. Gallwch astudio mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y byd, gan gynnwys Asia, Ewrop, America Ladin ac UDA.

Gweithio

Beth am gael profiad gwaith yn ystod eich amser yng Nghaerdydd? Gall ein tîm Cyfleoedd Byd-eang helpu i gydlynu a chefnogi lleoliadau rhyngwladol. Rydym yn cynnig arweiniad ar leoliadau dros yr haf a blynyddoedd hyfforddi proffesiynol, a cheir cyllid ar gyfer nifer o raglenni. Trwy’r interniaethau rhyngwladol hyn, cewch y cyfle i weithio i nifer o gwmnïau byd-eang a chenedlaethol.

Gwirfoddoli

Gwnewch gyfraniad cadarnhaol i’r byd yn ystod eich amser yn y Brifysgol drwy gymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddoli dramor. Ymunwch â thimau o fyfyrwyr o’r Brifysgol a gwirfoddoli mewn lleoliadau megis Ffiji, Japan, Cambodia, India a mwy.

Bydd astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor yn gwella eich CV drwy ddangos sgiliau allweddol megis cyfathrebu trawsddiwylliannol, hyblygrwydd, a chydweithio yn ogystal ag ehangu eich safbwynt a’ch datblygu’n bersonol.

Rhaglenni cyfnewid

Yn dibynnu ar eich rhaglen astudio, efallai y byddwch yn gallu treulio cyfnod yn astudio neu'n gweithio dramor. Mae hyd a chyrchfan y cyfnewid yn dibynnu ar eich rhaglen radd. Mae gennym bartneriaid ledled Ewrop ac yn fyd-eang, gan gynnwys sefydliadau yn UDA, Canada, Awstralia, Seland Newydd, Singapore, Hong Kong a De America.

Mae cymryd rhan mewn cyfnewid Ewropeaidd neu ryngwladol, neu flwyddyn lleoliad proffesiynol yn ffordd wych o ymgolli mewn diwylliant newydd a gwneud ffrindiau o bob cwr o'r byd. Fel myfyriwr cyfnewid, byddwch yn cael cyfle i ddysgu a datblygu set sgiliau drawiadol a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd, gan eich helpu i sefyll allan mewn marchnad swyddi rhyngwladol sy'n gynyddol gystadleuol i raddedigion.

Teithio'n gynaliadwy

Mae pob taith ryngwladol yn effeithio ar yr argyfwng amgylcheddol parhaus, ond gall cynllunio ac ymchwil ystyriol leihau'r ôl troed amgylcheddol y mae eich profiad dramor yn ei adael. Mae rhai o'n myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau sy'n canolbwyntio ar ecoleg, bywyd gwyllt neu gynaliadwyedd, gan gynnwys gyda phrosiect Regrow Borneo.

Mae’r tîm Cyfleoedd Byd-eang wedi creu adnodd defnyddiol i’ch helpu chi i ystyried sut i deithio’n rhyngwladol gan ystyried ffactorau o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Rydyn ni’n rhannu hyn gyda'r holl fyfyrwyr sy'n bwriadu cwblhau lleoliad dramor.

Trwy brofiad ymarferol, roeddwn i’n gallu trin a thrafod rai o’r cysyniadau academaidd a ddysgais yn flaenorol, gan wneud y cysylltiad rhwng theori a gweithredu yn y byd go iawn yn gliriach. Mae’r sgiliau rwy wedi’u hennill, megis gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau, yn hynod werthfawr ar gyfer fy ngwaith cwrs, arholiadau a’m gyrfa i’r dyfodol. Hefyd, rwy wedi gwneud cysylltiadau mwy proffesiynol a fydd, yn y pen draw, yn rhoi hwb i fy llwybr gyrfaol. Mae hefyd wedi dylanwadu ar ba fodiwlau sy’n fy nenu, ac ym mha yrfa rwy’n gweld fy hun yn y dyfodol.

Cwblhaodd Amber Coleborn, BScEcon Economeg Busnes gyda Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol, leoliad gwaith blwyddyn o hyd yn Deloitte, Zurich

Siaradwch â ni

Mae'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang yn adnodd pwrpasol ac yn ffynhonnell arbenigedd ar gyfer yr holl gyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd. Os ydych chi'n ystyried treulio amser dramor i astudio, gweithio neu wirfoddoli, gallwn eich cefnogi, a chynnig amrywiaeth o gyfleoedd rhyngwladol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Canolfan Cyfleoedd Byd-Eang