Cynllun ffioedd a mynediad
O dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae’n ofynnol i ni ddatblygu cynllun ffioedd a mynediad bob blwyddyn a buddsoddi cyfran o’r incwm ffioedd israddedig ar waith cynllun ffioedd a mynediad.
Mae ein cynllun ffioedd a mynediad yn nodi’r gweithgareddau y byddwn yn eu cyflawni i sicrhau cyfle cyfartal a mynediad teg i grwpiau a dangynrychiolir mewn addysg uwch, a’u cefnogi i gyflawni canlyniadau llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys mesurau i ddenu ceisiadau gan fyfyrwyr o grwpiau a dangynrychiolir a’u cadw.
Mae manylion ar y cynllun ynghylch sut y byddwn yn parhau i ddarparu addysg uwch, gan gynnwys darpariaeth Gymraeg, i’r holl fyfyrwyr israddedig trwy wella profiad y myfyrwyr a chyflogadwyedd.
Crynodeb o'r cynllun ffioedd a mynediad
Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal, ehangu mynediad at addysg uwch, cynyddu dysgu drwy'r Gymraeg a gwella deilliannau ar gyfer grwpiau a dangynrychiolir a myfyrwyr sy'n agored i niwed, byddwn yn:
- Codi dyheadau a chynyddu mynediad at AU ymhlith grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Sicrhau bod cyfraddau parhad grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn unol â gweddill poblogaeth y myfyrwyr.
- Cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy wella cymuned, diwylliant a darpariaeth Cymraeg y Brifysgol.
- Gwella cyflogadwyedd myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Er mwyn hyrwyddo addysg uwch, gwella ymgysylltu dinesig, sicrhau dysgu ac addysgu o safon uchel a chefnogi llais y myfyriwr a chyflogadwyedd graddedigion, byddwn yn:
- Parhau i ganolbwyntio ar ymgysylltu byd-eang, cymunedol a dinesig sy'n effeithiol ac o ansawdd uchel.
- Darparu amgylchedd dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.
- Canolbwyntio ar wella sy'n gwella profiad y myfyrwyr.
- Parhau i gynnig cwricwla a chyfleoedd ehangach i ehangu cyflogadwyedd myfyrwyr.
Lawrlwytho ein cynlluniau presennol
Ar 25 Ebrill 2024, gwnaeth CCAUC gymeradwyo newidiadau i'n Cynllun Ffioedd a Mynediad 2023/25. Cafodd newidiadau i lefelau’r ffioedd dysgu eu gwneud yn Adran 1 o’r Cynllun Ffioedd a Mynediad, yn sgil newid i bolisi Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024. Mae’r newid hwnnw’n cadarnhau y bydd y cap ar ffioedd dysgu (uchafswm y ffioedd dysgu y gall darparwyr rheoleiddiedig ei godi ar fyfyrwyr penodol ar gyrsiau israddedig amser llawn) yn cynyddu o £9,000 i £9,250 y flwyddyn.
Mae’r cynnydd hwn yn y cap ar ffioedd dysgu yn golygu y gall prifysgolion Cymru godi’r un lefel o ffioedd a godir gan ddarparwyr addysg uwch yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban ers 2017.
Cyn i CCAUC gymeradwyo hyn oll, bu i Bwyllgor Cyllid ac Adnoddau'r Brifysgol gytuno ar y newidiadau i'r Cynllun Ffioedd a Mynediad, a hynny o dan awdurdod dirprwyedig gan y Cyngor.
Cynllun Ffioedd a Mynediad 2023-25 - Ebrill 2024
Cymeradwywyd Cynllun Ffioedd a Mynediad 2023-2025 gan CCAUC ar 25 Ebrill 2024
Cynlluniau o’r blynyddoedd blaenorol
Lawrlwythwch ein cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan CCAUC o’r blynyddoedd blaenorol:
Name | Type | Last updated |
---|---|---|
Cynllun Ffioedd a Mynediad 2018-19 | 07/08/2017 | |
Cynllun Ffioedd a Mynediad 2019-20 | 08/08/2018 | |
Cynllun Ffioedd a Mynediad 2020-21 | 11/07/2019 | |
Cynllun ffioedd a mynediad 2021-22 | 21/01/2022 | |
Cynllun ffioedd a mynediad 2022-23 | 14/10/2021 | |
10/10/2022 |