Allgymorth i ysgolion a cholegau
Mae ein tîm profiadol fel arfer yn gwneud dros 300 o ymweliadau ag ysgolion bob blwyddyn i roi cyngor, arweiniad a chipolwg ar addysg uwch i ddisgyblion, mewn grwpiau blwyddyn bach neu gyfan, yn ogystal â rhieni ac athrawon.
Ffeiriau Gyrfaoedd ac Addysg Uwch
Rydym yn mynd i ffeiriau addysg uwch ac yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau gwybodaeth i gefnogi myfyrwyr blwyddyn 12 a blwyddyn 13 drwy gydol y cyfnod o bontio i addysg uwch.
Yn ogystal â mynd i ffeiriau UCAS a UK University Search ledled y DU, mae ein Tîm Cyswllt Ysgolion a Cholegau ar gael i fynd i ffeiriau gyrfaoedd ac Addysg Uwch mewn ysgolion a cholegau drwy gydol y flwyddyn.
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'ch myfyrwyr yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am Brifysgol Caerdydd neu, yn fwy cyffredinol, Addysg Uwch.
Cyflwyniadau Addysg Uwch – rhithwir ac wyneb yn wyneb
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyflwyniadau Addysg Uwch am ddim a gynlluniwyd i gynnig arweiniad a chefnogaeth i ddarpar fyfyrwyr. Gellir teilwra'r sesiynau i weddu i'ch amserlen yn ystod y dyddiau ysgol neu gyda'r nos ac maent yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd Blwyddyn 12 a 13 yn ogystal â rhieni.
Gellir rhoi cyflwyniadau'n fyw wyneb yn wyneb neu o bell drwy Zoom neu Microsoft Teams. Fel arall, gallwn anfon copi generig neu bwrpasol wedi'i recordio ymlaen llaw i'w rannu â myfyrwyr.
Defnyddiwch ein ffurflen archebu ar-lein, ebostiwch schools@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch +44(0)29 20874455 i sicrhau'r dyddiad a ddewiswch.
Pynciau cyflwyno
Gwneud cais am gyrsiau gofal iechyd – y dewisiadau amgen i Feddygaeth
Mae'r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar ystod o gyrsiau Gofal Iechyd (gan gynnwys Nyrsio, Bydwreigiaeth, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg, Radiotherapi ac Arferion Adran Lawdriniaethau), ac yn amlygu cystadleurwydd cyrsiau o’r fath, gan fanylu ar y pethau y gall myfyrwyr eu gwneud i gyflwyno cais cryf.
Ochr yn ochr ag edrych ar gynnwys y cyrsiau, bydd y sesiwn yn trafod y broses ddethol, cyfleoedd ariannu ychwanegol GIG sydd ar gael i bawb sy'n astudio yng Nghymru, gofynion mynediad, profiad gwaith a thechnegau datganiad personol.
Os yw eich myfyrwyr yn awyddus i ddarganfod mwy am ddyfodol mewn proffesiwn iechyd, mae ein hadnoddau gyrfaoedd gofal iechyd ar gael i'w helpu i archwilio'r amryw eang o lwybrau effeithiol a gwerth chweil y gallant eu cymryd.
Gwneud cais i astudio Meddygaeth a Deintyddiaeth
Mae Meddygaeth a Deintyddiaeth yn enwog am fod yn gyrsiau cystadleuol iawn. Gyda phrofion ychwanegol fel UCAT, cyfweliadau a phrofiad gwaith i’w hystyried, mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn barod.
Yn ogystal â thrafod y gwahanol arddulliau cwrs sydd ar gael mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig, mae'r cyflwyniad hwn hefyd yn rhoi trosolwg cryno o gynnwys cwrs Prifysgol Caerdydd ochr yn ochr â chyngor a chanllawiau ar y broses dderbyn.
Gwneud cais i brifysgolion Grŵp Russell
Ni yw’r unig brifysgol Grŵp Russell yng Nghymru, ac rydym yn ymfalchïo yn ein rhagoriaeth ymchwil ac academaidd, yn ogystal â’n henw da rhyngwladol. Mae llawer o fanteision i astudio yn un o'r pedwar ar hugain o brifysgolion Grŵp Russell yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych ar beth yw’r manteision hynny, ac yn atgyfnerthu'r syniad bod prifysgolion Grŵp Russell yn agored i fyfyrwyr galluog a thalentog o bob cefndir.
Dewis cwrs a Phrifysgol
Gyda mwy na 50,000 o gyrsiau i ddewis ohonynt ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig, gall myfyrwyr wynebu penderfyniad anodd wrth ddewis pa gwrs a phrifysgol sy’n iawn iddyn nhw. Mae ein sgwrs yn edrych ar fanteision mynd i’r brifysgol ac yn archwilio’r cwestiynau y dylai myfyrwyr fod yn eu gofyn iddynt eu hunain – gyda ffocws penodol ar bedair elfen: cwrs, campws, gyrfa a dinas.
Rydym hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried y nodweddion ychwanegol a geir mewn prifysgolion megis clybiau chwaraeon, cymdeithasau, astudio dramor a’r holl gyfleoedd eraill sydd ar gael.
Sut i wneud cais - cais UCAS a datganiad personol
Ar hyd y sesiwn hon, byddwn yn sôn am wahanol elfennau’r broses o wneud cais, terfynau amser UCAS, sut mae gwneud cais, y mathau o gynigion a wneir a sut mae ymateb.
Byddwn yn cyffwrdd yn fyr ag ystyriaethau allweddol wrth ddewis prifysgol, ond byddwn yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn trafod y ffurflen gais ei hun, gwallau cyffredin, ac yn rhoi cyngor ynghylch sut mae llunio datganiad personol da.
Cyflwyniad i addysg uwch
Mae’r sesiwn hon, sy’n cynnig trosolwg cyffredinol o hanfod prifysgol, yn cwmpasu’r holl bynciau allweddol, fel sut mae ymchwilio i gyrsiau, y dulliau addysgu i’w disgwyl, bywyd myfyrwyr a chyllid.
Sylwer bod y sgwrs hon yn darparu trosolwg cyffredinol a chryno o bob pwnc. Rydym yn cynnig sesiynau ar wahân ar lawer o’r pynciau, fel Bywyd Myfyrwyr a Chyllid Myfyrwyr, os hoffech chi gael cyflwyniadau manylach.
Esboniad o gyllid myfyrwyr
Gan gymryd i ystyriaeth ddatblygiadau cyllid myfyrwyr diweddar a pharhaus, gellir teilwra ein cyflwyniad Cyllid Myfyrwyr rhyngweithiol ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a Lloegr er mwyn sicrhau bod myfyrwyr a rhieni’n cael y cyngor a’r arweiniad diweddaraf sy’n berthnasol i ble maent yn byw.
Ar ôl edrych yn fyr ar y system benthyciadau myfyrwyr, byddwn hefyd yn trafod pynciau cyllid myfyrwyr pwysig fel cyllidebu, cyfleoedd gwaith rhan-amser a ffyrdd o arbed arian wrth astudio.
Bywyd myfyrwyr
Mae ein sesiwn Bywyd Myfyrwyr yn trafod disgwyliadau myfyrwyr o’u cymharu â’r sefyllfa wirioneddol ac yn rhoi cipolwg i’r disgyblion ar yr hyn y gallant ei ddisgwyl yn y brifysgol. Mae'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau, o gyrraedd y brifysgol ac astudio i ffordd o fyw a chyllidebu. Mae hefyd yn darparu awgrymiadau ar sut mae gwneud yn fawr o fywyd myfyriwr.
Cyfweliadau Prifysgol – beth i’w ddisgwyl
Gall cyfweliadau ymddangos yn brofiad brawychus i lawer o fyfyrwyr. Fodd bynnag, mae ein cyflwyniad Technegau Cyfweliad yn trafod y gwahanol fathau o gyfweliadau, yn rhoi cyngor ynghylch paratoi, ac yn sôn am y gwallau cyffredin i’w hosgoi.
Rydym yn gobeithio gallu sicrhau bod gan fyfyrwyr yr hyder i fynd i gyfweliadau ag agwedd gadarnhaol er mwyn cyflawni hyd eithaf eu gallu yn y cyfweliad.
Pam Astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?
O’n lleoliad mewn prifddinas ffyniannus i’n rhagoriaeth academaidd ac ymchwil, mae gan Brifysgol Caerdydd lawer i'w gynnig. Bydd y sesiwn hon yn trafod beth gall myfyrwyr ei ddisgwyl o ran y Brifysgol ei hun a’r ddinas. Mae'n cwmpasu nifer o bynciau sy'n amrywio o’n rhagoriaeth academaidd a chyfleusterau’r brifysgol i gyfleoedd byd-eang a lleoliad y brifddinas.
Rhieni Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13
Canllaw Rhiant i Addysg Uwch
Mae ein cyflwyniad Canllaw Rhiant i Addysg Uwch yn cynnig trosolwg cyffredinol o Addysg Uwch ac yn trafod materion allweddol sy’n amrywio o’r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau a chyngor ar lunio datganiadau personol, i opsiynau cymorth i fyfyrwyr a chyllid myfyrwyr.
Ein nod yw rhoi i rieni a gwarcheidwaid yr wybodaeth a'r hyder i gefnogi eu plentyn ar hyd y cyfnod pontio i Addysg Uwch.
Archebu
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn ddi-dâl, ond dylech gadw lle yn gynnar i sicrhau ein bod ar gael ar y dyddiad rydych wedi’i ddewis.
Defnyddiwch ein system archebu ar-lein neu anfonwch e-bost atom ni nawr i schools@caerdydd.ac.uk.
Tanysgrifiwch i dderbyn newyddion ar gyfer athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd.