Athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd
Gall disgyblion o bob oed gymryd rhan mewn amrywiaeth mawr o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu sy’n cael eu cynnal gan y Brifysgol.
Maen nhw’n helpu disgyblion i nodi opsiynau sy’n addas iddyn nhw, yn tanio eu chwilfrydedd ac yn eu paratoi ar gyfer byd addysg uwch. Maen nhw hefyd yn ategu’r cwricwlwm. Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o adnoddau a chyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol er mwyn eich cefnogi yn eich rôl addysgu a chynghori. Ewch i dudalen ein cymuned i gael rhagor o wybodaeth.
Yn ogystal â'r uchod, mae’r Tîm Cyswllt Ysgolion a Cholegau’n gweithio’n agos gyda myfyrwyr Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13, rhieni a chynghorwyr er mwyn rhoi arweiniad a chymorth i’r rhai sy’n ystyried addysg uwch.
Ymunwch â'n staff a'n myfyrwyr am y sesiynau ar-alw am fywyd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.