Cymraeg
Pa fath o brofiad y gallwch ei ddisgwyl yn astudio Cymraeg yn y brifddinas? Mae’r ateb, fel y pwnc, yn amrywiol, yn gyffrous ac yn esblygu drwy’r amser.
Rhesymau dros astudio gyda ni
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf. Ymunwch â ni a helpu i lunio dyfodol ieithyddol, diwylliannol ac economaidd Cymru. Rydym yn cynnig meysydd astudio unigryw - megis astudiaethau cyfieithu, treftadaeth a thwristiaeth, sosioieithyddiaeth, caffael iaith, tafodieitheg a llenyddiaeth - sy'n berthnasol i'r Gymraeg yng Nghymru heddiw.
Cael effaith
Yn sail i'n haddysgu, mae ein hymchwil effeithiol ac uchel ei pharch yn creu newid diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol cadarnhaol.
Gwaith ymarferol
Mireinio eich sgiliau proffesiynol gyda chyfnod o brofiad gwaith yn yr ail flwyddyn a modiwlau sy'n gysylltiedig â'r Gymraeg yn y gweithle.
Dau mewn un
Cyfunwch y Gymraeg â phwnc arall sy’n agos at eich calon - mae gennym ni lawer o raglenni cydanrhydedd i ddewis ohonynt.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Gwnewch eich marc yng Nghymru fodern a thu hwnt
Mae ein cynfyfyrwyr yn mynd i ystod o wahanol rolau ar draws y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector, gyda llawer yn cyfrannu'n sylweddol at dirweddau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Dal i fyny gyda rhai o'n graddedigion diweddar wrth iddynt fyfyrio ar sut y gwnaeth eu profiadau academaidd gyda ni helpu i gefnogi, a llywio datblygiad eu gyrfa. (Dim ond yn Gymraeg mae'r fideo hwn ar gael)
Eich profiad yng Nghaerdydd
Dod i'n hadnabod ni
Profiad i'w gofio - myfyrdodau myfyrwyr am fywyd yn y brifddinas
Mae canlyniadau bodlonrwydd ein myfyrwyr yn uchel yn gyson. Dyma farn rhai ohonynt am eu profiadau bythgofiadwy gyda ni a'r cyfoeth o gyfleoedd - cymdeithasol, diwylliannol a phroffesiynol - a oedd ar gael iddynt. (Dim ond yn Gymraeg mae'r fideo hwn ar gael)
Rhagor o wybodaeth am ein hysgol
Rydym wedi ein lleoli yn Adeilad John Percival ar gampws Parc Cathays. Ychydig funudau o Undeb y Myfyrwyr, llyfrgelloedd a gwasanaethau cymorth y brifysgol, a gallwch gerdded i ganol y ddinas o fewn 10 munud.
Rydym hefyd wedi ein lleoli’r drws nesaf i Lyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, sy’n gartref i gasgliad o weithiau ac archifau perthnasol, gan gynnwys Casgliad clodfawr Caersallog.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Edrychwch ar ein holl gyrsiau Cymraeg
Archwilio ein cyrsiau
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.