Y Gwyddorau Cymdeithasol
Cewch astudio mewn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ddynamig, ryngddisgyblaethol ac arloesol ag iddi enw da rhyngwladol am ragoriaeth ymchwil.
Pam astudio gyda ni?
Mewn byd sy’n gynyddol fyd-eang ac yn newid yn gyflym, nid yw erioed wedi bod yn bwysicach deall ymddygiad, agweddau a chymhelliant pobl a sut y caiff cyfle a llwyddiant eu llywio gan ein rhyngweithiadau â’r sefydliadau a’r strwythurau sy’n ein hamgylchynu.
Lleoliadau ac astudio dramor
Estynnwch eich astudiaeth i bedair blynedd, gan dreulio blwyddyn ar leoliad proffesiynol neu’n astudio dramor.
Ymchwil ragorol
Gosodwyd ni yn y 3ydd safle yn y DU am ein hymchwil mewn Addysg, ac yn y 10fed safle yn y DU am ein ymchwil mewn Cymdeithaseg (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021).
Cyflogadwyedd
93% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22).
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Profiad myfyrwyr
Darganfyddwch beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am eu hamser yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol.
Dysgu am ein pynciau
Rydym yn cynnig amgylchedd addysgu ac ymchwil deinamig i oddeutu 1,000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a thros 160 o staff academaidd a hynny dros ystod o saith disgyblaeth:
Lleoliadau gwaith
Cewch droi theori yn ymarfer gyda lleoliad gwaith. Gellir ymestyn llawer o'n cyrsiau i fod yn rhai pedair blynedd, gyda'r drydedd flwyddyn yn cael ei threulio naill ai ar leoliad proffesiynol neu'n astudio dramor.
Ein cyrsiau ôl-raddedig
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau israddedig, efallai yr hoffech ymchwilio’n ddyfnach i’ch pwnc dewisol neu wybod rhagor am faes cysylltiedig yn y gwyddorau cymdeithasol.
Mae ein cyrsiau ôl-raddedig yn cael eu llywio gan ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi dylanwadu ar fyd polisi yn y DU a ledled y byd.
Wrth i barhau yn eich astudiaethau gyda ni, gallwch chi ddatblygu eich ffordd o feddwl a'ch sgiliau neu ddechrau eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol.
Ein cyrsiau ôl-raddedig yw:
Addysg (MSc)
Troseddeg Ryngwladol a Chyfiawnder Troseddol (MSc)
Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (MSc)
Cymdeithaseg (MSc)
Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc)
Gwaith Cymdeithasol (MA)
Dysgu a arweinir gan ymchwil
Yr hyn sy’n sylfaen i’n haddysgu, a’r hyn sy’n ei lywio, yw’r ymchwil academaidd a'r ysgolheictod diweddaraf. Fe gydnabyddir bod ein haddysgu o safon ragorol yn rhyngwladol, a’i fod yn cael effaith uniongyrchol ar bolisïau ac ymarfer ledled y byd.
Mae nifer o'n staff yn gynghorwyr i sefydliadau rhyngwladol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, seneddau San Steffan ac Ewrop, a Llywodraeth Cymru.
Caiff ein haddysgu ei lywio a’i danategu gan yr ymchwil a’r ysgolheictod academaidd diweddaraf
Cydnabyddir bod ymchwil yn yr Ysgol yn rhagorol yn rhyngwladol, ac yn cael effaith uniongyrchol ar bolisi ac arfer ar draws y byd. Mae llawer o'n staff yn gweithredu fel cynghorwyr i sefydliadau rhyngwladol, seneddau San Steffan ac Ewrop, a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein holl gyrsiau y Gwyddorau Cymdeithasol
Archwilio ein cyrsiau
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Ffynhonnell: Canlyniadau Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22, a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig (HESA). Hawlfraint Jisc 2024. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.