
Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth
Byddwch yn archwilio’r hanes, y diwylliannau a’r credoau sydd ynghlwm wrth draddodiadau crefyddol mawr a rhai llai adnabyddus, mewn ffordd o'ch dewis chi, gyda’n graddau cyfoethog a boddhaus.
Pam astudio gyda ni?
A ninnau’n chwilfrydig am y profiad dynol ar draws milenia a diwylliannau, rydym am ddeall ein gorffennol yn well er mwyn taflu goleuni ar y presennol er budd ein dyfodol. Rydym yn gymuned academaidd ymofyngar, angerddol dros astudio’r gorffennol a chredoau cyn-hanesyddol i gymdeithasau cyfoes.
Ar ôl graddio
90% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Cyfleoedd byd-eang
Ehangwch eich gorwelion drwy archwilio ystod o opsiynau astudio dramor.
Hyblygrwydd
Cewch deilwra eich rhaglen gan gyfuno dulliau thematig, cymdeithasol, gwyddonol, ieithyddol a hanesyddol.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Y rheswm roeddwn i wrth fy modd â fy mhwnc oedd oherwydd nad ydych chi’n dysgu am grefydd yn unig. Rydych chi’n dysgu am bobl, y gyfraith, cymdeithas a hanes. Mae Caerdydd yn lle amrywiol: y ffrindiau a’r cydberthnasau yw’r pethau agosaf at fy nghalon.
Mwy amdanom ni

Canolfan ragoriaeth arloesol o fri rhyngwladol
Cynhelir y rhan fwyaf o’n darlithoedd, ein tiwtorialau a’n seminarau yn ein cartref, sef Adeilad John Percival.
Mae Llyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol drws nesaf i ni, sy’n gartref i’n Casgliadau Arbennig o fri, yn ogystal ag amrywiaeth eang o ffynonellau cynradd ar gyfer astudio crefyddau’r byd.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Pori drwy ein cyrsiau israddedig ym maes astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth
Archwilio ein cyrsiau
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.