
Radiotherapi
Mae radiotherapyddion yn gweithio'n agos gyda meddygon, ffisegwyr meddygol ac aelodau eraill o'r tîm gofal iechyd i ddarparu gofal personol a chefnogol i bobl o bob oed, sydd yn aml â chlefyd sy'n peryglu bywyd.
Pam y dylech astudio gyda ni
1af yn y DU
Yn ôl y Complete University Guide 2021 ein rhaglen Radiotherapi ac Oncoleg (BSc) yw’r un orau yn y DU (*fel sefydliad sy’n cynnig Radiotherapi ac Oncoleg o dan y categori Technoleg Feddygol).
Bodlonrwydd myfyrwyr
Cawsom 100% o adborth cadarnhaol am ein cwrs gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2019.
Rydym yn rhyngwladol
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.
Ein lleoliad
Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.
Caiff ein rhaglen ei hariannu
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Ein cyfleusterau
Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgwrs
Mae'r Tiwtor Derbyn Radiotherapi ac Oncoleg (BSc), Paul Brown, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.
Rwy’n dwlu ar astudio radiograffeg yng Nghaerdydd oherwydd bod y cwrs yn gyfuniad o ddysgu academaidd a dysgu clinigol. Gallwch fod yn astudio oncoleg organ un wythnos, a’r wythnos nesaf, byddwch yn rhoi’r ddealltwriaeth sydd gennych ar waith mewn adran.
Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr
Mae Jordan, sy'n fyfyriwr Radiotherapi a Oncoleg (BSc), yn sôn am ei brofiad o astudio gyda ni.
Mae'r lleoliadau'n wych ac rydych chi'n cael rhoi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith yn syth.

Cyfleoedd gofal iechyd byd-eang
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol. Yn 2019, teithiodd dros 100 o fyfyrwyr israddedig gofal iechyd a chawsant brofiad o ofal iechyd dramor.
Ble yn y byd y byddech chi'n mynd?
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Pob cwrs Radiotherapi israddedig
Ewch i'n tudalen rhaglen i gael gwybod am ofynion mynediad, ffioedd dysgu a mwy.
Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gweld ein cyrsiau radiotherapi
Archwilio ein cyrsiau