Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
Ymunwch ag un o'r adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mwyaf yn y DU.
Pam astudio gyda ni?
Mae gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn edrych ar y ffyrdd rydym ni'n trefnu ein bywydau mewn byd cyd-gysylltiedig byd-eang drwy gyfuniad o sefydliadau enfawr ac arferion. Mae’n adeg berffaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o lawer o’r materion pwysicaf sy’n ein hwynebu.
Ar ôl graddio
96% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Manteisiwch ar ein cysylltiadau
Mae gennym gysylltiadau â Llywodraeth Cymru, San Steffan, yr G7, y Cenhedloedd Unedig, NATO, cyrff anllywodraethol, llunwyr polisïau a newyddiadurwyr.
Rydym yn arbenigwyr
Mae ein tîm o fri rhyngwladol yn arbenigwyr mewn damcaniaeth wleidyddol, polisïau cyhoeddus a gwleidyddiaeth etholiadol, seiberddiogelwch, ffeminyddiaeth, hanes y Rhyfel Oer, gwleidyddiaeth amgylcheddol, diogelwch, astudiaethau gwybodaeth a gwleidyddiaeth ôl-drefedigaethol.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Studying politics and international relations at Cardiff University
Lecturer in Politics, Dr Rachel Minto discusses the disciplines of politics and international relations and the ways in which they help us make sense of the world. Find out more about the questions we ask our students, the range of varied modules available, our close connections to government and policy makers and our dedication to your career, post university.
Mwy amdanom ni
Mae ein rhaglenni'n cynnig cipolwg beirniadol ar ein byd sy'n newid yn barhaus
Bydd astudio gyda ni yn eich cyflwyno i gyfansoddiadau, polisïau cyhoeddus ac arferion cymdeithasol cenedlaethol ac is-genedlaethol; i sefydliadau rhanbarthol a rhyngwladol; i’r syniadau moesol a gwleidyddol sy’n sbarduno mudiadau gwleidyddol a newid; ac i natur a chanlyniadau gwrthdaro, gwladychiaeth a gwleidyddiaeth pŵer mawr.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein holl gyrsiau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol
Archwilio ein cyrsiau
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.