Ewch i’r prif gynnwys

Pam y dylech astudio gyda ni

location

Ein lleoliad

Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.

tick

Caiff ein rhaglen ei hariannu

Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.

building

Ein cyfleusterau

Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Ffisiotherapi (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Dilysir ein rhaglen gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP).

Ein sgwrs

Mae Tiwtor Derbyn Ffisiotherapi (BSc), Steven Dandol, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.

Roeddwn am fod yn ffisiotherapydd er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac rwy’n credu y byddaf yn tyfu i fod y gweithiwr iechyd proffesiynol gorau posibl, o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Chloe myfyriwr Ffisiotherapi (BSc)

Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr

Mae Emma, myfyrwraig Ffisiotherapi (BSc) yn y drydedd flwyddyn, yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.

Mae’n bleser cael gradd mewn Ffisiotherapi o Brifysgol Caerdydd. Mae'n rhaglen hollol anhygoel sy'n rhoi sail gref i raddedigion am oes ym myd ffisio!
Joe cyn-fyfyriwr Ffisiotherapi

Dewch i fod yn rhan o rywbeth arbennig

Ydych chi am ddewis cwrs sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Gyda chyrsiau hygyrch, darlithwyr ysbrydoledig, a gwneud ffrindiau oes, rhyddhewch eich potensial gyda ni a dechrau gyrfa y byddwch chi'n ymfalchïo ynddo.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Female customer service assistant smiling at a customer. She is standing behind a desk. Two people are just in shot.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni

icon-pen

Gweld ein cyrsiau ffisiotherapi

Archwilio ein cyrsiau.

Download icon

Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol

Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.

icon-chat

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

mobile-message

Dilynwch ni ar Twitter

I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.

Gallai fod diddordeb gennych hefyd yn

Student assisting a patient

Therapi Galwedigaethol

Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen yw’r un orau yn y DU.