![Two students working in a physics lab](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2513681/2-physics-female-students-at-work.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Ffiseg a seryddiaeth
Rhesymau dros astudio gyda ni
Yma yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, byddwch chi’n dysgu am ymchwil gwyddoniaeth gyffrous a blaengar, a byddwch chi hefyd yn rhan o Ysgol gyfeillgar ac agos atoch chi, lle y bydd y staff yn gwneud eu gorau glas i’ch helpu chi i ddatblygu’r sgiliau a’r galluoedd a fydd yn caniatáu i chi lwyddo yn eich gyrfa yn y dyfodol. Mae cymaint o resymau i astudio gyda ni!
Ymhlith y 10 prifysgol uchaf
Rydyn ni ymhlith y 10 prifysgol gorau ar gyfer ffiseg yn y DU (prifysgolion gorau'r DU 2024 The Guardian)
Mae ein myfyrwyr yn ein gwerthfawrogi ni
Rydyn ni’n cael sgorau boddhad uchel gan ein myfyrwyr yn gyson yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (gan gyflawni cyfartaledd o fwy na 90% am y pum mlynedd diwethaf).
Cyfleoedd gyrfa gwych
Mae 95% o’n graddedigion yn gweithio, yn astudio ymhellach neu’n gwneud y ddau 15 mis ar ôl gorffen eu cwrs (arolwg Hynt Graddedigion 2021/22).
Mae ymchwilwyr o fri rhyngwladol yn cyfrannu at ddylunio'r cwrs a'i gyflwyno
Mae 99% o’n hymchwil yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021). Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr sydd yn arloesi yn eu meysydd.
Lleoliadau gwaith proffesiynol
Mae ein cyrsiau Ffiseg a Ffiseg gyda Seryddiaeth yn cynnig yr opsiwn i ymgymryd â blwyddyn ar leoliad proffesiynol, a gallwch chi wneud lleoliad dros yr haf ar unrhyw gwrs.
Achredir gan yr IOP.
Mae’r rhaglen hon yn bodloni’r safonau addysg uchel a amlinellir gan y Sefydliad Ffiseg (IOP).
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Pan oeddwn i’n gorffen fy astudiaethau Lefel A roeddwn i’n hoffi ffiseg lled-ddargludyddion, ffiseg cyflwr solet, a hefyd astroffiseg. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn pa un roeddwn i eisiau ei wneud yn y tymor hir. Dewisais Brifysgol Caerdydd gan fod ganddi enw da ym mhob un o’r meysydd hyn - roedd yn rhan o ddarganfod tonnau disgyrchol yn 2015 ac mae yna adran mater cyddwysedig a ffotoneg weithredol iawn, wedi'i lleoli yn y Ganolfan Ymchwil Drosi newydd.
Astudio gyda ni
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2408832/Directing-cancer-treatment.jpg?w=768&h=432&auto=format&fit=crop&q=60)
Gyrfaoedd
Bydd gradd mewn ffiseg neu seryddiaeth yn eich galluogi chi i wneud gwahaniaeth. Mae ffisegwyr yn cael eu cyflogi yn fwyfwy mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys y gwyddorau data a ffiseg feddygol. Yn dibynnu ar eich diddordebau, efallai y byddwch am fod yn beiriannydd awyrofod, yn astroffisegydd neu'n beilot, neu'n gweithio yn y sectorau bancio, lled-ddargludyddion cyfansawdd, niwclear neu ymchwil.
Roedd 94% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Barn ein myfyrwyr
Ein cyfleusterau
Ein Hysgol
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesMae’r ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn rhan o Adeiladau’r Frenhines, sef canolfan gwerth miliynau o bunnoedd sydd yng nghanol y brifddinas ac yn agos at gysylltiadau teithio lleol a chenedlaethol, gyda’r brif ganolfan siopa, parciau, ac adloniant ar garreg ein drws.
![Trevithick Library](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0017/1231307/Trevithick-Library-web.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Llyfrgell Trevithick
Wedi'i leoli yn Adeilad TrevithickMae Llyfrgell Trevithick yn darparu adnoddau gwybodaeth ar gyfer peirianneg, cyfrifiadureg a gwybodeg, ffiseg a seryddiaeth. Mae wedi’i lleoli ar lawr cyntaf Adeilad Trevithick yn The Parade oddi ar Heol Casnewydd.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/87496/18.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Bwyty Trevithick
Wedi'i leoli yn Adeilad TrevithickMae Bwyty Trevithick wedi’i leoli ar lawr gwaelod Adeilad Trevithick.
Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC)
Cyfleuster gwerth £44 miliwn a agorwyd yn 2016 yw CUBRIC, ac mae ganddo ystod o labordai lle mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar ddelweddu’r ymennydd. Mae ei ystod trawiadol o offer niwroddelweddu eisoes wedi arwain at ymchwil o safon fyd-eang, ac mae bellach yn ein helpu ni i wneud yr un fath wrth gymhwyso egwyddorion ffiseg i brosesau biolegol yr ymennydd.
![Facilities at the Institute for Compound Semiconductors](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1118817/ICS-facilities.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesMae’r sefydliad yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n helpu ymchwilwyr a’r diwydiant i gydweithio. Bydd yn cael ei symud yn fuan i’n Campws Arloesedd newydd gwerth £300 miliwn ar Heol Maendy.
![Technician holding a transparent wafer in cleanroom](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/166593/Technician-holding-transparent-wafer-in-cleanroom.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Ystafelloedd glân
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesMae gennyn ni ddwy ystafell lân dosbarth-1000, gyda gallu arbrofol a damcaniaethol helaeth. Ystafell lân 225 medr sgwâr gwerth £4miliwn sydd wedi’i hadnewyddu yw un o’r rhain; wedi’i lleoli yn Adeiladau’r Frenhines.
![CSL](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/1294933/CSL-pic1.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae'n hawdd cerdded o'r Ysgol i gartref newydd Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a dewis mawr o siopau, bwytai a lleoedd astudio.
![Museum](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0020/2506610/Amgueddfa_Genedlaethol_Caerdydd.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru dafliad carreg i ffwrdd, ac felly bydd gennych chi fynediad hawdd i'w horielau arddangos a'u casgliadau trawiadol.
![Physics students in a lab](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/177916/Physics-students-in-a-lab.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Labordy
Wedi'i leoli yn Adeiladau'r FrenhinesLabordy nodweddiadol yw hwn lle gallai myfyrwyr ffiseg gynnal arbrofion a sesiynau ymarferol.
Dysgu am Brifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Bwrw golwg ar ein cyrsiau ffiseg a seryddiaeth
Bwrw golwg ar ein cyrsiau
Cysylltu â ni
Defnyddiwch ein ffurflen ymholi i ofyn cwestiwn i ni, a byddwn ni’n ymateb cyn gynted â phosibl.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.