Athroniaeth
Drwy ystyried posau athronyddol mawr y presennol a'r gorffennol, byddwn ni'n eich dysgu i ddadansoddi a chreu cadwyni cymhleth o resymu i ymdrin â chwestiynau cymhleth o hanes ac yn y presennol.
Pam astudio gyda ni?
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn dathlu chwilfrydedd, trafodaeth wybodus, dadansoddi beirniadol a meddwl yn greadigol. Ystyriwn ein rôl fel partneriaeth, gan eich galluogi yn eich dysgu drwy ddarparu addysgu arbenigol mewn diwylliant cyfeillgar, cefnogol a phersonol.
Rhagolygon gyrfa ardderchog
92% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Cyfunwch eich diddordebau
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd cydanrhydedd lle gallwch gyfuno athroniaeth â phwnc arall yn y dyniaethau.
Staff arobryn
Rydym ni'n cynnal digwyddiadau a darlithoedd cangen y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yn rheolaidd, gan gyflwyno'r meddwl diweddaraf gan arbenigwyr blaenllaw.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Mwy amdanom ni
Annog manyldeb beirniadol, creadigrwydd a chwilfrydedd deallusol
Yn sail i'n haddysgu mae ymchwil o’r radd flaenaf sy'n rhyngwladol ardderchog. Rydym yn dwyn ynghyd y lefelau uchaf o ysgolheictod gyda hanes o arloesi ac ymgysylltu, sydd wedi helpu i ddiffinio ein meysydd a sicrhau newidiadau y tu hwnt i'r byd academaidd.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein holl gyrsiau athroniaeth
Archwilio ein cyrsiau
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.