Fferylliaeth
Rydyn ni’n uno gwyddoniaeth meddygaeth â gofal clinigol arbenigol i wella bywydau cleifion. Ein nod ar gyfer chi, y genhedlaeth nesaf o fferyllwyr yw cynnig gwybodaeth, arbenigedd, a'r profiad sydd eu hangen arnoch chi, i fod yn llwyddiannus yn eich gyrfa ddewisol. Gyda'n gilydd, byddwn ni’n defnyddio ein harbenigedd i greu cymdeithas iachach i bawb.
Rhesymau dros astudio gyda ni
Mae 100 mlynedd o ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwilio
Ysgol glòs ydyn ni sydd wedi hen ennill ei phlwyf ac sydd â 100 mlynedd o ragoriaeth ym maes addysgu ac ymchwil.
Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Orau
Yn ôl The Complete University Guide 2023, rydyn ni’n gyson yn un o’r Ysgolion gorau sy’n cynnig MPharm yn y DU.
Ymchwil sy'n arwain y byd
Rydyn ni’n gweithio ar y darganfyddiad, datblygiad a defnyddo gyffuriau i fynd i’r afael â rhai o’r cyflyrau mwyaf gwanychol ac sy'n bygwth bywyd.
Datblygu ymarferwyr fferyllol o’r safon uchaf
Bu i 93% o'n myfyrwyr a safodd arholiad cofrestru'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn 2024 lwyddo y tro cyntaf, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol cyffredinol o 75%.
Rhagolygon gyrfa gwych
Mae 98.5% o'n graddedigion mewn swyddi medrus iawn a/neu astudiaethau pellach ar lefel gradd 15 mis ar ôl i'w cwrs ddod i ben. (Ffynhonnell: (Deilliannau Graddedigion, 2020/21)
Darpariaeth Gymraeg
Mae gennyn ni amrywiaeth o weithgareddau addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg sydd wedi’u cynllunio ar gyfer myfyrwyr a dysgwyr Cymraeg er budd darpariaeth gofal iechyd.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Yr hyn y mae fferyllwyr modern yn ei wneud
Mae fferyllwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw ni i gyd yn iach - maen nhw’n arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth ac yn y defnydd o feddyginiaethau, a'r cyffuriau sydd ynddyn nhw.
Mae fferyllwyr cymwys yn defnyddio eu gwybodaeth wyddonol gref i helpu cleifion i oresgyn pob math o broblemau iechyd. Maen nhw’n gwybod pa feddyginiaethau sy'n gweithio orau i drin gwahanol afiechydon, pa sgîl-effeithiau all ddigwydd, sut mae ein cyrff yn rhyngweithio â gwahanol feddyginiaethau a sut mae'r meddyginiaethau hynny'n rhyngweithio â'i gilydd o fewn ein cyrff.
Fel aelodau allweddol o'r tîm gofal iechyd, mae fferyllwyr yn gweithio mewn llawer o wahanol leoliadau - mewn meddygfeydd, mewn ysbytai ac mewn fferyllfeydd yn ein cymunedau. Mae eraill yn gweithio yn y lluoedd arfog, mewn cartrefi gofal, carchardai, a sefydliadau iechyd meddwl, i gyd gyda'r nod o wella iechyd cleifion.
Mae rhai fferyllwyr yn gweithio mewn labordai lle maen nhw'n gwneud ymchwil i ddarganfod neu ddatblygu triniaethau ar gyfer pob math o afiechydon. Neu efallai y byddan nhw’n ymchwilio i ffyrdd newydd o ddosbarthu cyffuriau i'n cyrff gan ddefnyddio technolegau fel nodwyddau bach, aerosolau, capsiwlau neu hyd yn oed nanoronynnau.
Gall fferyllwyr hefyd weithio i'r cwmnïau sy'n cynhyrchu ac yn dosbarthu ystod eang o feddyginiaethau neu mewn Llywodraeth yn helpu i roi cyngor ar gymeradwyo meddyginiaethau.
P'un a hoffech ddatblygu cyffur mewn labordy neu ragnodi meddyginiaethau i gleifion, trwy astudio fferylliaeth byddwch chi’n defnyddio'ch gwybodaeth arbenigol am feddyginiaethau ac iechyd i wella bywydau cleifion.
Mae'r animeiddiad isod yn trin a thrafod sut mae fferyllwyr yn newid bywydau.
Gwyliwch yr animeiddiad hwn i ddysgu beth mae fferyllwyr yn ei wneud i wella iechyd cleifion.
Rhaglen Radd Israddedig Meistr mewn Fferylliaeth (MPharm)
Discover what it's like to study the Master of Pharmacy undergraduate programme at Cardiff University
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Rhagor o wybodaeth am ein Hysgol
Pan gerddwch chi drwy ddrysau Adeilad Redwood, cewch eich hun mewn amgylchedd cynnes, croesawgar, sy’n eich gwneud yn gartrefol.
Rydyn ni’n gymuned gefnogol ac mae pawb yn cydweithio'n agos. Ewch i'n tudalen Fferylliaeth i Israddedigion i gael rhagor o wybodaeth am gymuned ein Hysgol, y gefnogaeth y byddwn yn ei chynnig i chi a'n cyfleusterau modern - yn ogystal â'n cyfleoedd am leoliad gwaith ac addysg rhyngbroffesiynol ar ein rhaglen MPharm sydd wedi’i hachredu’n llawn.
Yn fwy na dim, rydyn ni’n angerddol am y proffesiwn fferylliaeth a'ch paratoi chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae ein haddysgu yn cael ei lywio a'i gefnogi gan ein hymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n dod â'n canfyddiadau diweddaraf i'ch dysgu. Byddwch chi hefyd yn cael eich dysgu gan ymarferwyr arbenigol a fydd yn helpu chi i baratoi’n llawn ar gyfer eich rôl fel fferyllydd yn y dyfodol. Rhagor o wybodaeth am ein Hysgol.
Sut rydyn ni'n addysgu a'r hyn mae ein myfyrwyr yn ei feddwl amdanon ni
Mae eich taith Fferylliaeth yn dechrau yma
Dysgu am Brifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Lawrlwythwch ein llyfryn MPharm
Canllaw byr i astudio MPharm ym Mhrifysgol Caerdydd.
Prosbectws i Israddedigion
Gyda dros 300 o gyrsiau i ddewis ohonyn nhw, lawrlwythwch ein prosbectws.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am y broses gwneud cais.