Optometreg
Mae ein rhaglenni MOptom yn rhoi'r wybodaeth wyddonol a chlinigol i chi ddod yn optometrydd cofrestredig gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol a mwynhau gyrfa wobrwyol mewn optometreg. Rydym yn cynnig mwy nag addysg yn unig, gan y byddwch yn cyfrannu at ymchwil arloesol ac yn rhoi yn ôl i gymunedau drwy raglenni allgymorth a chlinigau llygaid ar y safle.
Pam astudio gyda ni?
Mae cymwysterau proffesiynol
Mae cymwysterau proffesiynol uwch sydd wedi'u hymgorffori yn ein rhaglenni yn eich galluogi i arbenigo mewn maes penodol sydd o ddiddordeb i chi.
96% cyflogaeth
Roedd 96% o’n graddedigion mewn swyddi hynod fedrus 15 mis ar ôl i’w cwrs ddod i ben (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Cyfleuster optometreg gwerth £22 miliwn
Mae ein Hysgol mewn cyfleuster optometreg pwrpasol gwerth £22 miliwn gyda chlinig llygaid ar y safle.
Rhaglenni Optometreg MOptom newydd
Nid oes angen blwyddyn cyn-cofrestru ar wahân ar ôl cwblhau'r cyrsiau, felly byddwch yn cymhwyso’n optometrydd pan fyddwch yn graddio.
Staff sy’n flaenllaw ym myd ymchwil yn cyfrannu at gynllunio a chyflwyno cyrsiau
Mae'r rhan fwyaf o'n staff addysgu yn ymchwilwyr ymarferol ac, mewn sawl achos, arbenigwyr arweiniol yn eu meysydd.
Yn y 2 uchaf
Dysgwch yn un o'r Ysgolion Optometreg mwyaf blaenllaw yn y DU, yn yr ail safle yn Complete University Guide 2024
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Dyma farn ein myfyrwyr
Rydym yn Ysgol gyfeillgar, arloesol a chroesawgar sy'n angerddol dros optometreg. Rydym yn falch o’n cymuned gref o fyfyrwyr ac yn aml, mae ein myfyrwyr a’n graddedigion yn disgrifio astudio yma fel ‘amgylchedd teuluol’. Dewch i glywed beth mae rhai o'n myfyrwyr yn ei ddweud am astudio yma.
Ein Hysgol
Mae ein Hysgol mewn cyfleuster optometreg pwrpasol gwerth £22 miliwn ac ar Gampws Arloesedd Parc Maendy. Rydym mewn man cyfleus ger adeiladau academaidd eraill, Undeb y Myfyrwyr, siopau canol y ddinas, parcdir deniadol a nifer o breswylfeydd myfyrwyr.
Ynghyd â'n cyfleusterau ymchwil rhagorol, mae gennym hefyd gyfleusterau israddedig pwrpasol i wneud yn siŵr y cewch y profiad gorau posibl, gan gynnwys ein clinig llygaid pwrpasol sydd ar agor i'r cyhoedd ac sy'n cynnig lleoliadau mewnol i fyfyrwyr.
Eich gyrfa
Fel optometrydd cymwysedig, bydd gennych amrywiaeth eang o opsiynau gyrfaol i chi gyda chyfleoedd gwych i gynyddu. Mae ymarfer preifat, gwasanaeth llygaid yr ysbyty, addysgu, ac ymchwil yn rhai o'r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion optometreg. Mae cofrestru hefyd yn agor posibiliadau i weithio dramor gan fod cymhwyster Optometreg o'r DU yn uchel ei barch yn fyd-eang.
Efallai yr hoffech chi hefyd gwblhau astudiaeth bellach er mwyn arbenigo. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd ôl-raddedig sydd ar gael i raddedigion optometreg.
Rhagor o wybodaeth
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Gweld ein cyrsiau optometreg
Archwilio ein cyrsiau
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - @SchoolOfOptom.