
Therapi Galwedigaethol
Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio mewn partneriaeth â ac yn grymuso sbectrwm eang o bobl sy'n wynebu heriau a rhwystrau sy'n eu hatal rhag ymgymryd â'r gweithgareddau (neu'r swyddi) sy'n bwysig iddynt.
Pam y dylech astudio gyda ni
1af yn y DU
Yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021 ein rhaglen Therapi Galwedigaethol yw’r un orau yn y DU.
Ein cysylltiadau
Mae gennym gysylltiadau agos â Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol ac â chyrff a sefydliadau proffesiynol allweddol eraill.
Rydym yn rhyngwladol
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.
Ein cyfleusterau
Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.
Caiff ein rhaglen ei hariannu
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgwrs
Mae'r Tiwtor Derbyn Therapi Galwedigaethol (BSc), Dr Heather Hurst, yn rhoi trosolwg o'r cwrs - o'r ffordd y caiff ei strwythuro, i roi cyngor ar sut i wneud cais.
Dewisais ddod i Brifysgol Caerdydd oherwydd fy mod am gael yr addysg orau a fyddai'n fy ngalluogi i fod yn Therapydd Galwedigaethol.
Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr
Mae Amy, myfyriwr Therapi Galwedigaethol yn y drydedd flwyddyn (BSc) yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.
Mae Prifysgol Caerdydd yn fy mharatoi'n dda ar gyfer yr hyn sy'n dod nesaf. Cefais flas go iawn ar y cyfleoedd sydd ar gael i mi, yn sgil fy lleoliadau, ac rwy'n gwybod bod cyflogwyr yn awyddus i gael ceisiadau gan raddedigion Prifysgol Caerdydd. Weithiau mae'r cwrs yn heriol ond mae mor werth chweil.

Cyfleoedd gofal iechyd byd-eang
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol. Yn 2019, teithiodd dros 100 o fyfyrwyr israddedig gofal iechyd a chawsant brofiad o ofal iechyd dramor.
Ble yn y byd y byddech chi'n mynd?
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Gweld ein cyrsiau therapi galwedigaethol
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwythwch lyfryn ein hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr ysgol a’r brifysgol yn ehangach.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.