Ewch i’r prif gynnwys

Sesiynau byw

Pam astudio gyda ni?

Ym Mhrifysgol Caerdydd, caiff ieithoedd modern ac astudiaethau cyfieithu eu haddysgu yn ein Hysgol Ieithoedd Modern. Mewn byd o drafodion busnes rhyngwladol a chysylltedd digidol, mae myfyrwyr sydd â chymwysterau iaith arbenigol yn meddu ar y sgiliau a’r galluoedd i lywio trwy’r byd rhyngwladol presennol yn llwyddiannus.

people

Teilwra eich astudiaethau

Gallwch ddewis yr holl ieithoedd rydym yn eu cynnig fel dechreuwr neu ddysgwr ar lefel uwch.

plane

Byw tramor

Gweithiwch, astudiwch neu addysgwch tramor yn eich trydedd flwyddyn ar raglenni gradd sy’n mynd â chi o amgylch y byd.

tick

Rhagolygon gyrfa ardderchog

87% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Cerddoriaeth ac Iaith Fodern (BA)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Datblygwch eich sgiliau iaith a cherddorol i fod yn feddyliwr creadigol a beirniadol, sy'n barod ar gyfer llwyddiant proffesiynol yn y dyfodol.

Cyfieithu (BA)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Dewch yn gyfieithydd hyfforddedig a chanddo agwedd fyd-eang a digon o fedrau proffesiynol trosglwyddadwy.

Cyfieithu gyda Blwyddyn Lleoliad Dramor (BA)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Dewch yn ieithydd a chyfieithydd hyfforddedig, gyda set sgiliau byd-eang y mae galw mawr amdani ymhlith cyflogwyr.

Hanes ac Iaith Fodern (BA)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Dilynwch eich angerdd am hanes ac ieithoedd, gan astudio'r gorffennol wrth ddod yn ieithydd hyfforddedig gyda'n gradd hyblyg.

Ieithoedd Modern (BA)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Dewch yn ieithydd hyfforddedig yn y Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Eidaleg, Siapaneg neu Tsieinëeg – neu gyfuniad o’r rheiny – trwy gwrs hyblyg Ieithoedd Modern.

Tsieinëeg Fodern (BA)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Ein fideos

Astudio Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae ein tiwtor derbyn, Yr Athro Kate Griffiths, yn sôn am bwysigrwydd astudio ieithoedd a’r cyfleoedd gyrfa y gall gradd mewn ieithoedd arwain atyn nhw.

Fy mhrofiad ieithoedd modern gyda Charlie Dodsley

Dyma Charlie, myfyrwraig raddedig BA Ffrangeg a Japaneeg, sy’n siarad am fanteision astudio ieithoedd, cyfleoedd swyddi a’i phrofiadau ar flwyddyn dramor.

Mae teimlad gwych a chroesawgar yn yr ysgol, ac mae’r gefnogaeth a geir gan holl aelodau’r staff heb ei hail. Ceir ymdeimlad cryf o gymuned, ac mae pawb yn hapus i’ch helpu gydag unrhyw broblemau - boed yn staff neu’n fyfyrwyr. Fy uchafbwynt oedd cwrdd â rhai darlithwyr gwirioneddol ysbrydoledig o bob cefndir sydd wir wedi fy annog a fy herio.
Elin Roberts Ffrangeg a Sbaeneg (BA)

Byd o bosibiliadau

An airplane above a blue sky

Eich blwyddyn dramor

Ymgolli mewn diwylliant a rhwydweithio gyda siaradwyr brodorol yw’r ffordd orau o ddatblygu a gwella eich sgiliau ieithyddol. Byddwch yn cael cyfle i wneud hyn yn ystod eich trydedd flwyddyn pan fyddwch chi’n treulio semester dramor naill ai’n gweithio, yn astudio neu’n cymryd rhan yng Nghynllun Cynorthwy-ydd Saesneg y Cyngor Prydeinig.

Students look at a laptop

Ble gall ieithoedd fynd â chi

Mae nifer o’n myfyrwyr graddedig yn byw bywydau cyffrous, amlieithog mewn gwledydd ar draws y byd. Maent yn gweithio ym maes diplomyddiaeth, TG, chwaraeon rhyngwladol, gweithgynhyrchu, y lluoedd arfog, cyfrifeg, y gyfraith, dadansoddi ariannol, ymgynghoriaeth rheoli a busnes rhyngwladol. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd!

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Female customer service assistant smiling at a customer. She is standing behind a desk. Two people are just in shot.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

academic-school
Download icon

Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion

Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.

mobile-message

Cysylltu

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.