Bydwreigiaeth
Dysgwch ddod yn weithiwr proffesiynol blaenllaw yng ngofal menywod, pobl feichiog, babanod newydd-anedig a theuluoedd.
Pam y dylech astudio gyda ni
Ein cyfleusterau
Mae ein hystafelloedd efelychu a’n cyfarpar blaengar yn adlewyrchu’r amgylcheddau gofal iechyd lle byddwch yn ymgymryd â lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, yn mynd yn eich blaen i fod yn weithwyr proffesiynol cymwys.
Canolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd
Rydym yn un o Ganolfannau Cydweithio Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer Datblygu Bydwreigiaeth. Ni yw'r unig ganolfan yn y rhanbarth Ewropeaidd.
Rydym yn rhyngwladol
Rydym wedi ymrwymo i alluogi ein myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngwladol.
Ein lleoliad
Mae prif adeilad ein Hysgol yng nghalon ysbyty mwyaf Cymru – felly byddwch yn cael eich trochi mewn amgylchedd gofal iechyd go iawn o'r diwrnod cyntaf un.
Caiff ein rhaglen ei hariannu
Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer ein rhaglenni, os ydych yn bodloni ein gofynion cymhwysedd. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Cewch glywed gan un o'n myfyrwyr
Mae Holly, sy'n fyfyriwr Bydwreigiaeth yn y drydedd flwyddyn (BMid), yn sôn am ei phrofiad o astudio gyda ni.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Dechreuwch eich taith ym maes gofal iechyd gyda ni
Ein rhaglen Bydwreigiaeth (BSc)
Ewch i'n tudalen rhaglen i gael gwybod am ofynion mynediad, ffioedd dysgu a mwy.
Lawrlwythwch lyfryn ein Hysgol
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dilynwch ni ar Twitter
I gael hyd yn oed mwy o newyddion a diweddariadau - dilynwch ni @CUHealthSci.