
Ffarmacoleg Feddygol
Meddyginiaethau: Sut y cânt eu darganfod a’u datblygu? Pam mae arnom eu hangen? Beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n gweithio?
Pam astudio gyda ni?
Bodlonrwydd myfyrwyr
Roedd 100% o'n myfyrwyr yn fodlon yn gyffredinol gyda'u cwrs
Rhagolygon gyrfa ardderchog
Mae 95% o'n myfyrwyr Ffarmacoleg Feddygol mewn swyddi a/neu'n gwneud astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.
Addysgu ardderchog
Roedd 100% o'n myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn dda am egluro pethau
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Mae astudio Ffarmacoleg yma yng Nghaerdydd wedi bod y pedair blynedd fwyaf buddiol o addysg i mi eu cael erioed, ac rwy'n teimlo'n hynod lwcus fy mod wedi bod yma. Mae'r cynllun gradd yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr sydd am ddechrau gyrfa mewn naill ai gwyddoniaeth neu feddygaeth, wrth gynnal maint carfan bychan fel eich bod wir yn teimlo eich bod yn cael cefnogaeth aelodau staff.
Rhagor o wybodaeth am astudio ffarmacoleg feddygol gyda ni
Sut byddaf i'n dysgu?
Gan fod meddyginiaethau mor bwysig ym myd gofal iechyd, nod ein rhaglen BSc yw hybu a datblygu’ch chwilfrydedd naturiol ynglŷn â’u ffordd o weithio.
Fel myfyriwr, byddwch chi’n cychwyn ar ymchwiliad manwl ac o safon i Ffarmacoleg Feddygol fodern a chewch eich hyfforddiant arbenigol mewn labordai ymchwil o fri rhyngwladol.
Drwy gydol y cwrs, rhoddir bwyslais ar ddysgu sgiliau trosglwyddadwy i chi, fel dadansoddi data, trefnu a datrys problemau, i wneud eich gradd chi’n un hynod atyniadol i ddarpar gyflogwyr.
Ro'n i'n hoffi sut y mae'n ymgorffori meddygaeth glinigol ac ymchwil, gyda llawer o ddysgu ymarfer a dysgu hunan-gyfeiriedig cefnogol. Rhan arbennig o unigryw o'r cwrs yw'r gallu i wneud anatomeg yn ystod yr ail flwyddyn a dyna un o'r rhesymau y dewisais y cwrs gan yr hoffwn weithio ym maes meddygaeth yn y dyfodol.

Blwyddyn ddewisol ar leoliad proffesiynol (PPY)
Rhwng eich ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, beth am ymestyn eich dysgu academaidd i'r gweithle? Mae hyn yn eich galluogi i gymhwyso ffeithiau a theorïau i faterion go iawn; mae'n rhoi 'sgiliau cyflogadwyedd' amhrisiadwy, yn rhoi hwb i'ch cyfleoedd gyrfa ac yn rhoi elfen gystadleuol i chi yn y marchnadoedd gwaith garwaf.

Parhau â'ch astudiaethau a dod yn ddoctor
Bob blwyddyn, mae 10 lle ar gael ar y rhaglen Meddygaeth 4-blynedd i Raddedigion (UCAS A101) i alluogi graddedigion o’r radd BSc i hyfforddi i fod yn feddygon.
Mae ffarmacoleg wedi dangos i mi'r ystod o feysydd meddygol y gallwch fynd i mewn iddynt - nid yw oncoleg yn rhywbeth y byddwn i wedi dychmygu ei garu gymaint, ond mae llawer o opsiynau gwahanol ac mae'n eich galluogi i feddwl yn ofalus am gyfleoedd ymchwil/arferion meddygol sydd ar gael.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Ein rhaglen gradd a thaflen wybodaeth

Yr Ysgol Meddygaeth Rhaglenni Gradd Israddedig 2026
Yr Ysgol Meddygaeth Rhaglenni Gradd Israddedig 2026
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

BSc Ffarmacoleg Feddygol - taflen wybodaeth
Manylion am strwythur a chynnwys y cwrs.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Dogfennau ategol Cymdeithas Ffarmacolegol Prydain
Mae gan Gymdeithas Ffarmacolegol Prydain nifer fawr o adnoddau defnyddiol ar gael i'w lawrlwytho o'u gwefan.
Camau nesaf
Gweld yr holl gyrsiau fferylliaeth feddygol
Porwch drwy ein cyrsiau israddedig.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am astudiaethau ar gyfer israddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd, cysylltwch â ni.
Polisïau derbyn
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses gwneud cais.