Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

Mae'r gyfraith yn bwnc sy'n berthnasol i bob agwedd ar eich bywyd: mae'r dderbynneb yn eich poced, eich contract cyflogaeth, eich hawliau fel perchennog cartref neu denant, y gofal mae eich nain neu’ch taid yn ei gael mewn cartref gofal, a'r polisïau a ffurfir ac a drosglwyddir gan y llywodraeth oll yn enghreifftiau o'r ffordd mae'r gyfraith yn chwarae rhan yn ein bywydau.

academic-school

Pro bono

Datblygu eich sgiliau cyfreithiol gan weithio ar achosion go iawn a helpu aelodau o'r gymuned gyda'n gwahanol gynlluniau Pro Bono.

tick

Cyflogadwyedd

96% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

rosette

Sgoriau ardderchog

Rydyn ni ymhlith yr 20 Uchaf ar gyfer y Gyfraith

yn The Complete University Guide 2025

20.

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Gyfraith gyda Throseddeg (LLB)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ennill sylfaen drylwyr yn theori ac ymarfer y gyfraith, gan weithio gydag ymchwilwyr academaidd uchel eu parch ac ymarferwyr cyfreithiol profiadol.

Y Gyfraith (LLB)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ennill sylfaen drylwyr yn theori ac ymarfer y gyfraith, gan weithio gydag ymchwilwyr academaidd uchel eu parch ac ymarferwyr cyfreithiol profiadol.

Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth (LLB)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Manteisiwch ar brofiad cyfunol academyddion ac ymarferwyr cyfreithiol i gael sylfaen drylwyr yn theori ac ymarfer y gyfraith a'i pherthynas â gwleidyddiaeth, wrth ddatblygu meddwl beirniadol a chyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy.

Y Gyfraith gyda'r Gymraeg (LLB)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Ennill sylfaen drylwyr yn theori ac ymarfer y gyfraith, gweithio gydag ymchwilwyr academaidd uchel eu parch ac ymarferwyr cyfreithiol profiadol, sgiliau dwyieithog uwch, a dilyn eich angerdd am lên, iaith a diwylliant Cymru.

Ein sgyrsiau a'n fideos

Studying law at Cardiff University

Professor Nicolas Ryder explores the multifaceted topic of law and how, without us really noticing, it permeates most aspects of our lives. Professor Ryder talks about studying law at Cardiff University and how our offering differs from other universities via the choices, pro bono opportunities, and extra-curricular activities we provide you.

Barn ein myfyrwyr

Dyma sydd gan Ollie i'w ddweud am ei gyfnod yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Astudiodd Ollie raglenni israddedig ac uwchraddedig yn y gyfraith gyda ni.

Cewch wybod rhagor am Brosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd a gynhelir gan yr Uned Pro Bono

Gwrandewch ar Kyprianos, sy’n fyfyriwr y gyfraith, yn sôn am sut brofiad yw bod yn rhan o Brosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd.

Uchafbwynt y cwrs i mi oedd dod i ddeall sut mae gan y gyfraith rôl mor hanfodol mewn bywyd bob dydd. Bod yn gyfreithiwr oedd fy nymuniad ers i mi fod yn 15 oed ac mae'r cwrs wedi bod yn allweddol gan fy helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni fy nodau. Er bod y cwrs wedi bod yn heriol yn ddeallusol, rwyf i wedi mwynhau gweld twf personol a chynnyddu fy hunanhyder.
Chloe Daley Y Gyfraith LLB

Mwy amdanom ni

Student speaking with lecturer.

Y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth

Rydym ni'n cynnig amrywiol gyfleoedd fydd yn eich helpu i dynnu sylw mewn marchnad cyflogaeth gystadleuol.

Student working on legal cases

Pro Bono

Cewch gychwyn da i'ch gyrfa gyfreithiol yn ein Huned Pro Bono. Cewch ddatblygu sgiliau gofalu am gleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus wrth weithio ar achosion go iawn a helpu aelodau o'r gymuned.

Law Building

Ble byddwch chi'n astudio

Rydym mewn man canolog ym mhrifddinas Cymru, yn y ganolfan ddinesig a chyfreithiol. Yn agos at ganol y dref a chysylltiadau trafnidiaeth.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Female customer service assistant smiling at a customer. She is standing behind a desk. Two people are just in shot.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

academic-school
Download icon

Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion

Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.

icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Cyflwyno cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi

Student sitting behind a laptop

Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Ymunwch ag un o'r adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mwyaf yn y DU.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.