Newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant
Ymunwch â ni i astudio materion megis effaith y cyfryngau cymdeithasol, rôl cyfathrebu corfforaethol neu pam fo newyddiaduraeth o safon uchel yn bwysicach nag erioed yn oes y ‘newyddion ffug’.
Rhesymau dros astudio gyda ni
Rydyn ni’n cynnig sefydliad rhagorol lle y gallwch chi ddysgu, meddwl a meithrin medrau personol a phroffesiynol hanfodol gyda phwyslais ar chwilfrydedd ysgolheigaidd, dadlau’n ddeallus a meddwl yn greadigol. Mae’n graddedigion yn defnyddio eu gwybodaeth, eu medrau a’u brwdfrydedd ym meysydd newyddiaduraeth, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, y diwydiannau creadigol a masnach.
Cyflogadwyedd
91.8% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22).
Arbenigwyr yn addysgu
Mae ein staff arbenigol a phrofiadol yn cynnwys rhai o awduron, ymchwilwyr a meddylwyr mwyaf blaenllaw y byd yn ogystal â chydweithwyr proffesiynol o’r maes newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau.
Cysylltiadau da
Byddwch yn astudio yng nghanol ardal cyfryngau bywiog Caerdydd mewn adeilad pwrpasol sydd drws nesaf i adeilad newydd BBC Cymru.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein cyflwyniadau a’n fideos
Astudio newyddiaduraeth, cyfathrebiadau a'r cyfryngau ym Mhrifysgol Caerdydd
Y peth cyntaf y mae angen i chi ei wybod yw bod ein holl raglenni israddedig yn bennaf yn rhaglenni academaidd, damcaniaethol, sy'n dysgu mwy i chi am newyddiaduraeth, y cyfryngau a'r diwydiannau diwylliannol nag y maent yn eich hyfforddi i fod yn newyddiadurwr, yn gynhyrchydd teledu neu'n wneuthurwr ffilmiau.
Cyfryngau sy'n cyfri
Mae diwydiant y cyfryngau yn diffinio ein diwylliant a sut rydym yn byw. Felly, mae hyfforddi pobl gyda’r sgiliau addas a’r gwerthoedd cryfion i weithio yn y diwydiant cyfryngau yn hanfodol bwysig ac yn gofyn am ganolfannau rhagoriaeth fel Prifysgol Caerdydd i ymchwilio a deall y diwydiant cyfryngau modern.
Sylfaen llwyddiant
Lansio eich gyrfa gyda ni
Cwrdd â newyddiadurwr, arweinydd digidol a chyflwynydd – Kathryn Charles
Newyddiadurwr ITV Cymru Wales Kathryn Charles (Tresilian yn y fideo) yn egluro sut y gwnaeth astudio materion cyfoes, gwleidyddiaeth y byd, hysbysebu a cysylltiadau cyhoeddus ei helpu i fod yn newyddiadurwr llwyddiannus ac effeithiol.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Gweld yr holl gyrsiau israddedig newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant
Archwilio ein cyrsiau
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Ffynhonnell: Canlyniadau Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22, a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig (HESA). Hawlfraint Jisc 2024. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.