Daeareg a'r geowyddorau
Astudiwch strwythur, esblygiad a dynameg y Ddaear a'i hadnoddau mwynau ac ynni naturiol. Ymchwiliwch i sut mae prosesau daear, fel tirlithriadau, daeargrynfeydd, llifogydd a ffrwydradau folcanig, yn newid y byd o'n cwmpas.
Pam astudio gyda ni
Lleoliadau gwaith sydd ar gael
Rydym yn cynnig lleoliadau gwaith ac astudiaethau tramor blwyddyn o hyd ar ein cyrsiau daeareg, sydd i gyd wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Ddaearegol, y corff proffesiynol ar gyfer geowyddorau yn y DU.
Cysylltiadau lleol
Lleolir ein Hysgol yn yr un adeilad â swyddfa Gymreig Arolwg Daearegol Prydain a drws nesaf i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Sgiliau anghenion cymdeithas
Mae ynni a chynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd, rheoli dŵr, adnoddau mwynol a pheryglon naturiol yn sail i lawer o heriau byd-eang, sy’n creu galw cynyddol am sgiliau daearegol.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Cyfleusterau a lleoliad
Ein Hysgol
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol wedi'i lleoli y tu mewn i Brif Adeilad eiconig y Brifysgol.
Darlithfa fawr
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae Darlithfa Shandon yn un o'n darlithfeydd mawr. Mae’n bosib y cewch rai o'ch darlithoedd blwyddyn gyntaf yma. Mae pob un o'n myfyrwyr yn astudio rhai o'r un modiwlau yn y flwyddyn gyntaf i ddatblygu sgiliau GIS, mapiau, dadansoddol a maes pwysig.
Darlithfa fach
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae Darlithfa Wallace yn un o'n darlithfeydd llai. Mae’n bosib y cewch rai o’ch darlithoedd ail a thrydedd flwyddyn yma.
Llyfrgell Gwyddoniaeth
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae'r llyfrgell yn cynnwys casgliadau biowyddorau, cemeg, gwyddorau’r Ddaear a'r amgylchedd, ynghyd â chyfleusterau i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau.
Labordy
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladDyma lle mae ein myfyrwyr daeareg a geowyddorau yn cwblhau gwaith labordy, fel archwilio haenau tenau trwy ficrosgop.
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae ein Hysgol gyferbyn â chartref newydd Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a dewis mawr o siopau, bwytai a lleoedd astudio.
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru dafliad carreg i ffwrdd, ac felly bydd gennych fynediad hawdd i'w horielau arddangos a'u casgliadau trawiadol.
Ein sgyrsiau
Rhagflas ar astudio daeareg
Gwyliwch ein darlith ragflas neu cofrestrwch ar gyfer ein cwrs byr ar-lein am ddim i gael blas ar ein dull addysgu, yn ogystal â rhai o'r pynciau cyffrous y gallech eu hastudio.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein cyrsiau daeareg a geowyddoniaeth
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwytho’r llyfryn
Dysgwch ragor am ein Hysgol yn ein llyfryn pwnc.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn a chewch ymateb cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill efallai y bydd gennych ddiddordeb ynddynt
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.