Daearyddiaeth (Ffisegol)
Archwiliwch y tirweddau, yr hinsawdd a'r prosesau ffisegol deinamig sy'n siapio wyneb y Ddaear. Gallwch ddewis canolbwyntio ar yr heriau byd-eang sy'n wynebu ein cefnforoedd neu'r effaith y mae bodau dynol yn ei chael ar ein planed a sut y gallwn symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Pam astudio gyda ni
Lleoliadau gwaith
Mae Cymru yn lleoliad cyffrous i ddaearyddwyr ei archwilio gyda mynyddoedd trawiadol yn y gogledd ac aber llanw bioamrywiol yn y de.
Gwneud effaith
Rydym yn darparu amgylchedd lle gall pob myfyrwyr gyflawni eu potensial er budd cymdeithas.
Cysylltiadau cryf
Mae ein cysylltiadau rhagorol â sefydliadau lleol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth Aber Afon Hafren, yn helpu ein myfyrwyr i ddod o gyfleoedd i wneud prosiectau a mynd ar leoliadau gwaith.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Cyfleusterau a lleoliad
Ein Hysgol
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol wedi'i lleoli y tu mewn i Brif Adeilad eiconig y Brifysgol.
Darlithfa fawr
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae Darlithfa Shandon yn un o'n darlithfeydd mawr. Mae’n bosib y cewch rai o'ch darlithoedd blwyddyn gyntaf yma.
Darlithfa fach
Wedi'i leoli yn Main BuildingMae Darlithfa Wallace yn un o'n darlithfeydd llai lle gallai fod gennych rai o'ch darlithoedd yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Llyfrgell Gwyddoniaeth
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae'r llyfrgell yn cynnwys casgliadau biowyddorau, cemeg, gwyddorau’r Ddaear a'r amgylchedd, ynghyd â chyfleusterau i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau.
Labordy
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae hwn yn labordy nodweddiadol lle gallai myfyrwyr daearyddiaeth gwblhau gweithgareddau fel sesiynau mapio.
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae ein Hysgol gyferbyn â chartref newydd Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a dewis mawr o siopau, bwytai a lleoedd astudio.
Llong Ymchwil y Guiding Light
Mae ein llong ymchwil arfordirol yn galluogi rhai o'n myfyrwyr daearyddiaeth i ddeall materion morol yn well, o godiad lefel y môr i erydiad a rheolaeth arfordirol.
Ein sgyrsiau
Blas ar astudio daearyddiaeth
Gwyliwch ein darlith flasu neu cofrestrwch ar gyfer ein cwrs byr ar-lein am ddim i gael blas ar ein dull o addysgu, yn ogystal â rhai o'r pynciau cyffrous y gallech eu hastudio.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein cyrsiau daearyddiaeth ffisegol
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwytho’r llyfryn
Dysgwch ragor am ein Hysgol yn ein llyfryn pwnc.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn a chewch ymateb cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio
Pynciau eraill
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.