
Saesneg iaith a llenyddiaeth
Cewch archwilio amrywiaeth Llenyddiaeth Saesneg ar draws y rhychwant cronolegol, gan wneud cysylltiadau bywiog â phob ffurf ar ddiwylliant. Neu gallwch ddewis ymchwilio gallu ieithyddol y ddynoliaeth gyda sylfaen drylwyr ym mhob agwedd allweddol ar ddadansoddi iaith.
Pam astudio gyda ni?
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn dathlu chwilfrydedd, trafodaeth wybodus, dadansoddi beirniadol a meddwl yn greadigol. Ystyriwn ein rôl fel partneriaeth, gan eich galluogi yn eich dysgu drwy ddarparu addysgu arbenigol mewn diwylliant cyfeillgar, cefnogol a phersonol.
Rhagolygon gyrfa ardderchog
92% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Ymchwil o safon
Yn 4ydd yn y DU ar gyfer effaith ein hymchwil ac yn bumed ar gyfer pŵer ymchwil ym maes Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (REF 2021).
Staff arobryn
Mae ein tîm Ysgrifennu Creadigol talentog yn ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd am eu nofelau a'u barddoniaeth a gyda’i gilydd mae ganddynt brofiad ym myd y theatr, teledu a ffilm.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Mae Caerdydd yn lle gwych i astudio a byw. Ceir rhestr hirfaith o fodiwlau i ddewis o'u plith, ac mae'r addysgu'n hynod ddiddorol ac addysgiadol. Mae darlithwyr yn eich annog i feddwl yn annibynnol ac ymchwilio i'ch syniadau eich hun, gan roi cefnogaeth a chyngor defnyddiol.
Mwy amdanom ni
Roedd y gefnogaeth anhygoel a gynigiwyd drwy gydol fy ngradd yn arbennig. Aeth llawer o fy narlithwyr gam ymhellach i roi adborth i mi a fyddai'n sicrhau fy mod i’n llwyddo ac yn cyflawni fy mhotensial mewn aseiniadau. Fy mhrif nod wrth ddod i Gaerdydd oedd cael gradd dda, ac eto rydw i wedi gorffen gyda chymaint mwy! Mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnig nifer mawr o gyfleoedd anhygoel, megis Gwobr Caerdydd, Mentora Myfyrwyr a bod yn Gynrychiolydd Myfyrwyr Academaidd.

Annog manyldeb beirniadol, creadigrwydd a chwilfrydedd deallusol
Yn sail i''n haddysgu mae ymchwil o’r radd flaenaf sy'n rhyngwladol ardderchog. Rydym yn dwyn ynghyd y lefelau uchaf o ysgolheictod gyda hanes o arloesi ac ymgysylltu, sydd wedi helpu i ddiffinio ein meysydd a sicrhau newidiadau y tu hwnt i'r byd academaidd.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein holl gyrsiau Saesneg iaith a llenyddiaeth.
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.