
Economeg
Edrychwch ar economeg yng nghyd-destun heriau gwleidyddol-gymdeithasol cenedlaethol a rhyngwladol cyfoes.
Pam astudio gyda ni?
O Brexit a Threth Ystafell Wely i gyflogau a chyfoeth, yr amgylchedd ac ynni i iechyd a'r digartref, prin yw'r dylanwad fu gan economegwyr erioed yng nghyfeiriad a'r drafodaeth ynghylch materion sy'n effeithio ar gymunedau'r byd.
Ar ôl i chi raddio
97% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Ein hystafell masnach
Hyfforddi yn ein Hystafell Masnach arloesol, y fwyaf yng Nghymru.
Materion a phenblethau moesegol
Astudiwch y materion a’r penblethau moesegol ym myd busnes ar fodiwlau arbenigol mewn economeg ddiwydiannol, hanes economaidd, economeg llafur neu economeg ryngwladol.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Ymunais â’r cwrs yn fyfyriwr aeddfed, a phrin oedd fy nealltwriaeth o economeg. Roedd yr amgylchedd yn groesawgar iawn a gwnes i gymaint o atgofion gwych gyda ffrindiau rydw i'n dal i'w gweld heddiw. Mwynheais yr holl gyfleoedd i gymhwyso'r syniadau yn y darlithoedd i broblemau’r byd go iawn, gan helpu i feithrin fy sgiliau dadansoddi fel ymchwilydd - gyrfa rwyf i nawr yn ei dilyn fel myfyriwr ôl-raddedig.
Mwy amdanom ni

Ysgol busnes a rheolaeth ymchwil ddwys o safon fyd-eang
Mae ein buddsoddiad mewn cyfleusterau astudio, cymorth a chymdeithasol yn cynnig yr amgylchedd gorau posibl i lwyddo. Mae gennym gyfleusterau rhagorol ar draws tri adeilad gan gynnwys Ystafell Masnach fwyaf Cymru.
Ar ben hynny, rydym wedi trawsnewid llawr gwaelod Adeilad Aberconwy yn 'stryd fawr y myfyrwyr,' gyda Chanolfan Israddedig bwrpasol, Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr a Pharth Cyfleoedd pwrpasol.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Pob cwrs economeg israddedig
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.