Dysgwch sut i warchod ein planed am genedlaethau i ddod. P'un a ydych chi'n dewis astudio daearyddiaeth, daeareg neu wyddor cynaliadwyedd amgylcheddol, byddwch chi'n ennill gwybodaeth a sgiliau gwyddonol i effeithio ar ddatblygiadau a phenderfyniadau amgylcheddol allweddol.
Rydym yn cynnig cyfleoedd lleoli gwaith ac astudio dramor ar fwyafrif ein cyrsiau. Hefyd, mae pob myfyriwr yn mynd ar deithiau maes rheolaidd yn Ne Cymru, y DU a thramor.
Sgiliau sydd eu hangen ar gymdeithas
Mae newid yn yr hinsawdd, llygredd, diraddio tir a pheryglon naturiol ar flaen y gad mewn llawer o heriau byd-eang, gan greu galw cynyddol am sgiliau gwyddor y ddaear a'r amgylchedd.
Pynciau eang
Rydym yn cynnig cyrsiau gradd yng ngwahanol ganghennau daeareg a geowyddoniaeth, daearyddiaeth ffisegol a rhaglen unigryw mewn gwyddoniaeth cynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae teithiau maes yn dysgu technegau newydd y byddwch yn eu defnyddio drwy gydol eich gradd ac yn rhoi trosolwg i chi o’r cwrs. Maen nhw hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd. Pan gewch chi eich gollwng ar un o'ch teithiau cyntaf, allwch chi ddim peidio gwneud ffrindiau. Tra bod pawb a oedd yn rhannu fflat ‘da fi yn eistedd mewn darlithoedd ddydd ar ôl dydd, roeddwn i allan yn crwydro Caerdydd a'r cyffiniau.
Mae daearegwyr yn astudio'r mwynau a'r creigiau sy'n ffurfio'r Ddaear solet, y prosesau sy'n digwydd ar ac o fewn ein planed, ac esblygiad bywyd ar ei harwyneb.
Mae daearegwyr yn astudio'r mwynau a'r creigiau sy'n ffurfio'r Ddaear solet, y prosesau sy'n digwydd ar ac o fewn ein planed, ac esblygiad bywyd ar ei harwyneb.
Mae daearyddwyr amgylcheddol yn defnyddio eu dealltwriaeth wyddonol o'r amgylchedd naturiol a ffisegol i ddod o hyd i atebion i faterion amgylcheddol hanfodol.
Mae daearyddwyr amgylcheddol yn defnyddio eu dealltwriaeth wyddonol o'r amgylchedd naturiol a ffisegol i ddod o hyd i atebion i faterion amgylcheddol hanfodol.
Ar y rhaglen radd pedair blynedd hon, byddwch yn gweithio ar brosiect ymchwil annibynnol o'ch dewis, gan ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa academaidd neu ymgynghori.
Mae daearyddwyr ffisegol yn archwilio esblygiad arwyneb y Ddaear, y wyddoniaeth y tu ôl i'w phrosesau ffisegol a'r effeithiau a'r dylanwadau o'u cwmpas, gan gynnwys amgylcheddau rhewlifol, peryglon naturiol a newid yn yr hinsawdd.
Mae daearyddwyr ffisegol yn archwilio esblygiad arwyneb y Ddaear, y wyddoniaeth y tu ôl i'w phrosesau ffisegol a'r effeithiau a'r dylanwadau o'u cwmpas, gan gynnwys amgylcheddau rhewlifol, peryglon naturiol a newid yn yr hinsawdd.
Mae ein gradd daearyddiaeth forol yn cwmpasu ystod eang o bynciau morol ac arfordirol, o newid yn yr hinsawdd, meteoroleg ac eigioneg, i gamfanteisio ar y cefnforoedd a chynaliadwyedd
Mae ein gradd daearyddiaeth forol yn cwmpasu ystod eang o bynciau morol ac arfordirol, o newid yn yr hinsawdd, meteoroleg ac eigioneg, i gamfanteisio ar y cefnforoedd a chynaliadwyedd
Mae'r radd pedair blynedd hon yn cyfuno cydrannau Daeareg a Daearyddiaeth Ffisegol, gan ganolbwyntio ar ddysgu sut i gynnal eich prosiect ymchwil eich hun.
Mae geowyddonwyr amgylcheddol yn archwilio materion geoamgylcheddol dynol a naturiol, megis geoberyglon, daeareg beirianneg, llygredd, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr.
Mae geowyddonwyr amgylcheddol yn archwilio materion geoamgylcheddol dynol a naturiol, megis geoberyglon, daeareg beirianneg, llygredd, cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr.
Mae Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol wedi'i lleoli y tu mewn i Brif Adeilad eiconig y Brifysgol.
Darlithfa fawr
Wedi'i leoli yn Prif Adeilad
Mae Darlithfa Shandon yn un o'n darlithfeydd mawr. Mae’n bosib y cewch rai o'ch darlithoedd blwyddyn gyntaf yma. Mae pob un o'n myfyrwyr yn astudio rhai o'r un modiwlau yn y flwyddyn gyntaf i ddatblygu sgiliau GIS, mapiau, dadansoddol a maes pwysig.
Darlithfa fach
Wedi'i leoli yn Prif Adeilad
Mae Darlithfa Wallace yn un o'n darlithfeydd llai lle gallai fod gennych rai o'ch darlithoedd yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Llyfrgell Gwyddoniaeth
Wedi'i leoli yn Prif Adeilad
Mae'r llyfrgell yn cynnwys casgliadau biowyddorau, cemeg, gwyddorau’r Ddaear a'r amgylchedd, ynghyd â chyfleusterau i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau.
Labordy
Wedi'i leoli yn Prif Adeilad
Mae hwn yn labordy nodweddiadol lle gallai myfyrwyr daeareg a geowyddorau archwilio haenau tenau gan ddefnyddio microsgop, ac mae’n bosibl y bydd ein myfyrwyr daearyddiaeth yn cael sesiynau mapio.
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae ein Hysgol gyferbyn â chartref newydd Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a dewis mawr o siopau, bwytai a lleoedd astudio.
Llong Ymchwil y Guiding Light
Mae ein llong ymchwil arfordirol yn galluogi rhai o'n myfyrwyr daearyddiaeth i ddeall materion morol yn well, o godiad lefel y môr i erydiad a rheolaeth arfordirol.
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru dafliad carreg i ffwrdd, ac felly bydd gennych fynediad hawdd i'w horielau arddangos a'u casgliadau trawiadol.
Mae Dr Iain McDonald yn archwilio'r cyfleoedd taith maes sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio ein rhaglenni gradd daeareg a’r geowyddorau.
Fe dreuliais i dair blynedd anhygoel yn astudio Geowyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers i mi raddio, rydw i wedi dod yn Swyddog Cadwraeth ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Bermuda, lle rwy’n rheoli 270 o erwau o fannau gwyrdd yn Bermuda. Bydd hyn bob amser yn her, ond rwy’n cael cymorth o hyd ac o hyd gan y profiadau a’r prosesau a ddysgwyd i mi yn ystod y cwrs BSc Geowyddorau Amgylcheddol. Enillais brofiad rhyngwladol amhrisiadwy ac fe wnes i lawer o ffrindiau gydol oes yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd.
Lawrence Doughty, Geowyddorau Amgylcheddol (BSc)
Darlithoedd blasu
Cymerwch gip ar un o'n darlithoedd blasu i gael blas ar ein dull o addysgu, yn ogystal â rhai o'r pynciau cyffrous y gallech chi gael cyfle i'w hastudio.
Archwiliwch y tirweddau, yr hinsawdd a'r prosesau ffisegol deinamig sy'n siapio wyneb y Ddaear. Gallwch ddewis canolbwyntio ar yr heriau byd-eang sy'n wynebu ein cefnforoedd neu'r effaith y mae bodau dynol yn ei chael ar ein planed a sut y gallwn symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.
Astudiwch strwythur, esblygiad a dynameg y Ddaear a'i hadnoddau mwynau ac ynni naturiol. Ymchwiliwch i sut mae prosesau daear, fel tirlithriadau, daeargrynfeydd, llifogydd a ffrwydradau folcanig, yn newid y byd o'n cwmpas.
Ydych chi’n angerddol am fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a datblygiadol byd-eang i wella ble a sut rydym yn byw? Ein rhaglenni daearyddiaeth ddynol a chynllunio yw'r dewis i chi.
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.