Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewid dyfodol gofal deintyddol

Byddwch yn teimlo bod ‘croeso’ i chi ym mhob man yn ein Hysgol Deintyddiaeth.

Mae gennym oll yr un nod – gwella dyfodol gofal deintyddol ledled Cymru, y DU a thu hwnt.

Oherwydd ein cysylltiadau cryf â’r GIG, byddwch yn cael profiadau clinigol yn y byd go iawn lle byddwch yn profi eich sgiliau mewn sefyllfaoedd cefnogol a diogel. Ac nid cymhwyso i fod yn weithiwr deintyddol proffesiynol yw’r unig ffocws. Gallwch chi hefyd ddylanwadu ar ddyfodol iechyd y geg trwy ymchwil.

Ymunwch â’n casgliad o feddyliau gwych i gyd yn gweithio i wneud y byd yn lle gwell, o atal pydredd dannedd mewn plant a gwneud deintyddiaeth yn fwy cyfeillgar i gleifion - credwch neu beidio - lleihau troseddau treisgar ar strydoedd Caerdydd a newid agweddau tuag at alcohol.

Rydyn ni'n lwcus yng Nghaerdydd; mae Ysbyty Athrofaol Cymru yn cynnwys ei Ysbyty Deintyddol ei hun sy'n cynnig opsiynau triniaeth pwrpasol a meysydd arbenigedd na allwch ddod o hyd iddynt mewn sawl ardal arall yng Nghymru. Mae'n golygu eich bod chi'n dod i gysylltiad â chymaint mwy o bethau nag y gallech chi mewn man arall. Mae’n werth chweil gweld y gwahaniaeth go iawn y gallwn ei wneud i gleifion a’u teuluoedd.
Elana Phillips Myfyriwr Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol israddedig

Pam y dylech astudio gyda ni

building

Ystafell efelychu £2.2 miliwn

Bydd ein hystafell efelychu fodern a gostiodd £2.2m yn eich paratoi'n berffaith ar gyfer darparu gofal deintyddol i gleifion yn y clinigau modern.

people

Profiad Clinigol Cynnar

Byddwch yn cael eich addysgu yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol ac yn ennill profiad clinigol clinigol gwerthfawr drwy weithio mewn ystod o senarios gyda staff profiadol a chefnogol.

tick

Dewis cadarn

Fel rhan o'n cynnig i chi, os byddwch yn ein dewis ni fel eich dewis cadarn rydym yn addo cadw eich lle ar gyfer y flwyddyn ganlynol os byddwch yn methu â chael graddau eich cynnig, er mwyn eich galluogi i ailsefyll eich arholiadau.

certificate

Ymhlith y 5 uchaf

yn y DU ym maes Deintyddiaeth (The Complete University Guide 2025)

certificate

Lleoedd wedi'u hariannu'n llawn ar gael

Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer myfyrwyr BSc Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol a myfyrwyr DipHE Hylendid Deintyddol. Mae’n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy ar gyfer costau byw.

globe

Ymhlith y 50 uchaf

yn y byd ym maes Deintyddiaeth (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd 2024)

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Hylendid Deintyddol (DipHE)

Amser llawn, 2 blwyddyn

Mae ein cwrs Hylendid Deintyddol, sy’n cael ei gyflwyno yn unig ysgol ddeintyddol Cymru, wedi’i achredu gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Llawfeddygaeth ddeintyddol (BDS)

Amser llawn, 5 blwyddyn

Mae ein rhaglen BDS yn cael ei chyflwyno yn yr unig ysgol ddeintyddol yng Nghymru, gyda’r cyfleusterau hyfforddi diweddaraf a ffocws ar weithio gyda chleifion go iawn.

Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae ein cwrs Hylendid a Therapi Deintyddol, sy’n cael ei gyflwyno yn unig ysgol ddeintyddol Cymru, wedi’i achredu gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Astudio deintyddiaeth

Mae ein myfyrwyr yn trafod y profiad o astudio deintyddiaeth yn yr unig Ysgol Ddeintyddol yng Nghymru. Ar ddiwedd y rhaglen 5 mlynedd hon bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiad sydd eu hangen arnoch i gofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC). Bydd hyn yn eich galluogi i gwblhau eich blwyddyn Hyfforddiant Sylfaenol Deintyddol (DFT) ac ymuno â’r byd deintyddiaeth proffesiynol.

Astudio therapi deintyddol a hylendid deintyddol

Mae ein myfyrwyr yn trafod y profiad o astudio therapi deintyddol a hylendid deintyddol yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd ein cwrs Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol yn eich galluogi i gymhwyso i arfer fel hylenydd neu therapydd gan ei fod wedi’i gydnabod gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Universal Clinical Aptitude Test (UCAT)

If you're thinking of applying to study dentistry, this short video offers official advice about how best to go about preparing to sit the UCAT, an admissions test used in the selection process by UK medical and dental schools. It shows the tools available to help you prepare and suggests a rough timeline for you. You can refer to key dates for UCAT.

Cyfleusterau a lleoliadau

Dysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth

Mae astudio yng Nghaerdydd yn gymaint mwy na darlithfeydd a gwerslyfrau.

Byddwch yn ymarfer eich sgiliau clinigol yn ddiogel yn ein hystafell efelychu deintyddol, ar ddymis sy’n cael eu galw’n ‘bennau rhithiol’, cyn mynd ati mewn sefyllfaoedd clinigol go iawn gydag ystod o gleifion oherwydd ein cysylltiadau cryf â’r GIG.

Byddwch hefyd yn cychwyn ar leoliadau clinigol yng Nghymru, lle byddwch yn cael eich amgylchynu gan dîm profiadol o glinigwyr, yn eich cefnogi i fod y gweithiwr deintyddol proffesiynol gorau y gallwch fod.

Bydd y profiadau ymarferol a go iawn hyn yn gwneud yn siŵr eich bod wedi’ch paratoi’n llawn i fod yn weithiwr deintyddol proffesiynol, a bod gennych y sgiliau clinigol a’r hyder i ragori ym mha bynnag yrfa a ddewiswch.

Mae gan Brifysgol Caerdydd gyfleusterau Pennau Lledrithiol rhagorol. Byddwch yn dechrau eu defnyddio ym Mlwyddyn 2 a thrwy’r cwrs hyd at Flwyddyn 4. Mae sesiynau galw heibio ar gael hefyd os hoffech ehangu eich sgiliau clinigol. Un nodwedd unigryw o fy rhaglen ym mlwyddyn 1 yw eich bod yn cael mynediad at y ganolfan anatomeg sy’n golygu eich bod chi’n cael y cyfle i ddysgu am anatomeg â chelanedd yn hytrach na thrwy werslyfr. Nid oes llawer o ysgolion deintyddol yn gallu cynnig hyn.
Emily Fell Myfyriwr Deintyddiaeth (BDS) israddedig

Rhagor o wybodaeth

Mae gennym un o’r cofnodion cyflogadwyedd uchaf ymhlith yr ysgolion deintyddol yn y Deyrnas Unedig sy’n cystadlu â ni

Ein cyrsiau

Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi israddedig i fyfyrwyr deintyddiaeth, hylendid deintyddol a therapi deintyddol.

Tissue engineering and regenerative medicine is an inter-disciplinary research field, combining life sciences, biomaterials and engineering, with an aim to regenerate, repair or replace damaged and diseased cells, tissues or organs.

Ein hymchwil

Mae ein hymchwil fyd-enwog yn cynnig ffyrdd o wella iechyd a lles cymdeithas.

studentghana

Cyfleoedd byd-eang

Cewch wella eich profiad myfyriwr ar lefel ryngwladol drwy ddilyn cynlluniau astudio, gweithio a gwirfoddoli amrywiol, sydd ar gael ym mhedwar ban byd.

Yr hyn sy’n arbennig am Gaerdydd yw’r cyfuniad prin o gyfleusterau ardderchog a staff gwybodus a chyfeillgar. Ceir ymdeimlad teuluol go iawn, sy’n ein helpu i roi profiad dysgu heb ei ail i fyfyrwyr, sydd yn ei dro yn ein galluogi ni i gyd i fwynhau’r hyn rydym yn ei wneud.
Emyr Meek Myfyriwr Deintyddiaeth (BDS) israddedig

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy

Female customer service assistant smiling at a customer. She is standing behind a desk. Two people are just in shot.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Y camau nesaf

academic-school

Gweld ein cyrsiau deintyddiaeth

Archwilio ein cyrsiau

Download icon

Lawrlwytho ein llyfryn

Manylion ein rhaglenni deintyddiaeth israddedig sy’n dechrau yn 2020/2021.

icon-contact

Cysylltu â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i gyflwyno cais

Popeth sydd angen i chi ei wybod am wneud cais i astudio gyda ni.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2020. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw’r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2017/18 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2020.