Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni?

briefcase

Rhagolygon gyrfa ardderchog

Mae 95% o'n myfyrwyr mewn cyflogaeth hynod fedrus 15 mis ar ôl graddio. (Data HESA)

rosette

Cyfleusterau rhagorol

Mae ein myfyrwyr yn dweud yn gyson ein bod ymhlith prifysgolion gorau’r DU o ran cael mynediad at gyfarpar, ystafelloedd a chyfleusterau pan mae eu hangen arnynt.

star

Rhagoriaeth Addysgu

Maer addysgu arloesol a chydweithredol yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi cael cydnabyddiaeth gyson drwy ennill nifer o wobrau uchel eu parch.

Fe gwympais i mewn cariad â natur ymarferol y cwrs. Fel rhywun sy’n dysgu drwy waith labordy ac enghreifftiau, roedd hyn yn fy ngweddu i’r dim. Mae gallu rhaglennu, adeiladu a phrofi systemau gwahanol bob amser yn bleser, yn arbennig pan mae pobl eraill o’ch cwmpas chi i roi help llaw os oes angen.
Caitlin Burns, BSc Cyfrifiadureg

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Cyfrifiadureg (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae ein prif gwrs wedi’i lywio gan anghenion y diwydiant ac yn addysgu elfennau sylfaenol cyfrifiadureg i’r myfyrwyr, gan gynnwys sgiliau proffesiynol ar gyfer datrys problemau a gwneud gwaith prosiect.

Cyfrifiadureg (MSci)

Amser llawn, 4 blwyddyn

P’un a hoffech sicrhau mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi i raddedigion neu baratoi ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil, gall ein cwrs meistr integredig pedair blynedd eich helpu i gyflawni eich nodau proffesiynol yn gyflymach.

Cyfrifiadureg gyda blwyddyn mewn diwydiant (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Mae'r fersiwn pedair blynedd hon o'n prif gwrs yn rhoi’r opsiwn i chi weithio am dâl mewn sefydliad blaenllaw am flwyddyn, a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd.

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant (MSci)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 5 blwyddyn

Mae'r fersiwn pum mlynedd hon o'n prif gwrs uwch yn rhoi’r opsiwn i chi weithio am dâl mewn sefydliad blaenllaw am flwyddyn, a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd.

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Mae'r fersiwn pedair blynedd hon o'n prif gwrs yn rhoi’r opsiwn i chi gael trydedd flwyddyn llawn antur yn astudio mewn prifysgol dramor.

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (MSci)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 5 blwyddyn

Mae'r fersiwn pum mlynedd hon o'n prif gwrs uwch yn rhoi’r opsiwn i chi gael trydedd flwyddyn llawn antur yn astudio yn un o'n sefydliadau partner o gwmpas y byd.

Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Dysgwch sut i ddiogelu buddsoddiad sefydliadau drwy ddeall yr egwyddorion, yr adnoddau a'r technolegau sydd eu hangen i gadw eu systemau'n ddiogel.

Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg gyda blwyddyn mewn diwydiant (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Dysgwch sut i ddiogelu buddsoddiad sefydliadau drwy ddeall yr egwyddorion, yr adnoddau a'r technolegau sydd eu hangen i gadw eu systemau'n ddiogel. Mae'r fersiwn pedair blynedd hon o'r cwrs yn rhoi cyfle i chi weithio am dâl mewn sefydliad

Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg gyda Blwyddyn o Astudio Dramor (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn dramo, 4 blwyddyn

Dysgwch sut i ddiogelu buddsoddiad sefydliadau drwy ddeall yr egwyddorion, yr adnoddau a'r technolegau sydd eu hangen i gadw eu systemau'n ddiogel. Mae'r fersiwn pedair blynedd hon o'r cwrs yn cynnwys trydedd flwyddyn llawn antur yn astudio yn un

Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn cael ei addysgu yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol. Mae ar gyfer y rhai sydd am ddysgu sut mae meddalwedd yn cael ei datblygu a’i chynnal, a hynny drwy brosiectau datblygu sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.

Ein sgyrsiau

Mae ein staff a’n myfyrwyr wedi creu nifer o fideos gwahanol i’ch tywys drwy agweddau amrywiol ar y profiad o astudio yma yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Gobeithiwn y cewch flas go iawn ar yr hyn y gallwch ei ddisgwyl fel myfyriwr Cyfrifiadureg neu Beirianneg Meddalwedd Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd ac y gallwn ateb y cwestiynau niferus a allai fod gennych wrth i chi ystyried pa Brifysgol sy’n iawn i chi.

Trosolwg o’r ysgol a chroeso

Yn y fideo cyntaf hwn, mae Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Stuart Allen, yn cynnig trosolwg defnyddiol o Gyfrifiadureg a Gwybodeg yng Nghaerdydd, gan gynnwys sut rydym yn cefnogi ein myfyrwyr a rhai o’r ffyrdd ysbrydoledig maent yn cyfrannu at y gymuned ehangach.

Mae Dr Martin Chorley, y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, yn siarad â chi am ein cyrsiau amrywiol, y gwahaniaethau rhyngddyn nhw, a chyfleoedd pellach sydd ar gael i chi, fel Blwyddyn mewn Diwydiant neu Flwyddyn o Astudio Dramor.

Graddau israddedig

Mae’r fideo hwn yn rhoi mwy o fanylion am ein graddau Cyfrifiadureg, gan gynnwys strwythur a modiwlau’r cwrs y byddwch yn ei astudio.

Rhaglenni Cyfrifiadureg

Mae’r fideo hwn yn rhoi mwy o fanylion am ein graddau Cyfrifiadureg, gan gynnwys strwythur a modiwlau’r cwrs y byddwch yn ei astudio.

Dysgwch fwy am y cwrs BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, ein gradd sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant a addysgir yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.

Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol

Dysgwch fwy am y cwrs BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, ein gradd sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant a addysgir yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.

Ymunwch â’r Athro Alun Preece wrth iddo gyflwyno darlith ragflas ddiddorol yn edrych ar sut y gall DA weithio ochr yn ochr â phobl.

Darlith ragflas: Deallusrwydd Artiffisial: Cyfrifiaduron v. Pobl?

Ymunwch â’r Athro Alun Preece wrth iddo gyflwyno darlith ragflas ddiddorol yn edrych ar sut y gall DA weithio ochr yn ochr â phobl.

Mae Dr Wendy Ivins, y Cyfarwyddwr Dysgu ar y Cyd gyda Diwydiant, yn siarad am sut mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn ymgysylltu â diwydiant ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth gwych i’n myfyrwyr.

Ymgysylltu â diwydiant yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol

Mae Dr Wendy Ivins, y Cyfarwyddwr Dysgu ar y Cyd gyda Diwydiant, yn siarad am sut mae’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn ymgysylltu â diwydiant ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth gwych i’n myfyrwyr.

Sut i gael gwybod beth sydd ei angen arnoch er mwyn gwneud cais i un o'n cyrsiau.

Gofynion mynediad

Sut i gael gwybod beth sydd ei angen arnoch er mwyn gwneud cais i un o'n cyrsiau.

Clywed gan ein myfyrwyr

Cyfle i glywed gan rai o'n myfyrwyr sy'n rhoi cipolwg uniongyrchol ar sut brofiad yw astudio naill ai Cyfrifiadureg neu Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Meg Morgan, myfyriwr BSc Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, yn rhoi cip ar fywyd yn ein Hysgol, y Brifysgol a Chaerdydd.

Fideo bywyd myfyrwyr gan Meg Morgan

Mae Meg Morgan, myfyriwr BSc Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, yn rhoi cip ar fywyd yn ein Hysgol, y Brifysgol a Chaerdydd.

Mae Helen Abraham, myfyriwr BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, yn siarad am y modiwl Seibr-ddiogelwch fel rhan o'i chwrs, gan gynnwys materion yn ymwneud â diogelwch ynghylch cymwysiadau gwe, ynghyd â gweithredu ymarferol a gwrth-fesurau diogelwch ar gyfer y materion hynny.

Seibr-ddiogelwch fel rhan o BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol - persbectif myfyriwr

Mae Helen Abraham, myfyriwr BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, yn siarad am y modiwl Seibr-ddiogelwch fel rhan o'i chwrs, gan gynnwys materion yn ymwneud â diogelwch ynghylch cymwysiadau gwe, ynghyd â gweithredu ymarferol a gwrth-fesurau diogelwch ar gyfer y materion hynny.

Mae Kiyan Somji, myfyriwr BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn yr Ail Flwyddyn, yn siarad am bob agwedd ar ei fywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys 'diwrnod arferol', yr hyn y mae'n ei fwynhau fwyaf am ei gwrs a chyngor i'r rhai sy'n ystyried cyflwyno cais i ni.

Fideo Bywyd Myfyrwyr gan Kiyan Somji

Mae Kiyan Somji, myfyriwr BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn yr Ail Flwyddyn, yn siarad am bob agwedd ar ei fywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys 'diwrnod arferol', yr hyn y mae'n ei fwynhau fwyaf am ei gwrs a chyngor i'r rhai sy'n ystyried cyflwyno cais i ni.

Dewisais i astudio Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yng Nghaerdydd gan fy mod i eisiau gwneud rhywbeth a oedd yn fwy ymarferol na’r rhan fwyaf o gyrsiau eraill. Ry’n ni’n cael aseiniadau sydd wedi’u gosod gan gwmnïau go iawn, felly ry’n ni’n cael cyfle i geisio datrys materion go iawn a chyflwyno’r datrysiadau hyn i gleientiaid go iawn.
Amina Nessa, BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol

Mwy o resymau dros ein dewis ni

New computer science and maths building

‘Cyfle gwych’ ar gyfer addysgu ac ymchwil

ISG wedi’i benodi’n gontractwr ar gyfer adeilad newydd y Brifysgol

School pupils learning in Computer Science lab

Myfyrwyr yn y gymuned

Dysgwch sut y gall ymuno â’n tîm o fyfyrwyr sy’n Genhadon STEM agor drysau ar gyfer defnyddio eich sgiliau technegol mewn ysgolion lleol ac yn y gymuned ehangach.

Darganfyod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Female customer service assistant smiling at a customer. She is standing behind a desk. Two people are just in shot.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Next steps

certificate
Download icon

Lawrlwythwch lawlyfr yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.

icon-contact

Cysylltwch â ni

Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, yr Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20, a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.

Hawlfraint: Yn cynnwys data gan HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliad y bydd trydydd partïon yn ei wneud o ganlyniad i’w data.