Cemeg
Mae ein rhaglenni gradd yn cyfuno theori â phrofiad ymarferol yn y labordy a'r cyfle i weithio mewn diwydiant neu astudio dramor fel rhan o'ch gradd.
Pam astudio gyda ni?
Gyda chyfleusterau, addysgu, cyrsiau a rhagolygon gyrfaol o’r radd flaenaf, mae digon o resymau i astudio cemeg yng Nghaerdydd.
Cyrsiau hyblyg
Mae ein detholiad o fodiwlau yn rhoi’r hyblygrwydd i chi allu llywio eich astudiaethau.
Cyfleoedd am leoliad gwaith
Rydym yn cynnig diwydiant blwyddyn o hyd a chyfleoedd astudio dramor ar ein cyrsiau BSc a MChem.
Rhagolygon gyrfa rhagorol
Mae 94% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio neu'n gwneud gweithgareddau eraill 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22).
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau
Ein myfyrwyr
Gwyliwch ein fideos myfyrwyr ar astudio dramor, gweithio mewn diwydiant, a bywyd fel myfyriwr cemeg i ddarganfod yn uniongyrchol sut brofiad yw astudio gyda ni.
Ein hadeiladau a'n cyfleusterau
Ein Hysgol
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae’r Ysgol Cemeg wedi’i lleoli ym Mhrif Adeilad rhestredig Gradd 2 eiconig y Brifysgol. Mae’n gartref i nifer o labordai addysgu israddedig, y Llyfrgell Gwyddoniaeth ac ystafelloedd cyfrifiaduron, a sawl darlithfa fodern.
Llyfrgell Gwyddoniaeth
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae'r llyfrgell yn cynnwys casgliadau biowyddorau, cemeg, gwyddorau’r Ddaear a'r amgylchedd, ynghyd â chyfleusterau i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau.
Sefydliad Catalysis Caerdydd
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladYma rydyn ni’n cynnal ymchwil arloesol er mwyn gwella'r ddealltwriaeth o gatalysis, datblygu prosesau catalytig newydd gyda’r diwydiant, a hyrwyddo’r defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.
Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Cymru dafliad carreg i ffwrdd, ac felly bydd gennych fynediad hawdd i'w horielau arddangos a'u casgliadau trawiadol.
Bwyty'r Prif Adeilad
Wedi'i leoli yn Prif AdeiladMae gan y Prif Adeilad, sy’n gartref i’r Ysgol Cemeg, fwyty sy’n berffaith ar gyfer bachu rhywbeth cyflym i’w fwyta neu gwrdd â ffrindiau.
Darlithfeydd
Wedi'i leoli yn Main BuildingBydd rhai o’ch darlithoedd yn y flwyddyn gyntaf yn digwydd yn y darlithfeydd mawr. Mae darlithfeydd llai yn ein Prif Adeilad hefyd, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth ledled Adeilad Morgannwg, lle cynhelir eich tiwtorialau.
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Mae ein Hysgol gyferbyn â chartref newydd Undeb y Myfyrwyr, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr a dewis mawr o siopau, bwytai a lleoedd astudio.
Labordy
Wedi'i leoli yn Main BuildingDyma labordy nodweddiadol lle bydd myfyrwyr cemeg yn gwella eu sgiliau ymarferol, gan gynnwys perfformio mesuriadau dadansoddol (e.e. sbectrosgopeg uwchfioled–weladwy) a datblygu technegau synthetig (e.e. distyllu, hidlo, cromatograffeg).
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein cyrsiau cemeg
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwytho’r llyfryn
Dysgwch ragor am ein Hysgol yn ein llyfryn pwnc.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn a chewch ymateb cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.