
Rheoli busnes
Bydd ein rhaglenni hyblyg yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth broffesiynol a’r sgiliau i ddylanwadu ar yr amgylchedd busnes cystadleuol byd-eang.
Pam astudio gyda ni?
Mae sefydliadau o hyd yn gorfod ailddyfeisio eu hunain, drwy esblygu’r ffordd maent yn gweithredu, er mwyn rhagori mewn marchnad fyd-eang gynyddol orlawn. Mae hynny’n golygu bod galw mawr am raddedigion sy’n rhoi damcaniaethau ar waith ac sy’n gwneud gwahaniaeth yn y gweithle.
Ar ôl i chi raddio
97% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Rydym yn cynnig hyblygrwydd
Cyfunwch Rheoli Busnes ag astudio iaith neu arbenigwch mewn Rheoli Rhyngwladol, Logisteg a Gweithrediadau, Marchnata neu Reoli Adnoddau Dynol.
Gwybodaeth am y byd go iawn
Sicrhewch ddealltwriaeth o'r diwydiant gan siaradwyr gwadd, astudiaethau achos o'r byd go iawn a theithiau i fusnesau yn y DU.

Mae Prifysgol Caerdydd yn lle croesawgar a chyfeillgar iawn sy’n cynnig tîm addysgu, cymuned a chyfleoedd sy’n amrywio’n fawr. Ni waeth pwy ydych, mae cartref i bawb yma, ac mae pob math o gymorth ar gael i sicrhau eich bod yn cael yr amser gorau posibl yn y Brifysgol.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein fideos
Mae'r cwrs yn cynnig amrywiaeth mor eang o fodiwlau i'w hastudio, ac roeddwn i'n gallu dewis a dethol ohonyn nhw ar sail beth oeddwn i'n ei fwynhau a beth oedd yn fy niddori fwyaf. Rwyf i wedi dysgu sut i ddefnyddio pecynnau ystadegol fel R, wedi cael y cyfle i ddysgu am faterion cyfoes, gwleidyddiaeth ac effaith Brexit. Mae’r amrywiaeth hon wedi agor drysau ar gyfer fy ngyrfa.
Mwy amdanom ni

Ysgol busnes a rheolaeth ymchwil ddwys o safon fyd-eang
Mae ein buddsoddiad mewn cyfleusterau astudio, cymorth a chymdeithasol yn cynnig yr amgylchedd gorau posibl i lwyddo. Mae gennym gyfleusterau rhagorol ar draws tri adeilad gan gynnwys Ystafell Masnach fwyaf Cymru.
Ar ben hynny, rydym wedi trawsnewid llawr gwaelod Adeilad Aberconwy yn 'stryd fawr y myfyrwyr,’ gyda Chanolfan Israddedig bwrpasol, Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr a Pharth Cyfleoedd pwrpasol.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn gofalu'n fawr am y myfyrwyr. Maent yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol ac academaidd. Rwyf hefyd wrth fy modd gyda'r Parth Cyfleoedd a ddarperir gan yr ysgol. Maent wedi fy helpu gymaint gyda symud ymlaen yn broffesiynol a sicrhau lleoliadau a chynlluniau i raddedigion.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Cymerwch olwg ar ein cyfleusterau
Pob cwrs rheoli busnes israddedig
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwytho ein prosbectws i israddedigion
Rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.