
Gwyddorau Biofeddygol
Cewch gyfle i archwilio'r wyddoniaeth fiolegol sy'n sail i feddyginiaeth ac ymchwil feddygol, ac ennill profiad o bynciau a thechnegau cyfoes.
Pam astudio gyda ni?
Pam astudio'r Gwyddorau Biofeddygol?
Astudiaeth o swyddogaethau’r corff dynol yw’r Gwyddorau Biofeddygol. Mae'n sail ar gyfer pob ymchwil feddygol ac wrth galon datblygiadau gwyddonol pwysig mewn gofal iechyd - o ddefnyddio cellau nionyn i greu cyhyrau, i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer canser.
Hyblygrwydd
Mae ein rhaglenni gradd arloesol sy'n seiliedig ar ymchwil yn hyblyg iawn, a gallwch deilwra eich cwrs at eich diddordebau chi.
Ymchwil o safon fyd-eang
Mae ein Hysgol yn chwarae rhan arweiniol mewn sawl un o Athrofeydd Ymchwil y Brifysgol.
Rhagolygon o ran gyrfa
Dywedodd 93% o’n graddedigion eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio (2016/17).
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
"Oherwydd y technegau rwyf wedi eu dysgu a’r cyfleusterau rwyf wedi gallu eu defnyddio, mae fy amser yng Nghaerdydd wedi fy mharatoi ar gyfer fy newis gyrfa ar ôl y brifysgol. Pe bawn yn gwneud cais i’r brifysgol eto, byddwn yn sicr yn dewis Caerdydd – rwyf wedi cael y cyfle i wneud ffrindiau newydd, bod yn rhan o ymchwil o’r safon uchaf a byw mewn dinas ryfeddol.”

Dysgu gan y gorau
Mae’r byd yn wynebu heriau digynsail i gynnal ei boblogaeth gynyddol a’i ecosystemau’n iach. Mae gan y biowyddorau rôl hanfodol i’w chwarae o ran deall y mecanweithiau gwaelodol ac ymchwilio i ddatrysiadau.
Yn Ysgol y Biowyddorau, cewch eich addysgu gan ymchwil sy'n arwain y byd a byddwch yn ennill profiad ymarferol.
Cyflwyno Ysgol y Biowyddorau i chi

Adeiladu gyrfa
O ymchwilwyr canser i geidwaid anifeiliaid cigysol, amgylcheddwyr i blogwyr gwyddoniaeth, mae ein graddedigion yn mynd yn eu blaen i fwynhau ystod eang o yrfaoedd llwyddiannus a gwobrwyol.
Rydym yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol, profiad ymarferol, a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi byd-eang.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Sesiynau galw heibio sgwrsio byw
Gweld yr holl gyrsiau gwyddorau biofeddygol
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwythwch lyfryn Ysgol y Biowyddorau
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.