
Gwyddorau Biolegol
Mae ecoleg gyfoethog Cymru yn cynnig amgylchedd delfrydol ar gyfer datblygu a hogi eich sgiliau fel biolegydd. Mae'r pwnc cyfareddol hwn yn cyfuno damcaniaeth wyddonol a gwaith ymarferol mewn labordy ac yn y maes, ac o'i astudio, byddwch yn meddu ar well dealltwriaeth o'r byd o'ch cwmpas a'r modd y mae'n gweithio.
Pam astudio gyda ni?
Hyblygrwydd
Mae ein rhaglenni gradd arloesol sy'n seiliedig ar ymchwil yn hyblyg iawn, a gallwch deilwra eich cwrs at eich diddordebau chi.
Ymchwil o safon fyd-eang
Mae ein Hysgol yn chwarae rhan arweiniol mewn sawl un o Athrofeydd Ymchwil y Brifysgol ac yn gyfrifol am ganolfan maes sy'n canolbwyntio ar gadwraeth yn Borneo, Malaysia.
Rhagolygon o ran gyrfa
Dywedodd 93% o’n graddedigion eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio (2016/17).
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Cynigiodd bioleg ym Mhrifysgol Caerdydd ystod eang o fodiwlau blwyddyn gyntaf a ganiataodd imi ddarganfod fy mhrif ddiddordebau a’m brwdfrydedd dros y pwnc. Caniataodd hyn yr arbenigedd priodol yn yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf.

Dysgu gan y gorau
Mae’r byd yn wynebu heriau digynsail i gynnal ei boblogaeth gynyddol a’i ecosystemau’n iach. Mae gan y biowyddorau rôl hanfodol i’w chwarae o ran deall y mecanweithiau gwaelodol ac ymchwilio i ddatrysiadau.
Yn Ysgol y Biowyddorau, cewch eich addysgu gan ymchwil sy'n arwain y byd a byddwch yn ennill profiad ymarferol.
Cyflwyno Ysgol y Biowyddorau i chi

Adeiladu gyrfa
O ymchwilwyr canser i geidwaid anifeiliaid cigysol, amgylcheddwyr i blogwyr gwyddoniaeth, mae ein graddedigion yn mynd yn eu blaen i fwynhau ystod eang o yrfaoedd llwyddiannus a gwobrwyol.
Rydym yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol, profiad ymarferol, a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi byd-eang.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld ein cyrsiau gwyddorau biolegol
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwythwch lyfryn Ysgol y Biowyddorau
Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Sut i wneud cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.