Ewch i’r prif gynnwys

Pam astudio gyda ni

academic-school

Hyblygrwydd

Mae ein rhaglenni gradd arloesol sy'n seiliedig ar ymchwil yn hyblyg iawn, a gallwch deilwra eich cwrs at eich diddordebau chi.

globe

Ymchwil o safon fyd-eang

Mae ein Hysgol yn chwarae rhan arweiniol mewn sawl un o Athrofeydd Ymchwil y Brifysgol.

people

Rhagolygon o ran gyrfa

Dywedodd 93% o’n graddedigion eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio (2016/17).

Pam astudio Biocemeg?

Astudiaeth o sail foleciwlaidd bywyd yw Biocemeg. Mae'n cyfrannu at ddatblygiadau yn yr holl wyddorau bywyd, gan gynnwys meddygaeth, ac mae wedi bod ar y blaen mewn llawer o ddarganfyddiadau meddygol, o strwythur DNA i ddadgodio’r genom dynol. Ac mae datblygiadau newydd yn digwydd bob dydd.

Cyrsiau

Blwyddyn mynediad

Biocemeg (BSc)

Amser llawn, 3 blwyddyn

Mae ein gradd Biocemeg yn cynnig hyfforddiant ymarferol ac eang ac mae’n cofleidio ymchwil gyfoes mewn meysydd pwysig newydd megis genomeg, bioleg synthetig a pheirianneg protein.

Biocemeg (MBiochem)

Amser llawn, 4 blwyddyn

Mae ein gradd Biocemeg yn cynnig hyfforddiant ymarferol ac mae’n cofleidio ymchwil gyfoes mewn meysydd pwysig newydd megis genomeg, bioleg synthetig a pheirianneg protein.

Biocemeg gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (BSc)

Llawn amser gyda blwyddyn ryngosodr, 4 blwyddyn

Mae ein gradd Biocemeg yn cynnig hyfforddiant ymarferol ac eang ac mae’n cofleidio ymchwil gyfoes mewn meysydd pwysig newydd megis genomeg, bioleg synthetig a pheirianneg protein.

Un o fanteision bod yn fyfyriwr yn Ysgol y Biowyddorau, Caerdydd, yw cael mynediad at addysgu o ansawdd uchel iawn, sy’n cael ei yrru gan ymchwil. Mae’r holl ddarlithwyr sydd gennym yn ymchwilwyr sydd ar flaen y gad yn eu maes, ac yn gweithio ar bethau arloesol iawn. Mae’n hynod ddiddorol ac yn cydio yn eich dychymyg.
Robert Maddison Myfyriwr Ysgol y Biowyddorau

Cyflwyno Ysgol y Biowyddorau i chi

Chi fydd y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr arloesol drwy fod yn fyfyriwr yn Ysgol y Biowyddorau. I roi’r cyfle i chi weld sut beth fyddai astudio gyda ni, rydym yn cyflwyno ein Hysgol i chi drwy gyfres o sgyrsiau gan ein darlithwyr a thaith 360, hefyd.

Mae Dr Emma Yhnell yn ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin a ofynnir am ein cyrsiau.

Mae Dr Andrew Shore, darlithydd ac Uwch-diwtor Derbyn yn Ysgol y Biowyddorau yn trafod mwy o’r cwestiynau cyffredin.

Student trekking in dolomite mountains

Blwyddyn hyfforddi proffesiynol

Cewch brofiad ymchwil ymarferol gwerthfawr drwy gwblhau blwyddyn hyfforddi proffesiynol, a gall fod o fantais i chi ar gyfer gweddill eich gradd a'ch gyrfa ar ôl gadael y brifysgol.

Female on boat looking through binoculars

Gyrfaoedd

Rydym yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol, profiad ymarferol, a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi byd-eang.

Female student looking at skeleton

Graddau Meistr Integredig

Mae ein graddau meistr integredig yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn ymchwil neu sy'n gobeithio cael gyrfa ym maes gwyddoniaeth.

Darganfod Prifysgol Caerdydd

Student getting advice

Cefnogi myfyrwyr

Cewch gyngor diduedd, cyfrinachol ac am ddim ar anabledd a dyslecsia, arian, gyrfaoedd, cwnsela a mwy.

Female customer service assistant smiling at a customer. She is standing behind a desk. Two people are just in shot.

Gwarant o lety

Os dewch chi ym mis Medi, cewch warant o ystafell sengl gyda myfyrwyr eraill yn y flwyddyn gyntaf.

Swimmer at Varsity in pool competing

Bywyd myfyrwyr

Rhagor o wybodaeth am chwaraeon a hamdden, ein rhaglenni iaith rhad ac am ddim, costau byw, cymorth dysgu a'r Undeb Myfyrwyr.

A student shopping in a mini mart

Costau byw

Gweld pa mor bell fydd eich arian yn mynd drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw.

Camau nesaf

certificate

Gweld ein cyrsiau biocemeg

Archwilio ein cyrsiau.

Download icon

Lawrlwythwch lyfryn Ysgol y Biowyddorau

Dysgwch fwy am ein cyrsiau, yr Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.

icon-pen

Sut i wneud cais

Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.

O ddiddordeb i chi

Student with an anatomical skeleton

Gwyddorau Biofeddygol

Cewch gyfle i archwilio'r wyddoniaeth fiolegol sy'n sail i feddyginiaeth ac ymchwil feddygol, ac ennill profiad o bynciau a thechnegau cyfoes.

Cemeg

Mae ein rhaglenni gradd yn cyfuno theori â phrofiad ymarferol yn y labordy a'r cyfle i weithio mewn diwydiant neu astudio dramor fel rhan o'ch gradd.