![Student working on a model](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0020/2410850/bg-architecture.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Pensaernïaeth
Rydyn ni’n ysgol bensaernïaeth flaenllaw sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at amgylchedd adeiledig cynaliadwy, a hynny er mwyn gwella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a gofalu am y blaned.
Pam astudio gyda ni?
Ysgol bensaernïaeth flaenllaw
Dewch i astudio yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r deyrnas.
Arweinir gan ddylunio
Mae’n rhaglen yn canolbwyntio ar ymarfer, ac mae dau draean o'n cwrs gradd BSc yn ymwneud â phrosiectau yn y stiwdio ar hyn o bryd.
Cwrs achrededig
Cwrs achrededig RIBA ac ARB mewn pensaernïaeth.
Rydw i wrth fy modd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru gan ei bod yn teimlo fel teulu. Y wers bwysicaf rydw i wedi’i dysgu oedd deall sut mae ein dyluniadau’n gallu effeithio ar y gymdeithas. Fy nghyngor i fyfyrwyr pensaernïaeth newydd fyddai mwynhewch y broses ddylunio. Peidiwch ag ofni pethau newydd, byddwch feiddgar! Wedi’r cwbl, mae gan fyfyrwyr y rhyddid i ystyried syniadau newydd ac estyn eu creadigrwydd. Dyma’r adeg i arbrofi.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau
Ein Hysgol a’n myfyrwyr
Gweld ein cyfleusterau a gwylio fideos am ein myfyrwyr i ddysgu rhagor am fod yn rhan o ysgol bensaernïaeth fywiog a chydweithredol sy’n rhoi pwyslais cryf ar waith stiwdio.
Taith trwy Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Mae adeilad Bute rhestredig Gradd II eiconig Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi cael ei adnewyddu’n helaeth i gynnwys cyfleusterau pwrpasol newydd gan gynnwys gofodau stiwdio mwy, Stiwdio Hybrid, Labordy Byw a Neuadd Arddangos. Mae’r ffilm newydd hon yn arddangos gwedd newydd yr adeilad, gan fynd â gwylwyr ar daith dan arweiniad myfyrwyr presennol a’u profiadau o astudio yn yr ysgol.
Adeiladau a lleoliadau
![Adeilad Bute](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0012/50304/Bute-for-the-web.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Adeilad Bute
Mae Adeilad Bute yn adeilad rhestredig Gradd II ac yn gartref i Ysgol Pensaernïaeth Cymru
![Bute Studio](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2405076/WSA-10-Apr-2019-Bute-Social-Media-Size-18.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Stiwdio Pensaernïaeth
Wedi'i leoli yn Adeilad ButeGweld un o’n stiwdios trwy daith 360.
![Architecture Library](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2508144/library.jpg?w=350&h=198&q=60&auto=format&fit=crop)
Llyfrgell Pensaernïaeth
Wedi'i leoli yn Adeilad ButeMae gan fyfyrwyr a staff fynediad uniongyrchol at gasgliad y llyfrgell o lyfrau, cyfnodolion, llenyddiaeth gyfeirio a thechnegol yn ogystal â deunydd clyweledol. Yn ogystal â'r adnoddau hyn mae casgliad o lyfrau prin yn y llyfrgell hefyd.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1523690/FacebookSizeWSAOpeningBatch20-3-Cropped.jpg?w=768&h=432&auto=format&fit=crop&q=60)
Arddangosfa myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Dathliad o flwyddyn ragorol o waith caled ein myfyrwyr ar lefel gradd Baglor a gradd Meistr yw arddangosfa 2024 yr Ysgol.
Roeddwn i wir wrth fy modd gyda fy nghyfnod yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Roedd yn saith mlynedd o waith caled a heriau ond yn daith anhygoel o ymdrwythol a gwerth chweil sydd wedi cynnig cymaint i mi. Fe wnes i ymdrwytho'n llwyr ym mhopeth roedd yr Ysgol yn ei gynnig - roedd yn dda gyda fi weld bod cymaint i’w ddysgu a rhoes yr amrywiaeth helaeth o ddysg hyder imi ddechrau fy ngyrfa.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Camau nesaf
Gweld holl gyrsiau Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Archwilio ein cyrsiau.
Lawrlwytho’r llyfryn
Dysgwch ragor am ein Hysgol yn ein llyfryn pwnc.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.