
Archaeoleg a chadwraeth
Mae ein graddau ymarferol o fri’n cyflwyno’r hyfforddiant, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i chi wneud eich marc yn y sector treftadaeth, ynghyd â’r sgiliau cyflogadwyedd i ddilyn eich gyrfa mewn meysydd perthnasol.
Pam astudio gyda ni?
A ninnau’n chwilfrydig am y profiad dynol ar draws milenia a diwylliannau, rydym am ddeall ein gorffennol yn well er mwyn taflu goleuni ar y presennol er budd ein dyfodol. Rydym yn gymuned academaidd ymofyngar, angerddol dros astudio’r gorffennol a chredoau cyn-hanesyddol i gymdeithasau cyfoes.
Ar ôl graddio
90% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs. (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).
Ein hymchwil
Yn 9fed yn y DU ar gyfer ymchwil ym maes Archaeoleg ac yn 5ed ar gyfer effaith ein hymchwil (REF 2021).
Prawf amser
Wedi dathlu 100 mlynedd o Archaeoleg a Chadwraeth arloesol yng Nghaerdydd yn 2020, heddiw mae ein harbenigwyr yn parhau i rannu darganfyddiadau blaengar a thechnegau a meddwl diweddaraf.
Cyrsiau
Blwyddyn mynediad
Ein sgyrsiau a'n fideos
Mae’r lleoliadau’n amhrisiadwy – ro’n i’n ddigon ffodus i gael gweithio yn y maes ac mewn uned fasnachol fawr, a roddodd sgiliau amrywiol i mi ar gyfer gweithio yn y dyfodol, cysylltiadau amrywiol yn y diwydiant a ffrindiau arbennig.
Profiad ymarferol
Cyfleusterau a lleoliad

Labordy Osteoleg
Wedi'i leoli yn Adeilad John PercivalMae’r Athro Jacqui Mulville yn ein tywys o amgylch y Labordy Osteoleg yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Labordy Biomoleciwlaidd
Wedi'i leoli yn Adeilad John PercivalMae Dr Richard Madgwick yn ein tywys o amgylch y Labordy Archaeoleg Fiomoleciwlaidd yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Labordai Cadwraeth
Wedi'i leoli yn Adeilad John PercivalMae Phil Parkes a Dr Ashley Lingle yn ein tywys o amgylch y Labordai Cadwraeth yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Microsgopeg ac Efelychu Hinsoddol
Wedi'i leoli yn Adeilad John PercivalMae Dr Jerrod Seifert a Johanna Thunberg yn ein tywys o amgylch y Labordai Microsgopeg ac Efelychu Hinsoddol yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Microsgop Sganio Electronau
Wedi'i leoli yn Adeilad John PercivalMae Phil Parkes yn dweud mwy wrthym am y Microsgop Sganio Electronau yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd.

Stiwdio Ffotograffiaeth
Wedi'i leoli yn Adeilad John PercivalMark Lodwick yn ein tywys o amgylch y Stiwdio Ffotograffiaeth yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Darlun
Wedi'i leoli yn Adeilad John PercivalMae Ian Dennis a Kirsty Harding yn dweud mwy wrthym am ddarlunio yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Canolfan ragoriaeth arloesol o fri rhyngwladol
Cynhelir y rhan fwyaf o’n darlithoedd, ein tiwtorialau a’n sesiynau ymarferol yn ein cartref, sef Adeilad John Percival. Mae’n cynnwys cyfres o labordai arbenigol a gynlluniwyd yn bwrpasol at ddibenion cadwraeth ac archaeoleg.
Mae Llyfrgell y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol drws nesaf i ni, sy’n gartref i’n Casgliadau Arbennig, yn ogystal â chasgliadau ac archifau helaeth ym meysydd Archaeoleg, Hanes yr Henfyd a Hanes.
Darganfod Prifysgol Caerdydd
Y camau nesaf
Pori drwy ein cyrsiau israddedig ym maes archaeoleg a chadwraeth
Archwilio ein cyrsiau.
Cysylltu â ni
Gofynnwch gwestiwn drwy ein ffurflen ymholi, a chewch ateb gennym cyn gynted ag y bo modd.
Sut i gyflwyno cais
Popeth y mae angen i chi ei wybod am ein proses ymgeisio.
Pynciau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi
Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.