Ewch i’r prif gynnwys

Porwch drwy ein pynciau israddedig

 Cyfrifeg a chyllid

Cyfrifeg a chyllid

Bydd ein rhaglenni sydd wedi'u hachredu yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth broffesiynol a’r sgiliau i ddylanwadu ar y maes cyfrifeg a chyllid byd-eang.

Archaeoleg a chadwraeth

Archaeoleg a chadwraeth

Mae ein graddau ymarferol o fri’n cyflwyno’r hyfforddiant, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i chi wneud eich marc yn y sector treftadaeth, ynghyd â’r sgiliau cyflogadwyedd i ddilyn eich gyrfa mewn meysydd perthnasol.

Pensaernïaeth

Pensaernïaeth

Rydyn ni’n ysgol bensaernïaeth flaenllaw sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at amgylchedd adeiledig cynaliadwy, a hynny er mwyn gwella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol a gofalu am y blaned.

Biocemeg

Biocemeg

Mae ein gradd Biocemeg yn cynnig hyfforddiant ymarferol ac eang ac mae’n cofleidio ymchwil gyfoes mewn meysydd pwysig newydd megis genomeg, bioleg synthetig a pheirianneg protein.

Gwyddorau Biolegol

Gwyddorau Biolegol

Mae ecoleg gyfoethog Cymru yn cynnig amgylchedd delfrydol ar gyfer datblygu a hogi eich sgiliau fel biolegydd. Mae'r pwnc cyfareddol hwn yn cyfuno damcaniaeth wyddonol a gwaith ymarferol mewn labordy ac yn y maes, ac o'i astudio, byddwch yn meddu ar well dealltwriaeth o'r byd o'ch cwmpas a'r modd y mae'n gweithio.

Gwyddorau Biofeddygol

Gwyddorau Biofeddygol

Cewch gyfle i archwilio'r wyddoniaeth fiolegol sy'n sail i feddyginiaeth ac ymchwil feddygol, ac ennill profiad o bynciau a thechnegau cyfoes.

Rheoli busnes

Rheoli busnes

Bydd ein rhaglenni hyblyg yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth broffesiynol a’r sgiliau i ddylanwadu ar yr amgylchedd busnes cystadleuol byd-eang.

Cemeg

Cemeg

Mae ein rhaglenni gradd yn cyfuno theori â phrofiad ymarferol yn y labordy a'r cyfle i weithio mewn diwydiant neu astudio dramor fel rhan o'ch gradd.

Cyfrifiadureg

Cyfrifiadureg

Rydym yn addysgu ac yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ym meysydd gwyddoniaeth gyfrifiadurol a pheirianneg meddalwedd.

Deintyddiaeth

Deintyddiaeth

Gwireddwch eich potensial a dechrau eich taith broffesiynol drwy ymuno â’n Hysgol Ddeintyddol arloesol sydd â naws deuluol.

Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Gwyddorau'r ddaear a’r amgylchedd

Dysgwch sut i warchod ein planed am genedlaethau i ddod. P'un a ydych chi'n dewis astudio daearyddiaeth, daeareg neu wyddor cynaliadwyedd amgylcheddol, byddwch chi'n ennill gwybodaeth a sgiliau gwyddonol i effeithio ar ddatblygiadau a phenderfyniadau amgylcheddol allweddol.

Economeg

Economeg

Edrychwch ar economeg yng nghyd-destun heriau gwleidyddol-gymdeithasol cenedlaethol a rhyngwladol cyfoes.

Peirianneg

Peirianneg

Mae ein myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau ymarferol yn union fel y bydden nhw yn y byd go iawn. Gydag amgylcheddau sy’n annog cydweithio, cyfleusterau o'r radd flaenaf, ac addysgu a arweinir gan y diwydiant, rydyn ni’n creu peirianwyr y dyfodol.

Saesneg iaith a llenyddiaeth

Saesneg iaith a llenyddiaeth

Cewch archwilio amrywiaeth Llenyddiaeth Saesneg ar draws y rhychwant cronolegol, gan wneud cysylltiadau bywiog â phob ffurf ar ddiwylliant. Neu gallwch ddewis ymchwilio gallu ieithyddol y ddynoliaeth gyda sylfaen drylwyr ym mhob agwedd allweddol ar ddadansoddi iaith.

Daearyddiaeth ddynol a chynllunio

Daearyddiaeth ddynol a chynllunio

Ydych chi’n angerddol am fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a datblygiadol byd-eang i wella ble a sut rydym yn byw? Ein rhaglenni daearyddiaeth ddynol a chynllunio yw'r dewis i chi.

Daearyddiaeth (Ffisegol)

Daearyddiaeth (Ffisegol)

Archwiliwch y tirweddau, yr hinsawdd a'r prosesau ffisegol deinamig sy'n siapio wyneb y Ddaear. Gallwch ddewis canolbwyntio ar yr heriau byd-eang sy'n wynebu ein cefnforoedd neu'r effaith y mae bodau dynol yn ei chael ar ein planed a sut y gallwn symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Daeareg a'r geowyddorau

Daeareg a'r geowyddorau

Astudiwch strwythur, esblygiad a dynameg y Ddaear a'i hadnoddau mwynau ac ynni naturiol. Ymchwiliwch i sut mae prosesau daear, fel tirlithriadau, daeargrynfeydd, llifogydd a ffrwydradau folcanig, yn newid y byd o'n cwmpas.

Hanes a hanes yr henfyd

Hanes a hanes yr henfyd

Ymchwiliwch i fydoedd a fu ac ehangu eich dealltwriaeth o newid hanesyddol yn ein rhaglenni uchel eu bri sy’n cael eu haddysgu gan arbenigwyr angerddol a thrwy gipolygon o’u hymchwil ddiweddaraf.

Newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant

Newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant

Ymunwch â ni i astudio materion megis effaith y cyfryngau cymdeithasol, rôl cyfathrebu corfforaethol neu pam fo newyddiaduraeth o safon uchel yn bwysicach nag erioed yn oes y ‘newyddion ffug’.

Y Gyfraith

Y Gyfraith

Ymunwch â'r unig brifysgol Grŵp Russell sy'n cynnig yr amrediad llawn o gyrsiau academaidd a galwedigaethol ym maes y gyfraith.

Mathemateg

Mathemateg

Mae ein graddau hyblyg yn eich galluogi chi i ddilyn eich diddordebau a datblygu eich sgiliau proffesiynol, gan eich paratoi chi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous.

Ffarmacoleg Feddygol

Ffarmacoleg Feddygol

Meddyginiaethau: Sut y cânt eu darganfod a’u datblygu? Pam mae arnom eu hangen? Beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n gweithio?

Meddygaeth

Meddygaeth

Diddordeb mewn bod yn feddyg? Mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol am astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd i’ch rhoi ar ben ffordd.

Bydwreigiaeth

Bydwreigiaeth

Dysgwch ddod yn weithiwr proffesiynol blaenllaw yng ngofal menywod, pobl feichiog, babanod newydd-anedig a theuluoedd.

Ieithoedd modern a chyfieithu

Ieithoedd modern a chyfieithu

Ymunwch ag un o'r ysgolion ieithoedd mwyaf deinamig yn y DU a dod yn rhan o'n cymuned fyd-eang gyfeillgar.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Rydym yn cynnig hyfforddiant cerddorol trylwyr ac astudiaethau academaidd ac artistig ysgogol mewn amgylchedd cyfeillgar, colegol a chreadigol.

Nyrsio

Nyrsio

Mae nyrsio yn yrfa gyfoethog, amrywiol ac amrywiol. Mae nyrsys yn defnyddio eu harbenigedd a'u sgiliau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a'u teuluoedd.

Therapi Galwedigaethol

Therapi Galwedigaethol

Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio mewn partneriaeth â ac yn grymuso sbectrwm eang o bobl sy'n wynebu heriau a rhwystrau sy'n eu hatal rhag ymgymryd â'r gweithgareddau (neu'r swyddi) sy'n bwysig iddynt.

Optometreg

Optometreg

Mae ein rhaglenni MOptom yn rhoi'r wybodaeth wyddonol a chlinigol i chi ddod yn optometrydd cofrestredig gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol a mwynhau gyrfa wobrwyol mewn optometreg. Rydym yn cynnig mwy nag addysg yn unig, gan y byddwch yn cyfrannu at ymchwil arloesol ac yn rhoi yn ôl i gymunedau drwy raglenni allgymorth a chlinigau llygaid ar y safle.

Fferylliaeth

Fferylliaeth

Rydyn ni’n uno gwyddoniaeth meddygaeth â gofal clinigol arbenigol i wella bywydau cleifion. Ein nod ar gyfer chi, y genhedlaeth nesaf o fferyllwyr yw cynnig gwybodaeth, arbenigedd, a'r profiad sydd eu hangen arnoch chi, i fod yn llwyddiannus yn eich gyrfa ddewisol. Gyda'n gilydd, byddwn ni’n defnyddio ein harbenigedd i greu cymdeithas iachach i bawb.

Athroniaeth

Athroniaeth

Drwy ystyried posau athronyddol mawr y presennol a'r gorffennol, byddwn ni'n eich dysgu i ddadansoddi a chreu cadwyni cymhleth o resymu i ymdrin â chwestiynau cymhleth o hanes ac yn y presennol.

Ffiseg a seryddiaeth

Ffiseg a seryddiaeth

Rydym ar flaen y gad yn rhai o ddarganfyddiadau gwyddonol mwyaf cyffrous heddiw a fydd yn rhoi amgylchedd ysbrydoledig i chi astudio ynddo.

Ffisiotherapi

Ffisiotherapi

Mae Ffisiotherapi yn yrfa broffesiynol gyffrous sy'n datblygu'n barhaus sy'n ymwneud â chefnogi unigolion i fyw bywydau boddhaus ac egnïol.

Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Ymunwch ag un o'r adrannau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol mwyaf yn y DU.

Radiograffeg

Radiograffeg

Mae radiograffwyr yn aelodau allweddol o'r tîm gofal iechyd sy'n gweithio'n agos gyda meddygon, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i ddarparu gofal personol a chefnogol i bobl o bob oed.

Radiotherapi

Radiotherapi

Mae radiotherapyddion yn gweithio'n agos gyda meddygon, ffisegwyr meddygol ac aelodau eraill o'r tîm gofal iechyd i ddarparu gofal personol a chefnogol i bobl o bob oed, sydd yn aml â chlefyd sy'n peryglu bywyd.

Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth

Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth

Byddwch yn archwilio’r hanes, y diwylliannau a’r credoau sydd ynghlwm wrth draddodiadau crefyddol mawr a rhai llai adnabyddus, mewn ffordd o'ch dewis chi, gyda’n graddau cyfoethog a boddhaus.

Y Gwyddorau Cymdeithasol

Y Gwyddorau Cymdeithasol

Cewch astudio mewn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol ddynamig, ryngddisgyblaethol ac arloesol ag iddi enw da rhyngwladol am ragoriaeth ymchwil.

Cymraeg

Cymraeg

Pa fath o brofiad y gallwch ei ddisgwyl yn astudio Cymraeg yn y brifddinas? Mae’r ateb, fel y pwnc, yn amrywiol, yn gyffrous ac yn esblygu drwy’r amser.