Pam mynd i'r brifysgol?
Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o ddarpar fyfyrwyr yn dewis addysg uwch fel y cam nesaf ar ôl yr ysgol neu’r coleg.
Nid oes angen i chi fynd i’r brifysgol a gallwch fagu gyrfa heb radd ond gall y brifysgol gynnig cymaint mwy na gyrfa yn y pendraw.
Dyma pam dylai eich plentyn ystyried gwneud gradd.
O ran eu gyrfa
Gwella rhagolygon gyrfa
Mewn marchnad swyddi mor gystadleuol, gall ennill gradd gynyddu rhagolygon gyrfa eich plentyn yn sylweddol.Roedd 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu wneud gweithgareddau eraill fel teithio (ffynhonnell: Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2020/21).
Dilyn galwedigaeth
Yn aml, mae myfyrwyr yn dewis astudio ar lefel addysg uwch er mwyn dilyn diddordeb mewn pwnc penodol, neu mewn galwedigaeth benodol. Mewn rhai gyrfaoedd, fel meddygaeth, nyrsio, pensaernïaeth, y gyfraith a fferylliaeth, mae’n amhosibl ymarfer heb radd alwedigaethol benodol.
Meithrin sgiliau cyflogadwy
Bydd gradd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr fagu dealltwriaeth fanwl o’u pwnc dewisol, yn ogystal â datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a datrys problemau. Bydd y rhain yn gwella eu gallu i weithio’n rhan o dîm.
O ran eu hunanddatblygiad
Magu hunanhyder, annibyniaeth a chyfrifoldeb
Gall y brifysgol helpu myfyrwyr i fagu eu hunanhyder a’u hannibyniaeth. Caiff myfyrwyr lawer o gyfleoedd i wneud ffrindiau o wahanol wledydd a chefndiroedd. Gall byw’n annibynnol feithrin ymdeimlad cryfach o gyfrifoldeb.
Astudio pwnc y maent yn ei fwynhau
Yn aml, mae myfyrwyr yn dewis astudio pwnc am eu bod wedi’i fwynhau yn yr ysgol neu’r coleg. Mae’r brifysgol yn cynnig cyfle iddynt gael dealltwriaeth well o bwnc y maent yn ei fwynhau, gan greu’r sail berffaith ar gyfer gyrfa sydd o ddiddordeb iddynt.
Mwynhau cyfleoedd cyffrous
Mewn llawer o achosion, mae mynd i’r brifysgol yn cynnig y cyfle i astudio mewn sefydliadau addysg uwch o fri ledled y byd. Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym bartneriaethau gyda 300 o sefydliadau, sy’n rhoi’r cyfle i chi fynd ar leoliadau yn Ewrop a’r byd cyfan, gan ddibynnu ar eich rhaglen astudio.
O ran eu dyfodol
Ennill profiad drwy weithgareddau allgyrsiol
Mae llawer o gyfleoedd allgyrsiol ar gael yn y brifysgol, a bydd y rhain yn gyfle i fwynhau yn ogystal â rhoi hwb i'w cyflogadwyedd drwy gydol eu haddysg uwch. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig dros 200 o wahanol glybiau a chymdeithasau chwaraeon i fyfyrwyr ac yn ogystal, mae pob myfyriwr yn cael cyfle i ddysgu iaith newydd drwy ein rhaglen 'Ieithoedd i Bawb'.
Meithrin cysylltiadau fydd yn para am weddill eu hoes
Mae’r brifysgol yn cynnig y cyfle i feithrin cysylltiadau am weddill eu hoes â chyd-fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd a diwylliannau, ynghyd â’r dinas newydd y bydd myfyrwyr yn ei galw’n gartref drwy gydol cyfnod eu harhosiad. Mae Caerdydd ymhlith y deg prifysgol fwyaf prydferth yn y DU, ac mae wastad yn barod i groesawu ei chynfyfyrwyr adref. (Times Higher Education, 2018)
Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.
Peidiwch â cholli allan. Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf ac i wybod pa bryd mae’n Diwrnodau Agored.