Sut beth yw bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd
Cartref y Brifysgol yw canolfan ddinesig ddeniadol Caerdydd, pum munud o waith cerdded o ganol y ddinas. Mae’r adeiladau academaidd, preswylfeydd y myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr o fewn pellter cerdded byr i’w gilydd.
Mae’r Brifysgol yn gwarantu llety i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n dod drwy’r cylch ymgeisio arferol. Mae cyfleusterau ymolchi (en suite) mewn dwy o bob tair o’r ystafelloedd gwely-ac-astudio. Mae pwynt cyswllt cyfrifiadurol â’r rhwydwaith ym mhob ystafell yn y neuaddau preswyl.
Cymorth ariannol
Os yw incwm eich teulu'n llai na £35,000, gallai eich mab/merch fod yn gymwys i gael bwrsariaeth Prifysgol Caerdydd (nad oes angen ei had-dalu) yn ogystal â chyllid statudol gan eu corff ariannu.
Rhagor o wybodaeth am y fwrsariaeth a chymhwysedd.
Mae gennym hefyd nifer o gynlluniau ysgoloriaeth mewn ystod o bynciau ar gyfer y rhai sy'n cyflawni AAA neu gyfwerth.
Costau byw
Bydd eich arian yn mynd yn bellach yng Nghaerdydd gydag atyniadau prif ddinas am brisiau taleithiol – gan gynnwys cyfartaledd costau byw yn is na dinasoedd prifysgol eraill y DU. Cofiwch ddefnyddio ein cyfrifiannell costau byw am fwy o wybodaeth.
Diogelwch
Oherwydd lleoliad canolog dau gampws a neuaddau preswyl y Brifysgol, mae llwybr y daith rhwng canol y ddinas, y Brifysgol a’r cartref yn un hwylus a phrysur ac wedi’i goleuo’n dda. Mae gan y Brifysgol hefyd wasanaeth diogelwch 24-awr ar y ddau gampws a’r neuaddau preswyl, ac mae'n cydweithio’n agos â’r heddlu ac Undeb y Myfyrwyr.
Cefnogi myfyrwyr
Tra bod eich mab/merch yn astudio gyda ni, bydd modd iddynt ddefnyddio’r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr sydd ar gael ar Gampws Cathays a Champws Parc y Mynydd Bychan. Mae ein Canolfan Cefnogi Myfyrwyr yn cynnig cyngor diduedd, anfeirniadol a chyfrinachol yn rhad ac am ddim ynghylch ystod eang o faterion, gan gynnwys arian, cyflogadwyedd a lles.
Bywyd ar ôl Caerdydd
Bydd ein cysylltiadau agos ni â chyflogwyr a chyrff proffesiynol, a safon uchel a chydnabyddedig ein haddysgu, yn golygu y caiff graddedigion Prifysgol Caerdydd eu harfogi â’r sgiliau, y wybodaeth a’r agweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw. Roedd 95% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, i fod i ddechrau swydd neu gwrs newydd, neu wneud gweithgareddau eraill fel teithio. Ffynhonnell: Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2020/21.
Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.
Gallwch ddarganfod mwy am y brifysgol a dinas Caerdydd trwy fynd ar ein taith ryngweithiol ar-lein.