Dewch i gysylltu â’n llysgenhadon myfyrwyr

Hoffech chi wybod rhagor am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd? Mae ein tîm cyfeillgar o lysgenhadon myfyrwyr wrth law i rannu eu cyngor ac ateb eich cwestiynau.
Gofynnwch unrhyw beth iddyn nhw, dim ots a hoffech chi wybod beth yw eu hoff leoedd bwyta, beth maen nhw’n hoffi ei wneud rhwng darlithoedd, neu sut beth yw astudio’r Gyfraith mewn gwirionedd. Byddan nhw'n rhoi eu barn onest i chi am eu cyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd.
Os hoffech chi ddysgu rhagor am ddiwrnod arferol, clybiau, cymdeithasau a bywyd nos yng Nghaerdydd, gan gynnwys cael awgrymiadau defnyddiol, mae ein myfyrwyr sy’n blogio’n cyhoeddi erthyglau amrywiol sy’n cynnig cipolwg ar fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Os ydych yn siarad Cymraeg, darllenwch ein blogiau Cymraeg. Os hoffech ddarllen ein blogiau eraill yn Saesneg, ewch i hafan ein Myfyrwyr sy’n Blogio.
Mae pynciau’n cynnwys:
Dewch i gael gwybod rhagor am astudio a byw yng Nghaerdydd dydd Gwener 27 neu ddydd Sadwrn 28 Mehefin.